Arwethiant ar gyfer ynni gwynt ar y môr sy'n torri pob record wedi'i sicrhau er mwyn adennill rheolaeth dros ynni Prydain
Mae record o 8.4GW o ynni gwynt ar y môr wedi’i sicrhau yn arwerthiant gwynt ar y môr mwyaf erioed Ewrop
- Mae record o 8.4GW o ynni gwynt ar y môr wedi’i sicrhau yn arwerthiant gwynt ar y môr mwyaf erioed Ewrop - digon o drydan glân i bweru’r hyn sy’n cyfateb i dros 12 miliwn o gartrefi.
- Wrth i Brydain rhuthro i dorri biliau a bodloni’r galw cynyddol am ynni, mae pris gwynt ar y môr wedi’i gytuno arno am 40% yn is na chost adeiladu a gweithredu gorsaf bŵer nwy newydd.
- Mae hyn yn rhoi’r wlad ar y trywydd iawn i gyflawni’r genhadaeth ar gyfer pŵer glân erbyn 2030, gan adennill rheolaeth dros ei hynni, a gostwng biliau am byth.
- Mae canlyniadau llwyddiannus yn datgloi £22 biliwn mewn buddsoddiad preifat ac yn cefnogi 7,000 o swyddi da a medrus ym mhob cwr o’r wlad - o Ucheldiroedd yr Alban i’r Môr Celtaidd.
Mae Prydain wedi cymryd cam anferthol tuag at ddod â dibyniaeth y wlad ar danwydd ffosil anwadal i ben a gostwng biliau am byth, drwy sicrhau canlyniad sy’n torri recordiau o ran ynni gwynt ar y môr yn ei harwerthiant ynni adnewyddadwy diweddaraf.
Mae’r canlyniadau yn sicrhau’r caffaeliad unigol mwyaf o ynni gwynt ar y môr yn hanes Prydain ac Ewrop, gan wrth-ddweud yr heriau byd-eang sy’n wynebu’r diwydiant ac yn bleidlais fawr o hyder yng nghyfnod newydd y DU o sofraniaeth a digonedd ynni.
Etifeddodd y Llywodraeth llanastr Rownd Arwerthu 5 aflwyddiannus y llywodraeth flaenorol, lle na sicrhawyd yr un prosiect gwynt ar y môr. Rhoddodd y rownd arwerthu ddiwethaf, sef AR6, y diwydiant yn ôl ar ei draed. Nawr mae’r rownd arwerthu hon, a elwir yn Gontractau ar gyfer Gwahaniaeth AR7, wedi sicrhau capasiti uwch nag erioed o 8.4GW o ynni gwynt ar y môr a fydd yn cynhyrchu digon o drydan glân i bweru’r hyn sy’n cyfateb i 12 miliwn o gartrefi. Mae’r canlyniad arloesol yn rhoi Prydain ar y trywydd iawn i gyflawni ei chenhadaeth pŵer glân erbyn 2030.
Mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod gwynt ar y môr yn rhatach i’w adeiladu a’i weithredu na nwy newydd. Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw, sy’n defnyddio metrig diwydiant LCOE, yn dangos bod adeiladu a gweithredu gorsaf bŵer nwy newydd yn costio £147 fesul megawat awr. Mewn cyferbyniad â hyn, roedd y canlyniadau ar gyfer gwynt sefydlog ar y môr yn arwerthiant heddiw yn £90.91 fesul megawat awr ar gyfartaledd – neu [£65.25] yn y meincnod cyffredin a ddefnyddir sef prisiau 2012 - sy’n 40% yn rhatach na chost adeiladu a gweithredu nwy newydd.
Bydd yr arwerthiant hwn yn datgloi tua £22 biliwn o fuddsoddiad preifat. Bydd hyn yn cefnogi tua 7,000 o swyddi, gan ddod â thwf a swyddi da i bob rhanbarth o’r wlad – yn enwedig i gadarnleoedd diwydiannol y wlad. Mae pŵer glân hefyd yn hanfodol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, y bygythiad hirdymor mwyaf y mae’r wlad yn ei wynebu.
Mae prosiectau ym mhob rhan o’ Deyrnas Unedig ar eu hennill - gan gynnwys gwynt sefydlog ar y môr yn:
- Dogger Bank South oddi ar arfordir Swydd Efrog a Norfolk Vanguard oddi ar East Anglia – dwy o’r ffermydd gwynt ar y môr mwyaf yn y byd, sy’n cefnogi miloedd o swyddi.
- Berwick Bank ym Môr y Gogledd – y prosiect newydd cyntaf yn yr Alban ers 2022, a’r prosiect gwynt ar y môr mwyaf sydd wedi’i gynllunio yn y byd.
- Ac Awel y Môr – y prosiect cyntaf yng Nghymru i ennill contract mewn dros ddegawd.
Mae’r canlyniadau hyn hefyd yn cynrychioli cynnydd mawr yn ein hymdrechion i arwain y byd ym maes technolegau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y dyfodol, sef gwynt arnofiol ar y môr. Mae’r prosiectau buddugol yn cynnwys Erebus, yn y Môr Celtaidd, a Pentland yn yr Alban, gyda chefnogaeth buddsoddiad arloesol gan Great British Energy a’r Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol.
Mae’r rownd arwerthu wedi sicrhau prosiectau seilwaith mawr a fydd yn sbarduno twf a ffyniant mewn cymunedau lleol am ddegawdau i ddod. Wrth i Brydain rhuthro i ateb y galw cynyddol am drydan, sydd â’r disgwyliad i fwy na dyblu erbyn 2050, a lleihau biliau ynni, mae’r canlyniadau hyn a’r dadansoddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod gwynt ar y môr, ochr yn ochr â solar a gwynt ar y tir, yn dal yn rhatach i’w hadeiladu a’u gweithredu nac ydyw i gynhyrchu nwy.
Mewn byd sy’n fwyfwy ansefydlog, drwy gynyddu’r buddsoddiad mewn pŵer glân cynhenid, mae’r llywodraeth hefyd yn lleihau cysylltiad y DU â marchnadoedd tanwydd ffosil anwadal byd-eang. Mae’r marchnadoedd hyn wedi cyfrannu at hanner yr holl ddirwasgiadau ers y 1970au, ac yn 2025 gwelwyd prisiau’n codi dros 15% o fewn wythnos oherwydd siociau prisiau byd-eang yn sgil ansefydlogrwydd byd-eang yn y Dwyrain Canol.
Mae’r cyhoeddiad hwn i adeiladu mwy o bŵer glân a lleol yn dilyn mesurau yn y gyllideb i leihau biliau ynni pobl, gyda’r llywodraeth yn cael gwared ar £150 ar gyfartaledd oddi ar gostau biliau ynni o fis Ebrill eleni ymlaen.
Dywedodd Ed Miliband, yr Ysgrifennydd Ynni:
Gyda’r canlyniadau hyn, mae Prydain yn adennill rheolaeth dros ein sofraniaeth ynni. Mae hon yn fuddugoliaeth hanesyddol i’r rhai hynny sydd eisiau i Brydain sefyll ar ein traed ein hunain, gan reoli ein hynni ein hunain yn hytrach na dibynnu ar farchnadoedd sy’n cael eu rheoli gan unbeniaid a gwledydd sy’n ddibynnol yn economaidd ar olew a nwy.
Mae’n gam enfawr tuag at bŵer glân erbyn 2030 ac mae’r pris a sicrhawyd yn yr arwerthiant hwn 40% yn is na’r gost o adeiladu a gweithredu gorsaf nwy newydd.
Pŵer glân sy’n cael ei gynhyrchu gartref yw’r dewis iawn i’r wlad hon ddod â biliau i lawr am byth a bydd yr arwerthiant hwn yn creu miloedd o swyddi ledled Prydain.”
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r cyhoeddiad heddiw yn newyddion gwych i Sir Benfro a Gogledd Cymru. Mae’n bleidlais enfawr o hyder yn niwydiant ynni glân Cymru sydd eisoes yn darparu swyddi’r dyfodol, sy’n rhai medrus iawn ac sy’n talu’n dda, gyda’r potensial i ddod â miloedd yn rhagor.
Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda buddsoddwyr i ddatblygu pŵer glân cynhenid a fydd yn sicrhau ein cyflenwad ynni ac yn lleihau biliau am byth. Bydd y prosiectau newydd hyn yn y moroedd oddi ar arfordir Cymru yn ein helpu i gyflawni’r nodau hynny.
Dywedodd Chris Stark, Pennaeth Rheoli Cenhadaeth:
Mae hwn yn ganlyniad gwych ar gyfer cyflawni ein cenhadaeth ar gyfer pŵer glân erbyn 2030. Yng nghanol dylanwadau rhwystrol byd-eang a’r pwysau sy’n wynebu’r sector gwynt ar y môr dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi sicrhau’r lefel uchaf erioed o gapasiti am bris cystadleuol i’r defnyddiwr.
Mae angen mwy o ynni gwynt ar y môr arnom i ateb y galw cynyddol am drydan yn y blynyddoedd i ddod, mae’r canlyniad hwn yn ein pweru ni tuag at ddyfodol o gyflenwad ynni glân a diogel a llai o ddibyniaeth ar fewnforion tramor.”
Dywedodd Neil McDermott, Prif Swyddog Gweithredol y Low Carbon Contracts Company (LCCC):
Mae canlyniadau’r rownd dyrannu hwn yn enghraifft wych o gryfderau mwyaf mecanwaith Contractau ar gyfer Gwahaniaeth, gan roi sicrwydd i fuddsoddwyr ac yn cefnogi swyddi ledled y wlad ym Mhrydain.
Yn LCCC, rydym yn falch o’n rôl yn rheoli’r contractau hyn, gan ychwanegu at ein portffolio gweithredol presennol o fwy na 10 GW gyda 25 GW ychwanegol ar y gweill, a darparu stiwardiaeth dros y prosiectau hyn dros y ddau ddegawd nesaf.