Datganiad i'r wasg

Y Prif Weinidog yn croesawu gwesteion i Rif 10 i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi

Cynhaliodd y Prif Weinidog dderbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Rhif 10 i ddathlu diwrnod cenedlaethol Cymru ac i gydnabod Cymru fel rhan bwysig o’r Deyrnas Unedig.

Croesawodd Theresa May ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns bobl o bob rhan o’r DU gan gynnwys cynrychiolwyr o fyd busnes, gwleidyddiaeth, chwaraeon, elusennau a’r cyfryngau yng Nghymru.

Roedd y gwesteion yn cynnwys Peilot y Red Arrows o Gymru yr Awyr Lefftenant Mike Bowden; y seren o fyd teledu Matt Johnson; y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Richard Parks; y Farwnes Tanni Grey-Thompson; a’r rhedwr ym marathon Llundain Matthew Rees, a wnaeth enw iddo’i hun y llynedd ar ôl helpu rhedwr a oedd mewn trafferthion i groesi’r llinell derfyn.

Roedd nifer o gwmnïau Cymreig yn bresennol i arddangos eu cynnyrch, gan gynnwys Distyllfa Penderyn, sy’n cynhyrchu wisgi brag sengl a gwirodydd ym Mannau Brycheiniog ac sydd wedi ennill llu o wobrau; Cwm Farm Charcuterie, a enillodd y wobr gyntaf yn y Great British Farm Produce Awards a seren aur yn y Great Taste Awards am eu selsig bara lawr; a Ridiculously Rich By Alana - cwmni a sefydlwyd gan enillydd rhaglen The Apprentice ar BBC One. Dechreuodd Alana werthu ei siocled moethus i ffrindiau a theulu cyn dechrau ennyn diddordeb siopau yn Aberystwyth.

Hefyd bu Cymdeithas Coginiol Cymru yn gweini gwledd o canapés Cymreig, ac roedd côr o Gymru Côr y Boro a’r telynor Rhys Wardhaugh yn diddanu gyda thonau Cymreig traddodiadol.

Meddai’r Prif Weinidog Theresa May:

Mae bob amser yn fraint cael dathlu diwrnod cenedlaethol Cymru ochr yn ochr â Chymry o bob math o gefndiroedd ac o bob rhan o’r wlad.

Mae llawer o’r cwmnïau a oedd yn bresennol heddiw yn allforio’u cynnyrch ledled Ewrop ac i bob rhan o’r byd – sy’n dangos cymaint sydd gan Gymru i’w gynnig gartref ac i weddill y byd.

O chwaraeon a busnes, i adloniant a cherddoriaeth, mae’r Cymry’n gwneud eu marc ym mhob carfan o gymdeithas. Diolch i bawb a ddaeth yma heddiw, er gwaethaf y tywydd garw, i ddathlu’r gorau ym mywyd Cymru a chyfraniad Cymru at wneud y DU yr hyn ydyw heddiw.

Mae gan bob un o genhedloedd y DU eu cymeriad, eu diwylliant a’u hanghenion unigryw eu hunain - ond pan fyddwn yn dod at ein gilydd fel un, rydym disgleirio fwy byth.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Roedd heddiw’n ddiwrnod pwysig dros ben i Gymru gyfan. Er gwaethaf yr eira, roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobl o bob rhan o fywyd Cymru’n dod at ei gilydd i ddathlu, i bwysleisio ac i ddangos ein parch tuag at iaith, hanes a diwylliant Cymru.

Hoffwn ddiolch i’r Prif Weinidog am y pwyslais arbennig ac am y parch mae’n ei ddangos tuag at bob un o bedair cenedl ein Hundeb gwerthfawr, yn ogystal ag i’r holl westeion a lwyddodd i gyrraedd Rhif 10 er gwaethaf y tywydd garw.

Meddai Alana Spencer, o Ridiculously Rich by Alana:

Roedd yn fraint cael dod i Stryd Downing heddiw, ac roedd y diwrnod yn un mwy arbennig fyth am ein bod wedi dod yma i ddathlu bwyd Cymreig ar Ddydd Gŵyl Dewi. Rwyf yn falch o fod yn gynhyrchydd bwyd sydd wedi fy lleoli yng Nghymru ac mae’n braf cael fy nghydnabod ochr yn ochr â chynhyrchwyr bwyd arbennig eraill o Gymru.

Meddai Stephen Davies, o Ddistyllfa Penderyn:

Rydym yn falch iawn o’r cyfle i arddangos wisgi Brag Sengl Penderyn yn Stryd Downing ar Ddydd Gŵyl Dewi, sef diwrnod lansio brand Penderyn yn ôl yn 2004. Gan ein bod ar hyn o bryd yn targedu nifer o farchnadoedd newydd i allforio iddynt, mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i hoelio sylw ein partneriaid allforio ar ein busnes a’n brand.

Meddai Ruth Davies, o Cwm Farm Charcuterie:

Mae’n fraint ac yn anrhydedd eithriadol i gael bod yma heddiw ac i gwrdd â’r Prif Weinidog, ac rwyf wedi cwrdd â phobl arbennig iawn sydd wedi blasu ein cynnyrch. Roedd cael cyfle fel hwn yn ddigwyddiad nodedig i ni fel cynhyrchydd bychan.

Cyhoeddwyd ar 1 March 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 March 2018 + show all updates
  1. Welsh translation added

  2. First published.