Stori newyddion

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn croesawu myfyrwyr o Brifysgol Ryngwladol Malaya-Cymru

David Jones AS: “Mae cysylltiadau addysgol Malaysia â'r DU yn unigryw”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Secretary of State for Wales David Jones MP with students from the International University of Malaya-Wales

Secretary of State for Wales David Jones MP with students from the International University of Malaya-Wales

Cafodd y grŵp cyntaf o fyfyrwyr o Brifysgol Ryngwladol Malaya-Cymru (IUMW) i ymweld â Chymru eu croesawu heddiw (19eg Mai) ar ffurf derbyniad yng Nghaerdydd, dan arweiniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS.

Hwn oedd diwrnod cyntaf ymweliad 10 diwrnod y myfyrwyr â Phrifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r ymweliad cyntaf hwn yn paratoi’r ffordd ar gyfer ymweliadau a chynlluniau cyfnewid rhwng Malaysia a Chymru yn y dyfodol.

Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gryfhau ei pherthynas â Malaysia. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 14,000 o fyfyrwyr o Malaysia yn y DU yn ymgymryd ag astudiaethau pellach ynghyd â 58,000 ychwanegol naill ai yn dilyn rhaglenni gradd y DU neu’n astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol y DU ym Malaysia.

Dywedodd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae perthynas Malaysia â’r DU yn hynod o bwysig ac mae’r cysylltiadau addysgol rhyngom yn unigryw. Felly, pleser o’r mwyaf i mi yw croesawu myfyrwyr o Brifysgol Ryngwladol Malaya-Cymru yng Nghaerdydd.

“Yn gynharach eleni mi wnes i gyfarfod ag arweinwyr busnes ym Malaysia fel rhan o daith masnach a diplomyddol i’r ardal ac mi welais â’m llygaid fy hun y cyfleoedd enfawr sydd ar gael yn y marchnadoedd datblygol hyn.

Dyna pam rydym ni fel llywodraeth yn ehangu cysylltiadau rhwng Malaysia a gweddill y DU ym meysydd masnach, buddsoddi, chwaraeon, gwyddoniaeth ac, wrth gwrs, addysg. Rydym am sicrhau bod cwmnïau Prydain yn cael y cyfleoedd gorau posibl i gystadlu yn y ras fyd-eang.

Mae’r ymweliad heddiw hefyd yn rhan o ymrwymiad y prifysgolion i gynhyrchu graddedigion sy’n gallu gweithredu mewn amgylchedd byd-eang, sy’n ddiwylliannol ymwybodol ac sydd â sgiliau rhyngbersonol a sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn. Mae cysylltiadau agos â Chymru yn rhan annatod o brofiad y myfyriwr yn IUMW.

Dywedodd yr Athro, Dr Hamzah A Rahman, Llywydd Prifysgol Ryngwladol Malaya-Cymru:

Mae’r ymweliad hwn yn rhan o raglen Prifysgol Ryngwladol Malaya-Cymru i gyflwyno’r myfyrwyr i amgylchedd astudio rhyngwladol.

Trefnwyd y rhaglen fel bod myfyrwyr IUMW yn gallu ymgysylltu wyneb yn wyneb mewn modd gweithredol â’u cymheiriaid yn y DU er mwyn rhannu a chyfnewid gwybodaeth, arbenigedd ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol.

Mae hwn hefyd yn llwyfan i’r myfyrwyr sefydlu cysylltiadau rhwydweithio â gwladolion eraill. Mae rhwydweithio o’r fath yn elfen werthfawr o’u cwrs astudio yn IUMW ac ar gyfer eu galwedigaeth yn hwyrach ymlaen.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Cymru:

Mae Prifysgol Ryngwladol Malaya-Cymru yn ddatblygiad newydd cyffrous sy’n dathlu’r traddodiad academaidd hirsefydlog o bartneriaethau strategol rhwng prifysgolion yng Nghymru a Malaysia.

Yr ymweliad hwn yw’r cyntaf mewn cyfres a fydd yn dathlu cydwladoldeb, ymwybyddiaeth ddiwylliannol a dinasyddiaeth fyd-eang rhwng Malaysia a Chymru.

Mae hefyd yn paratoi’r ffordd ar gyfer cynlluniau cyfnewid i’r ddwy wlad ac i hybu addysg ryngwladol.

Dywedodd Shanker Kathiraisen, Llywydd Cyngor Myfyrwyr Prifysgol Ryngwladol Malaya-Cymru:

Hwn fydd y tro cyntaf i lawer o’r myfyrwyr deithio i’r DU. Maent yn teimlo’n gyffrous iawn am y fenter ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’u cyd-fyfyrwyr yng Nghymru ar amryw o brosiectau.

Mae’r grŵp yn cynnwys myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o’r Gyfadran Gweinyddu Busnes yn IUMW yn ogystal â swyddogion Cyngor Myfyrwyr IUMW.

Fel rhan o’r ymweliad, bydd y grŵp hefyd yn ymweld â chwmnïau lleol, yn cyfarfod entrepreneuriaid lleol ac yn cael taith o amgylch Cynulliad Cymru a Dau Dŷ’r Senedd.

Croesawodd David Jones y myfyrwyr yn swyddfeydd Swyddfa Cymru ym Mhwynt Caspian.

Gwybodaeth bellach:

  • Malaysia yw’r farchnad fwyaf ar gyfer darpariaeth drawswladol y DU ym maes addysg uwch. Yn ôl data’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), mae bron i bedair gwaith yn fwy o fyfyrwyr yn astudio rhaglenni addysg uwch y DU ym Malaysia na sydd o bobl o Malaysia yn astudio yn y DU.

  • Mae’r Cyngor Prydeinig wedi bod yn gweithredu ym Malaysia ers 1947 a bob blwyddyn mae 150,000 o bobl yn mynychu digwyddiadau’r Cyngor Prydeinig neu’n cymryd rhan yn eu gweithgareddau.

  • Mae gan oddeutu 60 o sefydliadau trydyddol gysylltiadau neu drefniadau cydweithredol â sefydliadau cyfatebol ym Malaysia ac ym Malaysia hefyd y ceir y rhaglen Chevening fwyaf ond dwy yn y byd.

  • Mae’r DU yn fuddsoddwr blaenllaw ym Malaysia, gyda chwmnïau a brandiau mewn sawl diwydiant, gan gynnwys gwasanaethau adwerthol, ariannol a chyfreithiol, addysg, gofal iechyd, gweithgynhyrchu ac olew a nwy.

  • I gyd gyda’i gilydd, roedd masnach rhwng Malaysia a’r DU werth £3.25biliwn yn 2013, cynnydd o 1% o gymharu â 2012. Roedd allforion y DU i Malaysia werth £1.57biliwn yn 2013, cynnydd o 6% ers 2012.

Cyhoeddwyd ar 19 May 2014