Stori newyddion

Gweinidog Swyddfa Cymru: Prosiect Oxfam yng Nghasnewydd yn “grymuso’r gymuned”

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson, yn ymweld heddiw (24 Ionawr 2013) a phrosiect datblygu cymunedol Oxfam, Cyswllt Cymuned…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson, yn ymweld heddiw (24 Ionawr 2013) a phrosiect datblygu cymunedol Oxfam, Cyswllt Cymuned Dyffryn yng Nghasnewydd.

Mae Cyswllt Cymuned Dyffryn yn gweithio gyda rhieni lleol sy’n agored i niwed er mwyn eu galluogi i adeiladu dyfodol sy’n fwy cadarnhaol a chynaliadwy iddyn nhw eu hunain ac i’w plant. Mae eu gwaith yn canolbwyntio ar blant agored i niwed sy’n cael eu cyfeirio at grŵp meithrin Ysgol Fabanod Dyffryn (Dosbarth Enfys). Mae’r ysgol yn creu amgylchedd sydd hanner ffordd rhwng y cartref a’r ysgol, i gefnogi anghenion emosiynol y plant er mwyn iddynt allu elwa o addysg a dysgu. Mae hefyd yn mentora rhieni er mwyn eu galluogi i gefnogi eu plant yn well.

Mae’r ymweliad yn deillio o gyfarfod diweddar gyda swyddogion Oxfam pan gafodd y Gweinidog y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n cael ei wneud mewn cymunedau yng Nghymru fel rhan o Raglen Tlodi’r DU yr elusen. Roedd hi wedi rhyfeddu at effaith ‘ganlyniadol’ gwaith cymunedol Oxfam ar y rheini sy’n ymwneud a rhannu gair cadarnhaol i ymgysylltu a chymdogion a’r gymuned ehangach.

Yng Nghyswllt Cymuned Dyffryn bydd y Farwnes Randerson yn cwrdd a theuluoedd lleol ac athrawon sy’n cael eu cefnogi drwy eu gwaith ac yn clywed gan gadeirydd Cyswllt Cymuned Dyffryn, Joe Chiummo, a Chydlynydd Rhaglen Tlodi’r DU Oxfam, Frances Taylor. Bydd hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaeth bwrdd crwn gyda swyddogion sy’n gysylltiedig a Chyswllt Cymuned Dyffryn ac Oxfam i siarad am sut hwyl y mae Cyswllt Cymuned Dyffryn yn ei gael ar weithio a pha sialensiau maent yn eu hwynebu.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

“Mae’r ymweliad hwn wedi fy ngalluogi i weld a’m llygaid fy hun y gwaith gwerthfawr mae Oxfam a Chyswllt Cymuned Dyffryn yn ei wneud ar gyfer y gymuned leol yng Nghasnewydd, gan sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael gafael ar yr holl wasanaethau, y gefnogaeth a’r adnoddau sydd ar gael iddynt. Roedd hi’n wych cwrdd a phawb sy’n ymwneud a hyn a chlywed sut mae rhieni lleol wedi elwa.

“Mae gan y Gymdeithas Fawr draddodiad hir a balch yng Nghymru. Rwyf yn teimlo’n angerddol am y model hwn a minnau wedi bod yn Aelod o’r Pwyllgor a gynhyrchodd adroddiad 2010 y Cynulliad Cenedlaethol ar y rhan sydd gan fentrau cymdeithasol i’w chwarae yn iechyd economi Cymru. Ym mis Tachwedd y llynedd, roeddwn wedi cynnal seminar y Gymdeithas Fawr yng Nghaerdydd lle cefais y cyfle i gwrdd a grwpiau cymunedol, mudiadau lleol a busnesau i drafod syniadau a dulliau gweithredu newydd a allai hybu a chefnogi twf partneriaethau a mentrau cymdeithasol.

“Mae gan brosiectau cymunedol fel Cyswllt Cymuned Dyffryn ran hollbwysig ond anodd iawn i’w chwarae yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn. Rwyf yn edmygu ymroddiad parhaus y rheini sy’n creu ac yn rheoli’r cynlluniau, gan rymuso pobl leol agored i niwed i adeiladu dyfodol sy’n fwy cadarnhaol a chynaliadwy iddyn nhw eu hunain ac i’w plant.”

Dywedodd cadeirydd Cyswllt Cymuned Dyffryn, Mr Chiummo MBE:

“Roedd Cyswllt Cymuned Dyffryn wrth ei fodd ei fod wedi cael ei ddewis i fod yn un o asiantaethau partner Oxfam gan ddefnyddio’r Dull Bywoliaeth Gynaliadwy i gefnogi pobl sydd dan anfantais ac ar y cyrion.

“Mae’r dull hwn yn llwyddiannus dros ben drwy helpu unigolion sy’n teimlo eu bod yn cael eu heithrio i gael gafael ar y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Rwyf yn credu bod hyn yn gwella ansawdd eu bywydau gydag arbedion tymor hir i’r wladwriaeth.

“Gellir mesur unrhyw gymdeithas war drwy edrych ar sut mae’n ystyried ac yn cefnogi ei hunigolion a’i theuluoedd mwyaf agored i niwed.”

Cyhoeddwyd ar 24 January 2013