Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Rhoi busnesau wrth wraidd ein cynllun economaidd hirdymor
Bydd Stephen Crabb yn dweud wrth arweinwyr busnes sut mae llywodraeth y DU yn helpu economi Cymru i ddenu buddsoddiadau a chreu swyddi.

Cyn Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU yr wythnos hon, bydd Stephen Crabb yn annerch cynulleidfa sy’n cynnwys arweinwyr busnes o amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys gweithgynhyrchu, peirianneg ac awyrofod, yng nghinio’r CBI yn Llundain heno (17 Tachwedd).
Bydd Stephen Crabb yn dweud:
Rydyn ni wedi gwneud busnesau’n rhan greiddiol o’n cynllun economaidd hirdymor ar gyfer Cymru.
Gan fod 23,000 o swyddi newydd wedi’u creu yn y sector preifat yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n amlwg fod y cynllun yn gweithio.
Rwy’n credu mai’r ffordd orau i gefnogi busnesau yw drwy wneud y DU yn fwy cystadleuol. Bydd y gostyngiad yn y dreth gorfforaeth i 20 y cant y flwyddyn nesaf yn golygu mai cyfradd y DU fydd yr isaf yn y G20.
Rydyn ni wedi rhoi Lwfans Cyflogaeth o £2,000 i bob cwmni, sy’n golygu bod 35,000 o fusnesau yng Nghymru wedi elwa, ac rydyn ni’n eithrio 20,000 rhag talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gyfan gwbl.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddileu neu wella dros 3,000 o reoliadau, gan arbed dros £850 miliwn i fusnesau bob blwyddyn.
Byddaf yn dal ati i gefnogi mesurau sy’n annog busnesau i fuddsoddi a thyfu er mwyn iddyn nhw allu creu rhagor o swyddi a rhoi sicrwydd cyflog rheolaidd i ragor o bobl yng Nghymru.
Mae gen i uchelgais i Gymru, ac rwy’n benderfynol o roi cyfle i bobl Cymru lwyddo, fel y maen nhw’n ei haeddu.
Bydd dros 150 o arweinwyr busnes yn dod i Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU yng Nghasnewydd, Cymru ar 20-21 Tachwedd 2014.
Bydd yr Uwchgynhadledd yn cyflwyno Cymru fel canolfan ragoriaeth yn y DU o ran technolegau arloesol, a bydd yn cryfhau sefyllfa Cymru fel cyrchfan bwysig ar gyfer buddsoddiadau o dramor yn y DU.
Rhagor o wybodaeth;Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU