Stori newyddion

Tynnu ailgyfeirio post y Post Brenhinol yn ôl o 10 Awst

Nodyn atgoffa'r Gofrestrfa Tir: ble i anfon eich ceisiadau.

Royal Mail

O ddydd Llun 10 Awst byddwn yn tynnu ailgyfeiriadau post y Post Brenhinol yn ôl ar gyfer ceisiadau trwy’r post.

Os byddwch yn anfon ceisiadau atom trwy’r post, sicrhewch eich bod yn defnyddio’r cyfeiriad blwch post canolog.

Gallwch gyflwyno ceisiadau ar-lein trwy gofrestru ar gyfer E-wasanaethau busnes. Ymhlith y manteision mae gostyngiad ffi o 50% ar gyfer rhai mathau o geisiadau, dim costau post, trywydd archwilio electronig ac amserau prosesu o’r dechrau i’r diwedd cyflymach.

Cyhoeddwyd ar 6 August 2015