Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb yn ymweld â Liberty Marketing

Heddiw (12 Ionawr) aeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb i ymweld â Liberty Marketing, asiantaeth marchnata digidol yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r asiantaeth wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu trosiant i £5m a dyblu niferoedd ei staff o 40 i 80 dros y tair blynedd nesaf.

Sefydlwyd y cwmni gan Gareth Morgan yn 2008, ac mae wedi tyfu’n organig o flwyddyn i flwyddyn gan greu trosiant o £1.5m ar gyfer ei flwyddyn ariannol ddiwethaf. Prynodd y cwmni brif swyddfa 6,200 o droedfeddi sgwâr hefyd ym Mharc Busnes Caerdydd, Llanisien ar gyfer ei dimau sy’n ehangu, sy’n cynnwys arbenigwyr Talu Fesul Clic, Optimeiddio Chwilotwyr, Marchnata Cynnwys a’r Cyfryngau Cymdeithasol.

Llwyddodd y cwmni i gyflawni mwy yn 2014 nag erioed o’r blaen. Dechreuodd Liberty weithio i frandiau rhyngwladol blaenllaw yn cynnwys Benefit Cosmetics ynghyd ag amrywiaeth o gwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, yn cynnwys BBI. Llwyddodd hefyd i gyflawni statws Buddsoddwyr mewn Pobl, ennill y ‘Busnes Mwyaf Arloesol yng Nghymru’ yng ngwobrau Worldpay Ffederasiwn y Busnesau Bach 2014 a chafodd ei enwi’r 17eg Fusnes sy’n Tyfu Gyflymaf yng Nghymru (allan o 200,000) yng Ngwobrau ‘Fast Growth 50’ Cymru.

Yn seiliedig ar y canlyniadau a gyflawnwyd i gleientiaid, daeth y cwmni yn Bartner Asiantaeth Haen Uchaf Google hefyd, y tro cyntaf i gwmni marchnata digidol o Gymru wneud hynny ac un o lond llaw sydd wedi gwneud hynny ledled y DU gyfan.

Mae’r twf hyd yma wedi bod yn 100% organig gyda dros 80% o fusnesau newydd yn cael eu cyfeirio gan gleientiaid presennol a busnesau eraill. Mae’r sail cleientiaid bellach yn cynnwys dros 100 o gwmnïau a gadwyd ac mae gwerthiannau arfaethedig Liberty ar gyfer 2015 eisoes yn cynnwys cleientiaid cenedlaethol a rhyngwladol sydd ar fin dechrau gweithio yn ystod chwarter cyntaf 2015.

Yn ystod ei ymweliad â Liberty Marketing, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb:

Mae Liberty Marketing yn stori lwyddiant o Gymru ac yn enghraifft berffaith o fusnes sy’n buddsoddi, yn tyfu ac yn creu swyddi yng Nghaerdydd.

Roedd hi’n wych ymweld â’r cwmni uchelgeisiol hwn heddiw a chanfod sut mae’n ehangu ei hun ond hefyd yn helpu cwmnïau eraill i dyfu eu busnesau eu hunain.

Mae cynlluniau cyffrous Liberty ar gyfer ehangu yn dangos bod ein cynllun economaidd hirdymor yn gweithio i Gymru ac rwy’n siŵr y bydd ei lwyddiant yn annog cwmnïau eraill i fuddsoddi a thyfu.

Mae Gareth Morgan, rheolwr gyfarwyddwr Liberty marketing yn hyderus y caiff y cynlluniau ehangu a gyhoeddwyd gan y cwmni eu cyflawni. Dywedodd:

Mae marchnata digidol yn sector diwydiant sy’n tyfu. Mae gwariant cleientiaid bellach yn cwmpasu mwy na marchnata traddodiadol yn cynnwys y teledu a’r wasg.

Mae gennym ni brofiad uniongyrchol o gleientiaid yn dyrannu mwy o’u cyllideb marchnata ar ymgyrchoedd digidol a rhagwelwn y bydd mwy o alw am y gwasanaethau a ddarperir gennym.

Mae’n amser cyffrous i fod yn rhan o’r maes marchnata digidol ac mae gan Liberty yr adnoddau i gystadlu benben ag asiantaethau marchnata digidol blaenllaw eraill yn y DU.

Mae ein hanes profedig o gyflawni canlyniadau i gleientiaid yn hynod nodedig a gallwn recriwtio o gronfa leol o dalentau marchnata proffesiynol sy’n tyfu’n barhaus.

Bydd y tair blynedd nesaf yn heriol ac yn y pen draw yn foddhaus i’n cyflogeion wrth i ni anelu at gyflawni holl amcanion ein busnes a dod yn arweinydd y farchnad yn ein diwydiant.

Cyhoeddwyd ar 12 January 2015