Stori newyddion

Anfonwch eich ceisiadau post a gohebiaeth i'r cyfeiriad cywir

Os ydych yn defnyddio'r cyfeiriad anghywir gall effeithio ar flaenoriaeth eich cais.

Post box

O 1 Medi, bydd unrhyw bost a anfonwch i’n cyn ganolfan sganio yn Coventry yn cael ei ddychwelyd atoch. Gall hyn effeithio ar flaenoriaeth eich ceisiadau.

Yn Ebrill, cyhoeddwyd ein bod yn symud ein canolfan sganio o Coventry i Gaerloyw a rhoddwyd manylion am y cyfeiriadau newydd. Rydym wedi bod yn sganio post yn ein canolfan sganio yng Nghaerloyw er 27 Mai.

O 1 Medi, bydd ein cyn ganolfan sganio yn Coventry yn troi’n ysgol leol felly ni fyddwn yn gallu ailgyfeirio unrhyw bost a anfonir yno mwyach.

Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio’r cyfeiriad cywir i anfon eich post i’n canolfan sganio yng Nghaerloyw, oni bai ei fod wedi’i gynnwys o fewn un o’r categorïau hyn o eithriadau:

  • ceisiadau ar gyfer Pridiannau Tir, Credydau Amaethyddol, cofrestru Methdaliad, neu os ydych yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y Gofrestrfa Tir. Rhaid anfon y rhain i’r cyfeiriad eithriadau perthnasol
  • os ydym wedi cytuno i dderbyn eich Cofrestriadau Cyntaf mewn cyfeiriad penodedig arall, dylech barhau i anfon y Cofrestriadau Cyntaf i’r cyfeiriad hwnnw

Rhag ofn nad ydych wedi diweddaru’r cofnodion cyfeiriadau sydd gennych ar ein cyfer eto, dyma’r manylion cyfeiriad ar gyfer y ganolfan sganio yng Nghaerloyw:

Cyfeiriad DX cwsmeriaid busnes:

Land Registry
(nodwch enw swyddfa eich tîm cwsmeriaid. Os nad oes gennych dîm cwsmeriaid, nodwch enw eich swyddfa agosaf)
DX 321601
Gloucester 33

Cyfeiriad Post Brenhinol cwsmeriaid busnes:

Land Registry
(nodwch enw swyddfa eich tîm cwsmeriaid. Os nad oes gennych dîm cwsmeriaid, nodwch enw eich swyddfa agosaf)
PO Box 75
Gloucester
GL14 9BD

Cyfeiriad cwsmeriaid sy’n ddinasyddion:

Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Rydym wedi bod yn sganio ceisiadau o safle canolog er Ionawr 2015 a newidiwyd ein cyfeiriad canolog ar ddiwedd Mai 2016.

Erbyn hyn rydym yn prosesu’r rhan fwyaf o’n gwaith yn electronig felly gallwn ei gyfeirio’n hawdd i’r lle gorau i’w brosesu a pharatoi’n well ar gyfer y gwasanaethau digidol newydd rydym yn eu datblygu.

Mae ein E-wasanaethau busnes yn cynnig dewis ar-lein i gwsmeriaid busnes ar gyfer bron pob peth a wneir ganddynt trwy’r post. Rydym yn argymell eu bod yn anfon ceisiadau atom ar-lein pan fo’n bwysig cael blaenoriaeth ar ein rhestr ddydd.

Cyhoeddwyd ar 12 August 2016