Datganiad i'r wasg

Cyhoeddiad y Prif Weinidog am saith gorsaf newydd ac ymrwymiad ariannu mawr

Bydd ymrwymiad newydd unwaith mewn cenhedlaeth gan Lywodraeth y DU i foderneiddio rheilffyrdd Cymru yn cefnogi 12,000 o swyddi ledled Cymru.

Prime Minister Keir Starmer and Welsh Secretary Jo Stevens visits Taff's Well Train Depot.

  • Mae Keir Starmer a Phrif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi ymrwymo i gyflawni cynllun i drawsnewid rheilffyrdd Cymru
  • Gan wneud yn iawn am flynyddoedd o danfuddsoddi gan Lywodraethau blaenorol y DU gydag ymrwymiad newydd unwaith mewn cenhedlaeth
  • Yn rhan o ymgyrch ehangach i gael Prydain i adeiladu eto a chyflawni degawd o adnewyddu cenedlaethol – gan ddarparu miloedd o gyfleoedd swyddi i weithwyr Cymru
  • Prawf o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithio

Bydd ymrwymiad newydd unwaith mewn cenhedlaeth gan Lywodraeth y DU i foderneiddio rheilffyrdd Cymru yn cefnogi 12,000 o swyddi ledled Cymru.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru a’r DU yn nodi ymrwymiad hirdymor a fydd yn rhoi diwedd ar newid a thanfuddsoddi cronig y llywodraeth flaenorol a oedd yn dal y wlad yn ôl am gyfnod rhy hir.

Mae’r Prif Weinidog ar fin cymeradwyo’n ffurfiol gweledigaeth Trafnidiaeth Cymru ar gyfer dyfodol rheilffyrdd Cymru heddiw [dydd Mercher 18 Chwefror] – gan gytuno y dylai osod y fframwaith ar gyfer eu cyfres o brosiectau ac ymrwymo Llywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni’r prosiect hwn cyn gynted â phosibl.

Bydd y buddsoddiad hwn yn gweld trawsnewid pellach yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, gan adeiladu ar fuddsoddiad o £1.1 biliwn gan Lywodraeth Cymru i uwchraddio a thrydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd a buddsoddiad o £800 miliwn mewn fflyd rheilffyrdd newydd. 

Gyda’i gilydd, bydd y ddwy lywodraeth yn darparu gwasanaethau gwell a mwy aml i deithwyr ledled y wlad, gyda Llywodraeth y DU yn ymrwymo cyllid sylweddol i gyflawni’r genhedlaeth nesaf o brosiectau rheilffyrdd yng Nghymru.  

Gan ddefnyddio’r bron i hanner biliwn o bunnoedd a addawyd yn yr Adolygiad Gwariant hwn, bydd saith gorsaf newydd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru – buddugoliaeth enfawr i gymudwyr a hwb i’r diwydiant adeiladu.  Dyma eu henwau:

  • Magwyr a Gwndy
  • Llan-wern
  • Dwyrain Caerdydd
  • Gorllewin Casnewydd
  • Somerton
  • Parcffordd Caerdydd 
  • Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy

Mae hyn yn rhan o gynlluniau ehangach y Prif Weinidog i gael Prydain i adeiladu eto – dull a fydd yn cysylltu pobl Cymru â’r degau o filoedd o swyddi rydym yn eu creu ledled y wlad, gan greu cyfleoedd a helpu i ostwng costau byw.

Meddai Prif Weinidog y DU, Keir Starmer:

Am gyfnod rhy hir, mae Cymru wedi cael ei siomi gan lywodraeth y DU sy’n amharod i wneud y gwaith caled ac adeiladu’r dyfodol y maent yn ei haeddu. 

Mae’r llywodraeth hon yn rhoi diwedd ar oedi ac ansicrwydd hanesyddol gyda saith gorsaf newydd, miloedd o swyddi, ac ymrwymiad unwaith mewn cenhedlaeth i adeiladu rhwydwaith rheilffyrdd sy’n addas ar gyfer dyfodol Cymru. 

Nid tincian na mesur dros dro yw hyn. Buddsoddiad ar gyfer y tymor hir yw hwn - a newid y bydd cymunedau’n ei deimlo. Mae hyn yn rhoi Cymru ar y droed flaen ac yn cael Prydain i adeiladu eto.

Mae gorsafoedd newydd yn golygu y bydd gweithwyr yn ei chael hi’n haws i deithio i Gaerdydd a Chasnewydd. Dyma eu henwau: Magwyr a Gwndy; Llan-wern; Dwyrain Caerdydd; Gorllewin Casnewydd; a Somerton Bydd gwaith yn dechrau ar y rhain yn ddiweddarach eleni, gyda disgwyl i Magwyr a Gwndy fod y cyntaf o’r gorsafoedd hyn i gael eu cwblhau.

Bydd gorsaf newydd o’r diwedd yn cael ei hadeiladu ym Mharcffordd Caerdydd i helpu i wasanaethu tua 800,000 o deithwyr bob blwyddyn. Bydd hyn yn creu tua 6,000 o swyddi yn yr ardal ddiwydiannol, a fydd yn cael ei hailwampio diolch i fuddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth y DU a dull cytunedig o ariannu a chyflawni’r orsaf rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a buddsoddwyr preifat. 

Bydd gorsaf arall yn cael ei hadeiladu yng Ngogledd Cymru – i wasanaethu parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Mae hyn yn rhan o’r cynlluniau i hybu’r llinell rhwng Wrecsam a Lerpwl i gysylltu’r DU gyfan yn well. 

Meddai Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: 

Rydym bellach mewn sefyllfa ddigynsail i gyflawni’r bennod nesaf o drawsnewid ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Rydym wedi sicrhau ymrwymiadau hirdymor i brosiectau allweddol ac uchelgais newydd ar gyfer ein rhwydwaith rheilffyrdd.

Nid yw newidiadau ar y raddfa hon yn digwydd dros nos ond maent yn digwydd pan fo gweledigaeth, dylfalbarhad, a chydweithrediad. Rydym eisoes wedi profi hynny gyda Llinellau Craidd y Cymoedd, ac rydym yn dechrau gweld yr un momentwm gyda Rhwydwaith Gogledd Cymru. Pan fydd gennych chi’r uchelgais, yr ymrwymiad a’r ewyllys, mae cynnydd go iawn yn dilyn - ac mae gennym ni’r tri pheth hynny.

Mae heddiw yn nodi carreg filltir bwysig arall i’r rhwydwaith rheilffyrdd wrth i Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi ffrwd gyffrous a hanfodol ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys prosiectau ledled ein gwlad. Rydym yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth y DU o’r cynlluniau hyn yn gynnes ac yn ddiolchgar am eu hymrwymiad i unioni anghyfiawnder tanariannu rheilffyrdd Cymru gan y llywodraeth flaenorol.

Yn y tymor agos, rwy’n falch o weld cefnogaeth i’r gwaith hanfodol yn Padeswood a Bwcle. Bydd hyn yn trawsnewid teithiau rhwng Wrecsam a Lerpwl, yn creu cyfleoedd economaidd ledled gogledd Cymru, ac yn caniatáu i gynlluniau ar gyfer gorsaf newydd Glannau Dyfrdwy symud yn ei flaen ar gyflymder. Rwyf hefyd yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth y DU ar gyfer Parcffordd Caerdydd, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r holl bartneriaid i gwblhau’r achos busnes llawn a’r cynlluniau datblygu.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

Ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi yn seilwaith Cymru, mae Llywodraeth y DU hon yn moderneiddio ac yn uwchraddio rheilffyrdd Cymru.

Bydd y buddsoddiad hwn mewn saith gorsaf newydd ac uwchraddiadau eraill yn rhoi hwb i gapasiti ar draws ein rhwydwaith ac yn trawsnewid profiad miloedd o deithwyr.

Mae’n rhan o’r buddsoddiad unwaith mewn cenhedlaeth yr ydym yn ei wneud i wella rheilffyrdd Cymru a fydd yn cysylltu pobl yn well â’r swyddi â chyflog da yr ydym yn eu creu ledled y wlad ac yn sbarduno twf economaidd.

Meddai Ysgrifennydd dros Trafnidiaeth, Heidi Alexander:

Mae rheilffyrdd yng Nghymru wedi cael eu gadael ar ôl am gyfnod rhy hir, ac mae teithwyr yn haeddu gwell. Mae cysylltiadau rheilffordd gyflymach, fwy dibynadwy a gwell â swyddi a chyfleoedd, a seilwaith sy’n cefnogi cymunedau a thwf, wedi bod yn hen bryd.

Bydd cyhoeddiadau heddiw yn helpu i gyflawni hynny’n union, gyda gorsafoedd newydd ledled Cymru, o Gaerdydd i Lannau Dyfrdwy.

Meddai Vernon Everitt, Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru:

Mae trafnidiaeth yn galluogi twf economaidd cynaliadwy, cynhyrchiant uwch, mynediad at gartrefi, swyddi ac addysg yn ogystal â gwell cyfleoedd i bawb. Gan gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth a gweithio gyda Llywodraeth y DU, mae gweledigaeth Ymlaen, Gyda’n Gilydd yn nodi agenda uchelgeisiol i wneud cynnydd pellach yn y meysydd hyn trwy fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd fel rhan o gynllun trafnidiaeth integredig.  

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cyflawni gwelliannau mawr o ran trafnidiaeth ar gyfer y bobl, busnesau a chymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys trenau a gwasanaethau newydd, trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn gyfan gwbl a nawr gwelliannau sylweddol i wasanaethau rheilffyrdd fel rhan o Rwydwaith Gogledd Cymru. Rydym hefyd yn gweithio’n galed i fuddsoddi’r cyllid a ddyrannwyd i Gymru o dan yr adolygiad gwariant diwethaf i ddod â gwelliannau pellach i gymunedau cyn gynted â phosibl. 

Mae angen i ni fynd ymhellach nawr. Heddiw, fe wnaethom amlinellu ffrwd bosibl o brosiectau yn y dyfodol a fydd yn dod â manteision pellach ledled Cymru gyfan, ac rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r weledigaeth hon yn llwyr heddiw.

Dogfen Gweledigaeth Trafnidiaeth Cymru  

Mae Bwrdd Rheilffyrdd Cymru wedi datblygu ei weledigaeth hirdymor ar gyfer buddsoddi mewn gwella rheilffyrdd yng Nghymru. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi’r weledigaeth hon fel rhan o’i ddogfen o’r enw ‘Ymlaen, Gyda’n Gilydd: Gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau’

Mae Bwrdd Rheilffyrdd Cymru yn fwrdd rhynglywodraethol a fydd yn goruchwylio cyflawni’r ffrwd hon o brosiectau, gyda’r aelodau’n cynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, Trafnidiaeth Cymru a Network Rail. 

Ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyflawni’r weledigaeth honno  

Mae Llywodraeth y DU yn cymeradwyo gweledigaeth Trafnidiaeth Cymru ac yn cytuno y bydd yn sail i ffrwd prosiectau Bwrdd Rheilffyrdd Cymru. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gyflawni’r ffrwd hon o brosiectau cyn gynted â phosibl. 

Mae hyn yn cynrychioli ymrwymiad unwaith mewn cenhedlaeth i reilffyrdd yng Nghymru a ddechreuodd gyda’r buddsoddiadau a wnaed eisoes yn yr adolygiad gwariant cynhwysfawr.  

Er bydd cyfanswm cost y ffrwd honno o brosiectau yn newid dros amser wrth i’r diwydiant a’r cynlluniau hyn ddatblygu, mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn amcangyfrif bod cyfanswm cost yr holl gynlluniau dan ystyriaeth hyd at £14 biliwn. Mae’r ffrwd yn ymrwymiad trawsnewidiol unwaith mewn cenhedlaeth, gydag union ddyraniadau ychwanegol Llywodraeth y DU i’w cadarnhau mewn Adolygiadau Gwariant yn y dyfodol.

Bydd y rhaglen yn creu dros 1,000 o swyddi newydd parhaol yn uniongyrchol. Bydd yn creu dros 6,000 o swyddi newydd yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd hefyd yn cefnogi miloedd o swyddi newydd mewn diwydiannau ledled Cymru sy’n dibynnu ar rwydwaith trafnidiaeth gwell. 

Mae manteision hirdymor cyflawni’r 43 cynllun gyda gwaith datblygu sefydledig (fel y’u nodwyd yn y weledigaeth) yn cynnwys: 

  • Gwerth £6.3 biliwn mewn manteision economaidd ehangach
  • Hyd at 13.3 miliwn o deithiau rheilffordd newydd bob blwyddyn 
  • 3.8 miliwn yn llai o deithiau car – gostyngiad o 115 miliwn o gilomedrau cerbyd bob blwyddyn
  • 55,000 tunnell o CO₂ yn cael ei osgoi bob blwyddyn

Buddsoddiad Rheilffyrdd Cyfredol Llywodraeth y DU  

Dyrannodd Adolygiad Gwariant 2025 o leiaf £445 miliwn i welliannau rheilffyrdd yng Nghymru; £302 miliwn ar gyfer uwchraddio seilwaith yn ystod y cyfnod Adolygiad Gwariant hwn, £95 miliwn ar gyfer datblygiad pellach, a £48 miliwn i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau ar Linellau Craidd y Cymoedd yn ystod y cyfnod Adolygiad Gwariant hwn. 

Gorsafoedd a gwasanaethau newydd (‘Burns’) De-ddwyrain Cymru 

Wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2019 i nodi ffyrdd o leddfu tagfeydd ar yr M4, cynigiodd Comisiwn Burns ddarparu pum gorsaf newydd rhwng Caerdydd a Chyffordd Twnnel Hafren. Argymhellodd Comisiwn Burns y gorsafoedd canlynol: Magwyr a Gwndy; Llan-wern; Dwyrain Caerdydd; Gorllewin Casnewydd; a Somerton 

Mae setliad Adolygiad Gwariant 2025 yn cynnwys £90 miliwn ar gyfer yr gorsafoedd hyn dros y pedair blynedd nesaf i hwyluso gwasanaethau trên newydd yn y dyfodol. Bydd y gwaith ar bob un o’r pum gorsaf yn dechrau eleni gyda’r disgwyl y bydd gwaith adeiladu dwy orsaf yn dechrau erbyn 2029. Disgwylir i Magwyr a Gwndy fod yr orsaf gyntaf o’r pump i gael ei chwblhau. 

Uwchraddio Llinellau Lliniaru De Cymru 

Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu o leiaf £40 miliwn i gyflymu’r Llinellau Lliniaru sy’n rhedeg wrth ymyl y Prif linellau rhwng Caerdydd a Chyffordd Twnnel Hafren. Bydd hyn yn creu 2 linell gyflymder uchel ychwanegol a fydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd ar gyfer gwasanaethau cludo nwyddau a chludo teithwyr, yn gwella perfformiad, ac yn creu’r capasiti ar gyfer twf gwasanaeth trên.  

Mae’r Achos Busnes Llawn i fod i gael ei gyflwyno yn ystod gwanwyn 2026 a bydd gwaith ar y cynllun hwn yn cael ei alinio â’r gorsafoedd a’r gwasanaethau newydd arfaethedig yn Ne-ddwyrain Cymru. 

Parcffordd Caerdydd 

Mae Parcffordd Caerdydd yn orsaf reilffordd newydd a gynigir o fewn datblygiad Llynnoedd Hendre ger Llaneirwg, Caerdydd. Mae’r datblygiad yn rhan o waith adfywio ehangach sy’n cyfuno’r orsaf newydd a pharc busnes mawr. 

Mae datblygiad Parcffordd Caerdydd wedi’i gynllunio i drawsnewid cysylltedd rhwng Caerdydd, Casnewydd a’r rhanbarth ehangach, gan gefnogi twf economaidd a ffyniant bro. 

Mae Parcffordd Caerdydd yn addo dod yn gatalydd ar gyfer twf, gan gyfrannu at adfywio Dwyrain Caerdydd a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ehangach drwy ddenu busnesau a buddsoddiad o ansawdd uchel. Mae gan y datblygiad y potensial i gefnogi tua 6,000 o swyddi trwy ei barc busnes cysylltiedig. 

Bydd yn annog pobl ledled De Cymru i deithio mewn modd mwy cynaliadwy, gan leihau amseroedd teithio i Gaerdydd a Chasnewydd a’u cysylltu ag ardaloedd eraill o Gymru a’r DU. Gobeithir hefyd y bydd yr orsaf yn helpu i leddfu tagfeydd pan fydd digwyddiadau mawr yn digwydd yng nghanol Caerdydd. 

Mae Llywodraeth y DU heddiw yn cyhoeddi ein bod wedi cytuno ar gynllun gyda Llywodraeth Cymru a buddsoddwyr preifat i fwrw ymlaen â’r prosiect gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gael i gyflawni’r orsaf.  

Bydd yr union gyfraniad ariannu gan bob partner a’r amserlen ar gyfer cyflawni’r orsaf yn dibynnu ar waith datblygu dilynol.  

Caerdydd Canolog 

Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £59.8 miliwn ar gyfer cynlluniau i drawsnewid Gorsaf Caerdydd Canolog, gorsaf reilffordd brysuraf Cymru, gan ddod â chyfanswm cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer y prosiect i £77.8 miliwn. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan £40 miliwn ychwanegol o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a £21 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae gwaith ar yr orsaf i fod i ddechrau yng ngwanwyn 2026, gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith wedi’i gwblhau erbyn 2029. 

Cynyddu amlder gwasanaethau yn ardal Caerdydd (Cyffordd Gorllewin Caerdydd) 

Dros y 3 blynedd nesaf, bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi hyd at £30 miliwn ar welliannau seilwaith i gynyddu capasiti cyffordd allweddol i’r gorllewin o orsaf Caerdydd, a fydd yn galluogi cynnydd mewn gwasanaethau ar rwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd. 

Bydd y gwelliant hwn yn cael ei gyflawni fel rhan o waith adnewyddu y bwriedir ei gynnal ar y gyffordd yn 2028, gan ddarparu effeithlonrwydd sylweddol. 

Cynnydd mewn amlder y gwasanaeth ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Lerpwl 

Mae’r llinell rhwng Wrecsam a Lerpwl wedi’i chyfyngu gan y seilwaith presennol ger Gwaith Sment Padeswood, gan leihau capasiti ac arwain at Network Rail yn datgan bod y llinell yn seilwaith sy’n achosi tagfeydd yn 2023.  

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Bargen Twf Gogledd Cymru – Uchelgais Gogledd Cymru – sydd wedi cytuno i gyd-ariannu’r gwelliannau i drefniadau’r brif linell i gyfleuster cludo nwyddau gwaith sment Padeswood. Bydd hyn yn darparu symudiad di-dor i drenau cludo nwyddau oddi ar y brif linell ac i mewn i’r gwaith sment yn hytrach na’r symudiadau presennol sy’n cymryd llawer o amser.   

Bydd y cyllid hwn yn galluogi Llywodraeth y DU i ddefnyddio ei chyllid presennol a gytunwyd yn yr adolygiad gwariant i fwrw ymlaen â chynlluniau pellach ar y llinell hon, gan gynnwys gorsaf ychwanegol i wasanaethu Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a gwelliannau diogelwch, capasiti a chyflymder llinell ym Mwcle. 

Bydd y gwelliannau hyn yn galluogi dau drên yr awr ar y llinell rhwng Wrecsam a Lerpwl ac yn galluogi mwy o bobl i gyrraedd y gwaith ar y trên.   

Gwelliannau diogelwch a gwasanaeth Arfordir Gogledd Cymru 

Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi tua £30 miliwn mewn gwelliannau diogelwch a gwasanaeth ar Brif Linell Arfordir Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys dylunio a gosod dwy bont droed hygyrch newydd i ddisodli 4 croesfan rheilffordd risg uchel ym Mhrestatyn ac Abergele ar Brif Linell Arfordir Gogledd Cymru a chyflawni cynnydd o 50% yng ngwasanaeth trenau Trafnidiaeth Cymru o fis Mai 2026 ymlaen. Disgwylir i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2027.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Chwefror 2026