Datganiad i'r wasg

Cyhoeddi Canlyniadau Cynllun Peilot Gwrandawiadau A Gynhelir Yn Gyfan Gwbl Drwy Gyswllt Fideo

Roedd defnyddwyr y llys a gymerodd ran yn y gwrandawiadau cyntaf erioed i gael eu cynnal yn gyfan gwbl drwy gyswllt fideo o’r farn eu bod yn gyfleus ac yn hawdd i’w deall, yn ôl adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd heddiw.

Laptop with video screens
  • Profi gwrandawiadau trwy gyswllt fideo am y tro cyntaf fel rhan o raglen £1bn diwygio’r llysoedd
  • Nododd y gwerthusiad eu bod yn hawdd i’w deall a’u bod wedi cael eu croesawu gan ddefnyddwyr y llys
  • Bydd gwelliannau technolegol yn cael eu cyflwyno wrth symud ymlaen

Gan weithio’n agos â’r farnwriaeth, mi wnaeth y cynllun peilot a oedd yn cynnwys wyth achos, sicrhau bod y gwrandawiadau yn cael eu cynnal fel petaent mewn ystafell llys draddodiadol ac roeddynt yn anelu at brofi profiadau unigolion a’r gefnogaeth ofynnol fyddai ei hangen yn y dyddiau cynnar.

Cynhaliwyd y cynllun peilot hwn ar raddfa fach yn y tribiwnlys treth haen gyntaf a dyma’r tro cyntaf i bob parti allu mynychu trwy gyswllt fideo. Cynhaliwyd y gwrandawiadau dros y rhyngrwyd, gyda phob cyfrannwr yn mewngofnodi o leoliad o’u dewis nhw gan ddefnyddio eu hoffer eu hunain, ac at ddiben y peilot, roedd y barnwr wedi ei leoli yn yr ystafell llys.

Mae gwerthusiad annibynnol a gyhoeddwyd heddiw gan yr Ysgol Economeg yn Llundain, yn dangos bod y peilot yn llwyddiannus ymysg apelyddion a oedd yn croesawu’r cyfle i beidio â gorfod teithio i ystafell llys - gydag un person sy’n byw dramor yn nodi ei fod wedi osgoi’r angen iddynt hedfan i’r DU ac roedd mam newydd yn croesawu’r cyfle i allu bod yn bresennol o’i chartref. Dangosodd yr ymchwil bod unigolion o’r farn bod y gwrandawiadau yn glir, yn hawdd i’w dilyn ac yn hawdd i’r defnyddwyr eu deall.

Dywedodd Lucy Frazer, y Gweinidog Cyfiawnder:

Mae gan wrandawiadau a gynhelir yn gyfan gwbl drwy gyswllt fideo botensial enfawr i’r rhai hynny sy’n ei chael hi’n anodd teithio i ystafell llys ac mae’r cynllun peilot hwn yn gam cyntaf a groesawir.

Wrth gwrs, rydym o hyd ar gamau cychwynnol profi’r dechnoleg, ond fe fydd y canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn ein helpu i arwain yr arloesedd angenrheidiol i wneud gwrandawiadau trwy gyswllt fideo yn llwyddiant.

Bydd gwersi nawr yn cael eu dysgu o’r cynllun peilot yn cynnwys gwneud gwrandawiadau sy’n gyfan gwbl drwy gyswllt fideo ar gael i fwy o ddefnyddwyr drwy wella’r cynnyrch technegol; sicrhau bod y dechnoleg yn gadarn a dibynadwy; a sicrhau bod y lefel o gefnogaeth cyn-gwrandawiad yn addas ar gyfer pob cam.

Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad £1 biliwn y Llywodraeth i foderneiddio’r gwasanaeth llysoedd, i’w wneud yn gyflymach, yn fwy syml ac yn haws i bawb gael mynediad ato.

Mae technoleg fideo yn cael ei ddefnyddio yn barod mewn llysoedd troseddol i ganiatáu rhai dioddefwyr a thystion roi tystiolaeth heb orfod dod wyneb yn wyneb gyda’r diffynnydd.

Yn dilyn yr adroddiad, bydd GLlTEM yn parhau i weithio gyda’r farnwriaeth a chynnal cynlluniau peilot eraill yn hwyrach yn y flwyddyn.

Cyhoeddwyd ar 13 September 2018