Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn croesawu sgyrsiau ar Lagŵn Llanw Bae Abertawe

Dywedodd Stephen Crabb: "Rydw i am i Gymru gael pŵer cyntaf yn y byd cynhyrchu morlyn llanw."

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Roedd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, yn croesawu’r cam ymlaen heddiw (2 Rhagfyr) at y posibilrwydd y bydd y morlyn llanw cyntaf yn y byd i gynhyrchu pŵer yn cael ei adeiladu yng Nghymru.

Mae’n dilyn y cyhoeddiad heddiw yn y Cynllun Seilwaith Cenedlaethol y bydd y Llywodraeth yn dechrau cynnal trafodaethau manylach gyda Tidal Lagoon Power Ltd sydd eisiau adeiladu morlyn llanw ym Mae Abertawe.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru a gallai roi hwb enfawr i economi Cymru - gan greu miloedd o swyddi, denu gwerth miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad a helpu i sicrhau dyfodol ynni Cymru.

Mae Cymru eisoes yn gartref i rai o gwmnïau mwyaf arloesol y byd ac mae’r wlad mewn safle unigryw er mwyn arloesi pŵer y llanw.

Rwy’n cefnogi’r prosiect hwn i’r carn ac rwyf wedi dadlau ers tro byd â’m cyd-Weinidogion yn y Cabinet y dylai arloesedd Cymreig fod yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o dechnoleg carbon isel.

Cyhoeddwyd ar 2 December 2014