Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cynnal derbyniad i ddathlu Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog
David Jones yn tynnu sylw at waith Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog yng Nghymru

Welsh countryside
I nodi dechrau Wythnos Genedlaethol Cefn Gwlad (14eg i 20fed Gorffennaf 2014) cynhelir derbyniad yn San Steffan i dynnu sylw at waith Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog yng Nghymru. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan David Jones, AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Ymddiriedolwr Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog, yr Arglwydd Curry o Kirkhale.
Ers lansio’r Gronfa yn 2010 mae wedi darparu grantiau i gefnogi naw o brosiectau yng Nghymru a bydd cynrychiolydd o bedwar o’r rhain yn y Derbyniad. Mae 92 o brosiectau wedi cael eu cefnogi’n genedlaethol ac mae dros £3.8 miliwn wedi cael ei roi i helpu ein cymunedau gwledig, ein ffermwyr a’n pobl ifanc.
Mae Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog hefyd wedi rhoi cyllid brys i ffermwyr yng Nghymru, yn enwedig ffermwyr mynydd a gollodd nifer fawr o ddefaid a’u hŵyn wrth i luwchfeydd eira trychinebus effeithio ar rannau o Gymru.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Rwyf wrth fy modd fy mod yn cael cynnal y derbyniad yn Nhŷ Gwydyr heno (14 Gorffennaf) sy’n rhoi cyfle gwerthfawr i amlygu gwaith ardderchog Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog.
Mae eu gwaith yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys prentisiaethau a hyfforddiant i bobl ifanc, cefnogaeth ymarferol a bugeiliol i ffermwyr, cymorth busnes i fenywod a phrosiectau i addysgu plant ysgol.
Dywedodd Helen Aldis, Rheolwr Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog:
Mae Cymru yn ardal wledig bwysig iawn i’r Gronfa. Rydyn ni’n chwilio am ragor o brosiectau i’w helpu yn y rhanbarth – yn ogystal â chysylltu â chwmnïau yng Nghymru i edrych sut gallan nhw ymuno â ni a chefnogi ein gwaith.
Y materion mae Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog yn mynd i’r afael â nhw: mae incwm ffermio isel, dirywiad mewn cymunedau gwledig, mynediad i hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc ac ynysu gwledig i gyd yn faterion mawr yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â’r rhain.
Cafodd Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog ei sefydlu gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru i gefnogi’r llu o sefydliadau ac unigolion hynod sy’n gweithio’n ddiflino i gadw ffermwyr yn ffermio a’n cymunedau gwledig yn fyw.
Gwybodaeth bellach:
- Cafodd Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog ei sefydlu gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru sydd wedi ymrwymo ers tro byd i gefnogi ardaloedd gwledig sydd dan bwysau ym Mhrydain.
- Cafodd ei sefydlu gan Fusnes yn y Gymuned ym mis Gorffennaf 2010. Hyd yn hyn mae wedi rhoi dros £3.8 miliwn mewn grantiau sydd wedi cael eu dosbarthu i dros 90 o brosiectau ar draws y wlad, gan roi budd uniongyrchol i 64,000 o bobl.
- Mae’r prosiectau sydd wedi cael cyllid yn amrywio o brentisiaethau i gyw ffermwyr mynydd, hyfforddiant i bobl ifanc i gael cyflogaeth yn yr economi wledig, cynlluniau cludiant cymunedol mewn ardaloedd gwledig ynysig a phrosiectau i addysgu plant ysgol ynghylch o ble daw eu bwyd a pham bod cefn gwlad yn bwysig.
- Yn ogystal â’r broses ymgeisio arferol, mae’r Gronfa hefyd yn gweithredu cronfa frys pan fydd yr angen yn codi.
- Mae’r holl brosiectau’n canolbwyntio ar gefnogi’r bobl sy’n gofalu am ein cefn gwlad ac yn gwneud iddo weithio.
Mae Prosiectau Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog yn cynnwys:
Addysg Ffermio a Chefn Gwlad:
Nod FACE yw addysgu plant a phobl ifanc am fwyd a ffermio mewn cefn gwlad cynaliadwy. Gan gynrychioli 13,250 o athrawon a 129 o ffermwyr mae’n elusen genedlaethol. Mae FACE wedi cael grant ychwanegol o £150,000 dros ddwy flynedd i ymestyn y rhaglen ‘Mae Cefn Gwlad yn Bwysig’, drwy ymweliadau â ffermydd neu weithgareddau yn yr ysgol fel tyfu neu goginio bwyd ffres.
Rhwydwaith Cymuned Ffermio:
Mae’r Rhwydwaith Cymuned Ffermio yn darparu cefnogaeth ymarferol a bugeiliol i helpu ffermwyr i ganfod ffordd gadarnhaol ymlaen drwy eu problemau. Mae’r prosiect yn delio â’r cyfle i gynnal ffermio Prydeinig yn yr ardaloedd sydd â’r angen mwyaf. Mae cyllid wedi cael ei ddarparu i gynyddu’r ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau yng Nghymru drwy gynhyrchu llenyddiaeth yn Gymraeg ac yng Nghaint, Swydd Henffordd, a Swydd Gaergrawnt. Mae’r grant yn golygu bod mwy o fusnesau ffermio wedi cael eu cefnogi.
Pub is the Hub
Wedi’i sefydlu gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, mae The Pub is the Hub yn hwyluso prosiectau drwy annog a helpu trwyddedeion a chymunedau i gysylltu a rhannu eu profiadau a chydweithio i gefnogi a chynnal eu gwasanaethau lleol. Mae grant y Gronfa wedi golygu bod modd cyflwyno’r rhaglen hon yng Nghymru, gyda’r targed o gynghori 92 o gymunedau.
WiRE
Mae Menywod mewn Mentrau Gwledig yn sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi menywod gwledig sy’n berchen ar fusnes neu sydd eisiau cychwyn busnes ac mae’n darparu cymorth busnes a chyngor ar gychwyn busnes. Mae grant Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog wedi cefnogi eu Rhaglen Arwain Rhwydwaith. Eu nod yw datblygu sgiliau arwain arweinwyr rhwydwaith sy’n darparu cyngor ‘ar lawr gwlad’.
Dyma’r cwmnïau sy’n cefnogi’r Gronfa: Asda, Aquascot, Barbour, Barclays, Booths, Coutts, Dairy Crest, Dalehead Foods, Dovecote Park, Duchy Original, Ginsters, HSBC, Hunter, Jordans & Ryvita, Kerry Foods, Land Rover, Lloyds, McDonald’s, Marks & Spencer, Moy Park, Musto, Produce World, Strutt & Parker, United Biscuits a Waitrose.
Mae’r cyhoedd yn gallu rhoi arian ar-lein yn Virgin Giving, yn Swyddfa’r Post neu drwy Neges Destun. Tecstiwch PCF i 70300 a bydd £3 yn cael ei roi i Gronfa Cefn Gwlad y Tywysog.
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Cefn Gwlad, mae Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog yn annog pawb i fynd allan am dro a mwynhau a gwerthfawrogi cefn gwlad.
Dysgwch fwy am The Prince’s Countryside Fund
Image courtesy of Justin Norris on Flickr, used under Creative Commons.