Stori newyddion

Llywodraeth y DU yn Rhagbrofi’r Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol yng Nghymru yn ystod hydref 2014

Heddiw, cadarnhaodd Nick Hurd AS, y Gweinidog Cymdeithas Sifil, y bydd y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol yn cael ei dreialu yng Nghymru yn 2014.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r Gwasanaeth hwn eisoes ar waith yn Lloegr a Gogledd Iwerddon a’i nod yw ennyn diddordeb cymunedau drwy alluogi pobl ifanc i gydweithio i greu prosiectau cymdeithasol yn eu cymunedau lleol.

Bydd y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol yn cynnig cyfle i bobl ifanc Cymru gymysgu â phobl o gefndiroedd gwahanol ac ennill profiadau bywyd gwerthfawr. Byddant yn gwneud hyn drwy gael eu rhannu’n dimau ymhell o’u cartrefi a gweithio ar dasg sy’n ymwneud â datrys problemau lleol neu faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Bydd y Gwasanaeth hefyd yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau pwysig y gallant eu defnyddio ym myd gwaith, ac mae’n rhywbeth y gall y gymuned gyfan elwa’n fawr arno.

Bwriedir rhagbrofi’r Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol yng Nghymru yn hydref 2014.

Ar hyn o bryd, mae cyfle ar wefan Llywodraeth y DU i sefydliadau neu gynghreiriau o sefydliadau wneud cais i weithredu’r Gwasanaeth yng Nghymru. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw diwedd y dydd ar 3 Gorffennaf 2014: Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol Cymru Manyleb / Cynllun Peilot 2014.

Mae’r rhaglen yn gweithio ar draws cymunedau, gyda chyfranogwyr yn dod o ardaloedd gwledig a threfol ar draws Cymru.

Mae pum cam i’r Gwasanaeth sy’n cynnwys cynnal cyfres o weithgareddau yng nghymunedau lleol y cyfranogwyr a threulio amser mewn lleoliadau preswyl i ffwrdd o’u cartrefi. Y digwyddiad graddio ar y diwedd yw uchafbwynt y brif raglen, ac anogir pobl ifanc i barhau i wirfoddoli yn eu cymunedau ar ôl iddynt gymryd rhan yn y rhaglen.

Cyhoeddwyd ar 3 June 2014