Stori newyddion

£18 biliwn y flwyddyn i Gymru yn y Gyllideb

Mae Cyllideb yr Hydref 2021 yn darparu'r setliad ariannu blynyddol mwyaf i Gymru ers datganoli, gan helpu i gynyddu ar draws y DU gyfan.

The cover of the Autumn Budget and Spending Review 2021
  • Bydd Llywodraeth y DU yn darparu £18 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru - y swm uchaf eto.
  • Bydd Cymru hefyd yn elwa ar gymorth i’r DU gyfan ar gyfer pobl a busnesau, swyddi gwyrdd a buddsoddiad i gynyddu cyfleoedd.
  • Bydd cyllid wedi’i dargedu yn cefnogi prosiectau lleol ledled Cymru, gan gynnwys gwella ffyrdd a seilwaith, buddsoddi mewn cymunedau lleol, yn ogystal â chyllid i fusnesau.

Heddiw, cyhoeddodd y Canghellor gyllid Barnett gwerth £18 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru – y setliad cyllid blynyddol mwyaf ers dechrau datganoli dros 20 mlynedd yn ôl. Mae hyn yn cynnwys hwb gwario o £2.5 biliwn y flwyddyn fel rhan o Adolygiad o Wariant a Chyllideb sy’n sicrhau economi gryfach i’r DU gyfan.

Amlinellodd Rishi Sunak gynllun i gyflawni blaenoriaethau pobl Prydain drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus cryfach, cynyddu cyfleoedd, sbarduno twf busnesau, a helpu teuluoedd sy’n gweithio i dalu costau byw.

Fel rhan o’r cynlluniau gwario sylweddol, bydd Cymru’n cael cyfartaledd o £18 biliwn y flwyddyn drwy gyllid Barnett, sy’n gynnydd o 2.6% yng nghyllideb Llywodraeth Cymru bob blwyddyn. Bellach bydd Llywodraeth Cymru’n cael tua £120 y pen am bob £100 y pen o wariant cyfatebol Llywodraeth y DU yn Lloegr.

Dywedodd Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys:

Dyma gyllideb i’r DU gyfan. Rydyn ni’n canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl Prydain – iechyd eu hanwyliaid, mynediad at wasanaethau cyhoeddus sydd gyda’r gorau yn y byd, swyddi ar gyfer y dyfodol, a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Mae £2.5 biliwn yn ychwanegol o gyllid Barnett bob blwyddyn yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru ddigon o arian i gyflawni ei holl gyfrifoldebau datganoledig, a bydd pobl Cymru hefyd yn elwa ar ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfleoedd a chyflawni ar gyfer pob rhan o’r DU.

Rydyn ni’n parhau i roi hwb i ddiwydiant a swyddi, yn ogystal â gwella seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae hon yn gyllideb wych i Gymru. Mae’n darparu buddsoddiad sylweddol yn uniongyrchol i bobl, i fusnesau ac i gymunedau ar hyd a lled y wlad.

Bydd y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn cael ei setliad mwyaf erioed er mwyn gallu darparu ei gwasanaethau hollbwysig fel iechyd, addysg ac amddiffyn rhag llifogydd, a bydd Cymru’n elwa’n llawn ar lawer o’n mesurau ar gyfer y DU gyfan, gan gynnwys rhewi’r dreth tanwydd ac alcohol, y cynnydd yn yr isafswm cyflog i filoedd o weithwyr, a buddsoddiad mewn parciau a chyfleusterau chwaraeon.

Mae codi’r gwastad mewn cymunedau ar hyd y DU ar frig ein hagenda. Mae buddsoddi dros £120m mewn 10 prosiect, gan gynnwys adfywio glan y môr Aberystwyth, a gwella’r cysylltiadau trafnidiaeth yn y Rhondda, yn dangos sut byddwn yn gwireddu’r uchelgais hon ym mhob cwr o Gymru.

Yn ogystal ag ariannu Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, mae’r mesurau hyn a rhai eraill yn yr Adolygiad o Wariant yn cynrychioli pecyn ardderchog i Gymru a’i heconomi.

Cyllid wedi’i dargedu yng Nghymru

Ar ben y cyllid i Lywodraeth Cymru, bydd Cymru’n elwa ar ymrwymiad Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn pobl, swyddi, cymunedau a busnesau.

Mae’r prosiectau wedi’u targedu yng Nghymru yn cynnwys:

  • Buddsoddi dros £168m yng Nghymru i roi hwb i’r adferiad ar ôl y pandemig ac i dyfu economi Cymru, gan gynnwys:
  • Buddsoddi £121 miliwn o Gronfa Codi’r Gwastad mewn 10 prosiect, gan gynnwys adfywio Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Safle Treftadaeth y Byd y Gamlas, gwaith deuoli pwysig ar yr A4119 yn ne Cymru, ac ailddatblygu Canolfan Gelfyddydau Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu.
  • Dros £460,000 o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol i dri phrosiect yn Llandwrog, Pen-y-waun a Thredegar er mwyn diogelu asedau cymunedol gwerthfawr.
  • Darparu £0.9 miliwn i ffermwyr a rheolwyr tir, a £6.2 miliwn i gefnogi pysgodfeydd.
  • Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru, a fydd yn gweithio i wella bywyd a chyfleoedd cymuned cyn-filwyr Cymru.
  • Hyd at £50,000 i ddatblygu cynnig cam cynnar i adfer gwasanaethau trên i deithwyr o Gaerwen i Amlwch.
  • Cyflymu £105m ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i roi prosiectau ar y llwybr carlam – o arloesi a thechnoleg ariannol i weithgynhyrchu a seilwaith.
  • Sefydlu canolfan fasnach a buddsoddi newydd yng Nghaerdydd er mwyn rhoi hwb i fasnach Cymru. Cymorth i’r DU gyfan

Diolch i’n Teyrnas Unedig gref, bydd Cymru’n elwa ar y canlynol:

  • Gostyngiad o 50% yn y Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau awyr rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a £22.5 miliwn yn ychwanegol o gyllid newydd cyn argymhellion yr Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb, lle byddwn yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i wella cysylltedd y DU gyfan.
  • Cyllid newydd i Fanc Busnes Prydain er mwyn sefydlu cronfa £130 miliwn yng Nghymru, gan helpu busnesau yng Nghymru i gael y cyllid sydd ei angen arnynt.
  • Y Gronfa Fuddsoddi Prydain Fyd-eang newydd, gwerth £1.4 biliwn, a fydd yn cefnogi buddsoddiad uniongyrchol yng Nghymru.
  • £20 biliwn erbyn 2024-25 mewn ymchwil a datblygu, gan gefnogi arloesi yng Nghymru.
  • Cadarnhad y bydd cyfanswm y cyllid yn cyfateb i faint Cyllid yr UE yng Nghymru bob blwyddyn o leiaf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gwerth £2.6bn, a fydd yn buddsoddi mewn sgiliau, pobl, busnesau a chymunedau, gan gynnwys drwy ‘Multiply’, rhaglen rifedd newydd i oedolion a fydd yn cyflenwi pobl ledled Cymru â sgiliau rhifedd hanfodol.
  • £120 miliwn ar gyfer Cronfa Galluogi Niwclear y Dyfodol newydd i gefnogi prosiectau niwclear. Mae Wylfa yn Ynys Môn yn safle posibl.
  • Dewis clwstwr HyNet fel un o’r clystyrau cyntaf o dan Gronfa Fuddsoddi Dal, Defnyddio a Storio Carbon, gan ddenu buddsoddiad i ogledd Cymru.
  • Cynnydd yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i £9.50 yr awr, a chynnydd i bobl ifanc a phrentisiaid hefyd.
  • Rhewi’r dreth tanwydd am y ddeuddegfed flynedd yn olynol, yn ogystal â rhewi’r dreth alcohol a’r dreth car ar gyfer cerbydau nwyddau trwm.
  • £140 miliwn i ddarparu cymorth refeniw ar gyfer cynhyrchu hydrogen, gan gynnwys Hwb Hydrogen Caergybi, a chwmnïau diwydiannol trwm ledled y DU sy’n dal, yn defnyddio ac yn storio carbon.
Cyhoeddwyd ar 27 October 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 October 2021 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.