Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Pam fod yn rhaid i'r Deyrnas Unedig aros gyda’i gilydd

Stephen Crabb yn ysgrifennu ar gyfer y Western Mail ar refferendwm annibyniaeth yr Alban a sut y bydd Cymru yn flaenllaw ac wrth galon unrhyw ddiwygio cyfansoddiadol.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yfory (18 Medi) mae pobl yr Alban yn wynebu’r dewis pwysicaf a wneir ganddynt erioed – penderfyniad i aros yn rhan o’r teulu o wledydd sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig neu fynd ar eu liwt eu hunain, a thrwy wneud hynny, ddod â’r holl syniad o Brydain i ben.

Hyd at funud olaf y pleidleisio bydd llawer ohonom ar draws y sbectrwm gwleidyddol yng Nghymru yn gweithio ochr yn ochr i annog ein cefndryd yn yr Alban i ddweud ‘Dim diolch’ wrth ddyfodol yn seiliedig ar wahanu a rhannu. Mae pobl Cymru, o fwyafrif llethol, am i’r Alban aros yn aelod o’r teulu a pharhau i wneud y DU yn llwyddiant.

Ond yn y diwedd, dewis i bobl yr Alban ydyw.

Rhaid iddynt ddewis rhwng y cyfle a’r diogelwch o aros o fewn y DU neu adael am byth. Nid arbrawf, neu rywbeth i roi cynnig arni yw pleidlais dros annibyniaeth. Mae’n derfynol a di-droi’n-ôl.

Mae datganoli yn galluogi pob un o genhedloedd y DU i gael eu pwerau deddfu eu hunain gan sicrhau ar yr un pryd bod ganddynt lais cryf yn llywodraeth y DU hefyd. Mae’n cryfhau hunaniaeth, sefydliadau a diwylliant pob un o’r cenhedloedd, ac yn gwarchod yr undeb gwleidyddol ac economaidd mwyaf llwyddiannus a welodd y byd erioed. Nid cam ymlaen y tu hwnt i ddatganoli yw annibyniaeth; mae’n ei wrthod.

Dylai penderfyniadau ar newid cyfansoddiadol fod yn seiliedig ar ffeithiau nid ffantasi, ac ar farn wybodus. Mae’n ffaith bod gweithio gyda’n gilydd fel rhan o’r Deyrnas Unedig, yn creu gwell cyfleoedd a swyddi mwy diogel – yn enwedig ym meysydd amddiffyn, ynni a gwasanaethau ariannol. Mae’n ffaith ein bod, gyda’n gilydd, yn Deyrnas Unedig o 63 miliwn o bobl a 4.5 miliwn o fusnesau sy’n golygu fod trethi, ad-daliadau morgais, biliau a’r ‘siopa bwyd wythnosol’ yn costio llai.

Gyda’n gilydd mae gennym economi fwy, gryfach a mwy sefydlog, yn gwarchod ein cyfraddau llog, prisiau nwyddau a gwasanaethau, yn ogystal â gwarchod ein gilydd. Rwy’n awyddus iawn i weld yr Alban yn aros o fewn ein teulu o genhedloedd. Does dim dwywaith ein bod yn well gyda’n gilydd.

Does dim dwywaith fod hon yn eiliad o drawma cyfansoddiadol ar gyfer y Deyrnas Unedig. Mae Prydain wedi wynebu her i’w bodolaeth na welwyd ei thebyg o’r blaen, a bydd yn cymryd amser i wella a dod dros hynny. Mae un peth yn sicr: ar ôl yr wythnos hon ni ellir mynd yn ôl i’r status quo. Mae corwynt newid yn chwythu ar draws ein tirwedd gyfansoddiadol.

Drwy ddweud ‘dim diolch’ wrth annibyniaeth ddydd Iau, rydym yn cydnabod nad yw pobl yr Alban yn dweud ‘dim newid’. Bydd pleidlais ‘na’ yn arwain at fwy o bwerau i’r Alban ynghyd â’r sefydlogrwydd a’r diogelwch o barhau o fewn teulu’r DU.

Ond mae’r awydd am newid cyfansoddiadol yn tyfu mewn mannau eraill, gan gynnwys yma yng Nghymru. Bydd y ddadl gyfansoddiadol sydd i ddod yn llawer ehangach na fyddai llawer o bobl wedi’i rhagweld ar ddechrau ymgyrch y refferendwm.

Yr wyf o’r farn ei bod yn hanfodol edrych ar gyfansoddiad y Deyrnas Unedig fel un mater cydlynus am y tro cyntaf. Mae materion cyfansoddiadol pwysig i Gymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr y bydd angen edrych arnynt yn dilyn y refferendwm yn yr Alban.

Rwy’n benderfynol na chaiff Cymru ei gadael ar ôl pan ddaw’n fater o adnewyddu cyfansoddiadol. Bydd Cymru’n flaenllaw ac wrth galon pethau wrth i ni edrych eto ar ein fframwaith cyfansoddiadol.

Ar bob achlysur pan roddwyd cyfle i bobl Cymru bleidleisio am fwy neu lai o ddatganoli, maent wedi dewis mwy. Dyna’r cyfeiriad clir i deithio iddo ac rwy’n falch o fod yn rhan o Lywodraeth sydd â hanes cadarn ar ddatganoli.

Ers 2010 rydym eisoes wedi cyflwyno un refferendwm llwyddiannus yng Nghymru a oruchwyliodd y symudiad tuag at bwerau deddfu llawn ar gyfer Llywodraeth Cymru ac rydym ar hyn o bryd wrthi’n pasio deddf i drosglwyddo pwerau trethu sylweddol i’r Cynulliad.

Rwyf wedi datgan yn glir fy mod yn ymroddedig i weithio gyda’r farn gyhoeddus mewn modd realistig, pragmatig a chyda meddwl agored er mwyn cyflawni setliad datganoli sy’n gweithio i Gymru. Mae consensws pendant yng Nghymru o blaid dyfodol yn seiliedig ar ddatganoli o fewn y DU nid annibyniaeth. Mae’r undod hwnnw’n rhoi man cychwyn cadarn i ni yn y ddadl sydd bellach ar gychwyn. Credaf mewn datganoli gyda diben iddo.

Mae Refferendwm yr Alban wedi arwain llawer o bobl i werthfawrogi am y tro cyntaf yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Deyrnas Unedig, a’r manteision sy’n deillio o fod yn rhan o deulu o genhedloedd. Rhaid i ni beidio â cholli golwg ar hynny. Rhaid i’r dull tameidiog o weithredu o ran datganoli a fodolai yn y gorffennol newid i greu dull mwy cynhwysfawr sy’n ymateb i anghenion a dyheadau cenhedloedd unigol o fewn fframwaith y DU.

Yfory, bydd pobl yr Alban yn penderfynu nid yn unig beth fydd eu ffawd, ond hefyd beth fydd dyfodol Prydain, a dyfodol yr holl bobl ar yr ynysoedd hyn fel y maent ar hyn o bryd. Rydym ar fin cyrraedd pennod newydd yn ein hanes cyfansoddiadol ac rwy’n gobeithio y bydd pobl yr Alban yn dewis aros ac ymuno â phobl Cymru i lunio tirwedd ein Teyrnas Unedig i’r dyfodol.

Cyhoeddwyd ar 17 September 2014