Sicrhau dyfodol disglair i’ch prosiect pres poced
Mae CThEF yn atgoffa pobl sy’n ennill arian o brosiectau pres poced i wirio a oes angen iddynt gofrestru ar gyfer Hunanasesiad a datgan eu hincwm. Mae offer ar-lein am ddim ac arweiniad ar gael ar GOV.UK i’w helpu.
- Mae priodasau ym mhobman – a law yn llaw â hynny, dyma nodyn atgoffa y gallai incwm o brosiectau pres poced fod yn drethadwy
- Mae’n bosibl y bydd angen i’r sawl sy’n ennill mwy na £1,000 gofrestru ar gyfer Hunanasesiad a datgan eu hinwcm i Gyllid a Thollau EF (CThEF)
- Gall offeryn ar-lein rhad ac am ddim helpu pobl sy’n ennill arian ychwanegol wirio a oes angen iddynt roi gwybod am eu hincwm ychwanegol a phryd y mae angen iddynt wneud hynny
Mae’r gwahoddiadau wedi’u hanfon, mae’r lleoliad wedi’i drefnu ac mae’r blodau wedi’u harchebu - ond i’r rhai sy’n cyflenwi nwyddau ar gyfer priodasau ac sydd wedi troi eu hobi’n brosiect pres poced, mae un dasg fach arall i’w gwneud: gwirio’u hymrwymiadau treth.
Mae’n gyfnod prysur i briodasau, ac mae CThEF yn atgoffa’r sawl sy’n ennill incwm ychwanegol o weithgareddau fel gwerthu papurach priodas, ffilmio’r ddawns gyntaf neu greu’r gacen, bod angen iddynt roi gwybod i CThEF os byddant yn ennill mwy nag £1,000.
Mae ymgyrch CThEF, Help ynghylch Prosiectau Pres Poced, yma i helpu’r sawl sydd â phrosiect pres poced gael eu treth yn gywir, a hynny mewn ffordd gyflym a hawdd. Mae hynny’n cynnwys y rhai sy’n cyflenwi nwyddau i briodasau, rhieni sy’n ennill arian o fusnes sy’n hobi neu grewyr cynnwys sy’n gwneud arian drwy bostio am y pethau poblogaidd diweddaraf ar-lein.
Meddai Kevin Hubbard, Cyfarwyddwr Unigolion a Busnesau Bach CThEF:
“Mae prosiect pres poced yn ffynhonnell incwm ychwanegol werthfawr i lawer o bobl. Os ydych yn ennill mwy na £1,000 o’ch prosiect pres poced, mae’n bwysig i chi ddeall eich cyfrifoldebau treth, ac mae CThEF am wneud hynny mor syml â phosibl.
“Gallwch wirio a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad drwy ddefnyddio’r offeryn ar GOV.UK. Mae’n cymryd munudau’n unig i’w ddefnyddio, ac mae’n rhoi gwybod yn union beth sydd angen i chi ei wneud ac yn golygu na fydd biliau treth annisgwyl yn eich cyrraedd yn y pen draw.”
Os yw rhywun wedi ennill mwy na £1,000 o’i brosiect pres poced mewn blwyddyn dreth, efallai y bydd angen iddo lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gall ddefnyddio’r offeryn ‘O ble mae’ch incwm ychwanegol yn dod? ar GOV.UK. Mae’n cymryd munudau’n unig i’w ddefnyddio, ac, os oes angen llenwi Ffurflen Dreth, bydd yn esbonio sut i gofrestru.
Dylai’r rhai sy’n newydd i Hunanasesiad gofrestru ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 erbyn 5 Hydref 2026. Mae’n rhaid iddynt gyflwyno’u Ffurflen Dreth ar-lein a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr 2027.
Mae’r trothwy o £1,000 yn cynnwys yr holl incwm a ddaw o brosiectau pres poced. Felly, os bydd rhywun yn ennill £600 o dynnu lluniau priodas a £500 o bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, byddai angen iddynt gofrestru ar gyfer Hunanasesiad oherwydd bod cyfanswm eu henillion dros £1,000.
Nid yw pob incwm ychwanegol yn drethadwy. Fel arfer, does dim angen rhoi gwybod i CThEF ynghylch gwerthu eitemau personol diangen - fel clirio’ch cypyrddau dillad. Fodd bynnag, mae cynnig gwasanaeth yn gyfnewid am dâl neu werthu nwyddau am elw yn gyson, yn debygol o gyfri fel masnachu ac mae’n bosibl y bydd angen datgan hyn. Gall cwsmeriaid wirio a oes angen iddyn nhw roi gwybod i CThEF am incwm ychwanegol ar GOV.UK.
Astudiaeth achos
“Cyn gynted a dechreuodd yr archebion priodas gyrraedd, ro’n i’n gwybod bod angen i mi edrych ar fy nhreth”
Ar hyn o bryd, mae Lianna Dickson, 30, o Livingston, ar gyfnod mamolaeth o’i rôl yn y maes marchnata i ddylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn rhedeg busnes llwyddiannus i greu cynnwys priodasau law yn llaw â’i bywyd teuluol fel mam newydd.
Ar ôl priodi yn 2024, gwnaeth Lianna sylweddoli ei bod hi’n difaru peidio â hurio crëwr cynnwys i gipio’r eiliadau o’r tu ôl i’r llen o’i phriodas hi ei hun. Felly, o ganlyniad i gefndir yn y cyfryngau cymdeithasol a breuddwyd o redeg ei busnes ei hun, gwelodd y cyfle i gyfuno’r ddau beth a lansiodd Captured By Fifteen.
Meddai Lianna:
“Syrthiais i dros fy mhen a fy nghlustiau mewn cariad â phopeth a oedd yn gwneud â phriodasau yn dilyn fy mhriodas i, felly meddyliais i mai dyma’r ffordd berffaith i gyfuno rhywbeth ro’n i’n dwlu arno gyda’r profiad gwaith oedd gen i.”
Fel crëwr cynnwys, mae Lianna’n cipio’r eiliadau arbennig sy’n digwydd y tu ôl i’r llen ar ei ffôn wrth iddynt ddigwydd, ac yn anfon y ffilmiau gwreiddiol a’r rîls proffesiynol o uchafbwyntiau’r dydd cyn pen 24 awr.
“Mae’r pâr yn gallu deffro ac ail-fyw eu priodas gyfan drannoeth yn y ffordd fwyaf naturiol.”
Tyfodd ei busnes yn gyflym ac o fewn y flwyddyn gyntaf roedd hi wedi ffilmio bron i 50 o briodasau. Wrth i’r archebion gyrraedd ac i’r incwm dyfu, roedd hi’n gwybod bod angen iddi fynd i’r afael â’i threth.
“Cyn gynted a dechreuais i gael archebion ar gyfer sawl priodas, ro’n i’n gwybod bod hyn yn mynd i ddod â thipyn o arian ychwanegol. Gwnes i ddarllen llawer o wybodaeth ar GOV.UK a gwefan CThEF. Unwaith i mi sylwi bod fy incwm dros y lwfans incwm masnachu o £1,000, ro’n i’n gwybod y byddai angen i mi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Roedd popeth ar-lein yn hawdd iawn ei ddeall.”
Gwelodd fod y broses yn haws na’r disgwyl, a chadwodd daenlen fanwl a oedd yn cynnwys tabiau ar gyfer anfonebau, gwariant, tanysgrifiadau a manylion ynghylch milltiroedd er mwyn bod ar ben ei ffigurau drwy gydol y flwyddyn.
“Gwnes i lenwi fy Ffurflen Dreth cyn pen awr. Roedd hi llawer yn haws na’r disgwyl. Ro’n i’n meddwl y byddai’n angen i mi nodi pob trafodyn yn unigol a byddai hynny’n cymryd oriau, ond nid dyna sut oedd hi mewn gwirionedd. Ro’n i wedi bod yn cadw cofnod o’r holl ffigurau, felly dim ond mater o lenwi’r wybodaeth a chopïo’r ffigurau i’r ffurflen oedd hi.”
Mae ei chyngor i bobl eraill mewn sefyllfa debyg yn syml.
“Cadwch gofnod o bopeth a siaradwch gyda rhywun sy’n deall y broses — neu chwiliwch am fideos o rywun yn egluro’r peth i chi os ydych chi’n ei chael hi’n anodd darllen pethau’n unig.”
Mae Lianna’n esbonio ar YouTube sut y dechreuodd ei phrosiect pres poced.
Mae CThEF yn annog pawb sydd mewn sefyllfa debyg - gan gynnwys y rhai sy’n ffilmio priodasau, tynnu lluniau o’r digwyddiadau, pobi’r gacen neu’n gwerthu nwyddau a wnaed â llaw - i ddefnyddio’r arweiniad Help Treth ar gyfer Prosiectau Pres Poced neu offeryn ar-lein CThEF sy’n rhad ac am ddim i wirio a oes angen iddynt gofrestru.
Nodiadau i Olygyddion
Mae arweiniad pellach a gwybodaeth ynghylch llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar GOV.UK ynghyd â rhestr o’r bobl y mae angen iddynt lenwi Ffurflen Dreth
Mae’r lwfans masnachu o £1,000 yn golygu nad oes angen i unrhyw un sy’n ennill llai na £1,000 mewn blwyddyn dreth ddatgan hynny na thalu treth arno.
Dylai’r sawl nad oes angen iddynt gyflwyno eu Ffurflen Dreth bellach roi gwybod i CThEF cyn gynted â phosibl i osgoi cael unrhyw gosbau.
Mae arweiniad yr ymgyrch Help Treth ynghylch Prosiectau Pres Poced yn cwmpasu pedwar maes allweddol: prynu neu greu pethau i’w gwerthu; rhoi gwasanaeth (h.y gyrwyr dosbarthu parseli, hyfforddwyr ymarfer corff); creu cynnwys a dylanwadu; a rhoi eiddo ar osod.
Yn ôl gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan CThEF, a gafodd ei gyhoeddi yn 2023, mae un ym mhob deg o bobl yn y DU yn gweithredu yn yr economi gudd, a 65% ohonynt heb wybod y dylent fod wedi’u cofrestru ar gyfer treth.
Dyma’r rhesymau dros beidio â datgan yn ôl gwaith ymchwil CThEF: dywedodd 35% fod eu hincwm yn rhy fach i fod o bwys; dywedodd 32% nad oedd hi’n werth treulio’r amser arno; dywedodd 21% fod yr incwm yn anghyson neu dros dro felly doedden nhw ddim yn gwybod bod angen iddynt ei ddatgan; dywedodd 22% ei fod yn anghyson neu dros dro ac felly nid oedd hi’n werth treulio’r amser arno.