Datganiad i'r wasg

Y Bathdy Brenhinol Yn Nodi Unwchynhadledd NATO

Mae’r Bathdy Brenhinol wedi creu darn arbennig i gofio am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru ym mis Medi 2014.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd 157 o’r darnau arbennig hyn yn cael eu cynhyrchu a’u rhoi i bob arweinydd byd sy’n dod i’r uwchgynhadledd i gofio’r hyn a fydd yn uwchgynhadledd hollbwysig yn nyfodol NATO.

Bydd darn hefyd yn cael ei roi i’r 57 ysgol yng Nghasnewydd i gofio’r rhan arbennig mae Casnewydd yn ei chwarae yn yr uwchgynhadledd hon.

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson yn ymuno â Dirprwy Faer a Maeres Casnewydd yn y Bathdy Brenhinol ym Mhont-y-clun heddiw (dydd Mercher) i weld y darn olaf yn cael ei fathu.

Bydd cadetiaid Cymreig hefyd yn ymuno â nhw o bob rhan o’r lluoedd a fydd yn cynrychioli rhai o’r ysgolion a fydd yn cael y darnau. Mae’r Bathdy Brenhinol yn cyflogi dros 900 yn lleol yn Ne Cymru ac mae’n darparu’r arian ar gyfer dros 60 o wledydd ar draws y byd.

Wedi’i ddylunio gan engrafwr talentog y Bathdy Brenhinol, Jody Clark, bydd pob darn efydd, gyda diamedr o 63mm, yn dangos y map eiconig o Gymru gydag ‘Uwchgynhadledd NATO Cymru 2014’ yn Gymraeg ac yn Saesneg ar un ochr, a logo NATO ar yr ochr arall. Cafodd y dyluniad ei ddatblygu drwy ddefnyddio technegau modern gyda chymorth cyfrifiadur, ac wedyn cafodd ei drosglwyddo i fodel tri dimensiwn lle cafodd ei wella cyn creu offer traddodiadol pwrpasol i fathu’r darnau arbennig i gofio’r achlysur. Byddan nhw’n cael eu cyflwyno i’r arweinwyr a’u rhoi i’r ysgolion - gyda rhai darnau’n cael eu cyflwyno’n bersonol gan gynrychiolwyr o’r uwchgynhadledd - tuag adeg yr uwchgynhadledd fis Medi yma.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:

Dwi wrth fy modd yn gweld y darn hwn i gofio’n cael ei fathu yn y Bathdy Brenhinol ar gyfer Uwchgynhadledd NATO fis nesaf yng Nghasnewydd.

Mae’n ffordd wych o helpu i nodi’r cynulliad mwyaf o arweinwyr y byd a welwyd erioed yn y DU ac yn ddiau bydd yn creu synnwyr cryf o falchder a chyffro mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Mae’r uwchgynhadledd hon yn gyfle enfawr i arddangos Cymru a’r cyfan sydd ganddi i’w gynnig ar y llwyfan byd eang – dwi’n ffyddiog y gallwn gyrraedd y nod.

Dywedodd Shane Bissett, Cyfarwyddwr Ceiniogau, Medalau a Bwliwn y Bathdy Brenhinol:

Rydyn ni wedi ennill enw da ac ymddiriedaeth am ddarparu ceiniogau a darnau i gofio ar gyfer brenhinoedd, breninesau a llywodraethau ers dros 1,000 o flynyddoedd, gan gynhyrchu ceiniogau Prydeinig sydd wedi cofnodi hanes, newidiadau mewn brenhinoedd, themâu cenedlaethol a digwyddiadau pwysig.

Mae gwledydd eraill hefyd wedi ymddiried yn y Bathdy Brenhinol ers blynyddoedd i gynhyrchu eu harian nhw hefyd, ac rydym yn cyflenwi dros 60 o wledydd ar draws y byd. Mae hi’n anrhydedd mawr cael cyfle i nodi Uwchgynhadledd 2014 Cymru NATO yn y ffordd hon, a rhoi rhywbeth i arweinwyr y byd gael cofio am eu hymweliad â Chymru.

Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales

Cyhoeddwyd ar 12 August 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 August 2014 + show all updates
  1. Updated image.

  2. Added translation