Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi diweddaru’r cyngor cyfreithiol ar roi rhoddion
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) wedi diweddaru ei gyngor cyfreithiol i ddirprwyon ac atwrneiod proffesiynol ar y rheolau ynghylch rhoi rhoddion.
Mae nodyn ymarfer OPG ar roi rhoddion yn egluro’r fframwaith cyfreithiol ynghylch rhoi rhoddion ac mae wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r dyfarniadau diweddar a wnaed gan y Llys Gwarchod.
Mae hefyd yn egluro beth fydd OPG yn ei wneud pe bai dirprwyon neu atwrneiod yn mynd y tu hwnt i’w hawdurdod i roi rhoddion ar ran yr unigolyn maent yn gweithredu drostynt.
Mae gan OPG arweiniad cyffredinol ar wahân i ddirprwyon ac atwrneiod nad ydynt yn broffesiynol ar roi rhoddion.
Gall bod yn atwrnai neu ddirprwy fod yn rôl heriol – fel swydd rhan amser i rai pobl – ac mae nodiadau ymarfer am ystod o bynciau ar gael i helpu atwrneiod a dirprwyon i weithredu mor effeithiol ag y gallant.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 January 2018 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
First published.