Datganiad i'r wasg

Gwasanaethau Ar-lein yn Gyrru Boddhad

DVLA a’r Gymdeithas Gwerthwyr Cerbydau Rhyddfraint Cenedlaethol (NFDA) yn gweithio gyda’i gilydd i annog delwyr modurwyr i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein DVLA.

Mae DVLA a’r Gymdeithas Gwerthwyr Cerbydau Rhyddfraint Cenedlaethol (NFDA) sy’n pwysleisio wrth werthwyr cerbydau sut y gall gwasanaethau ar-lein DVLA helpu i gynyddu boddhad cwsmeriaid, yn dilyn ymchwil newydd a gyhoeddwyd ar 9 Rhagfyr gan DVLA.

Dangosodd arolwg diweddar a gomisiynwyd gan DVLA y byddai 97% o’r rhai a ofynnwyd yn argymell gwasanaethau ar-lein DVLA. Y rheswm mwyaf poblogaidd i wneud busnes ar-lein oedd cyfleustra (86%), a ddilynwyd gan gyflymder (82%). Dangosodd ymchwil DVLA hefyd fod 9 o bob 10 modurwr y gofynnwyd iddynt wedi dweud bod y gwerthwr cerbydau wedi gofalu am yr ochr weinyddol ar yr adeg y prynwyd y cerbyd ganddynt. Dywedodd dros hanner y modurwyr (52%) hefyd y byddent yn fwy tebygol o werthu eu cerbyd i werthwr cerbydau a oedd yn cwblhau’r gwaith gweinyddol ar eu cyfer.

Y ffordd gyflymaf a’r symlaf i ddweud wrth DVLA bod cerbyd wedi’i brynu i mewn i’r busnes, ei werthu i mewn i’r busnes neu ei werthu i gwsmer fydd bob amser trwy wasanaeth ar-lein DVLA. Bydd cwsmeriaid yn derbyn cadarnhad yn syth nad nhw yw’r ceidwad bellach, ac ad-daliad awtomatig o unrhyw fisoedd llawn o dreth sy’n weddill. Bydd y rhai sy’n prynu cerbyd yn derbyn eu llyfr log newydd (V5CW) o fewn 5 niwrnod gwaith.

Yn ogystal â lefelau boddhad cwsmer uwch, mae gwerthwyr cerbydau hefyd yn elwa o amser gweinyddol is, dim costau postio a thrywydd archwilio cliriach ar gyfer dyddiad newidiadau ceidwad.

Gyda dros hanner y modurwyr hynny a ofynnwyd (51%) yn dweud eu bod wedi rhan-gyfnewid cerbyd wrth brynu cerbyd, mae gwasanaeth ar-lein diweddaraf y DVLA i ofyn am lyfr log V5CW dyblyg yn lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i’w dderbyn o 6 wythnos i 5 niwrnod yn unig, gan olygu mai dyma’r ffordd ddelfrydol i’r rhai hynny sy’n ceisio osgoi oedi pan fydd llyfr log y cerbyd wedi’i golli neu’i ddifrodi.

Dywedodd Prif Weithredwr y DVLA, Julie Lennard:

Gwasanaethau ar-lein DVLA fydd bob amser y ffordd gyflymaf a’r symlaf i gwsmeriaid ddelio â ni, ac mae miliynau o fodurwyr yn barod yn eu defnyddio. Dengys yr ymchwil bod modurwyr yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth y mae gwerthwyr cerbydau yn ei chynnig o ran yr ochr weinyddol, ac mae boddhad cwsmeriaid mor bwysig yn y diwydiant hwn fel ein bod yn awyddus i ddangos i werthwyr cerbydau fanteision ein gwasanaethau ar-lein.

Gall busnesau a modurwyr arbed amser ac arian trwy fynd ar-lein pan fydd angen iddynt wneud cais neu ddweud wrthym fod cerbyd wedi ei werthu i unigolyn arall - ar adeg a lle sy’n addas iddynt.

Dywedodd Sue Robinson, Prif Weithredwr, Cymdeithas Gwerthwyr Cerbydau Rhyddfraint Cenedlaethol (NFDA):

Rydym yn ymwybodol bod llawer o werthwyr cerbydau rhyddfraint yn barod yn croesawu manteision gwasanaethau ar-lein y DVLA. Mae’r gwasanaethau hyn yn gyflym, yn effeithlon ac yn hawdd eu defnyddio ac, o ganlyniad, yn sbardun gwych i’r rhai hynny sy’n ceisio cynyddu boddhad cwsmeriaid ac ailadrodd busnes trwy ragori yn y gwasanaeth cwsmeriaid y maent yn ei gynnig. Rydym yn annog gwerthwyr cerbydau rhyddfraint i barhau i bwysleisio wrth eu cwsmeriaid y manteision o ddefnyddio gwasanaethau ar-lein DVLA .

Ymweld â GOV.UK am restr lawn o wasanaethau ar-lein DVLA a rhagor o wybodaeth.

Nodiadau i’r Golygydd:

  • Mae’r gwasanaeth ar-lein i ddweud wrth DVLA bod cerbyd wedi’i brynu neu wedi’i werthu ar gael ar GOV.UK saith niwrnod yr wythnos rhwng 7am a 9pm.

  • Dylai modurwyr sydd angen gwneud cais am lyfr log dyblyg (V5CW) fynd ar-lein i https://www.gov.uk/gwerthu-prynu-cerbyd. Lansiwyd y gwasanaeth newydd ym mis Medi 2020 ac mae wedi cael ei ddefnyddio tua 45,000 o weithiau.

  • Ym mis Mehefin 2020, lansiwyd gwasanaeth newydd i fodurwyr newid y cyfeiriad ar eu llyfr log V5C. Mae’r gwasanaeth hwn wedi cael ei ddefnyddio tua 540,000 o weithiau ers iddo gael ei lansio.

  • Mae gwasanaethau ar-lein DVLA yn gweithredu fel arfer ac nid yw pandemig y Coronafeirws wedi effeithio arnynt. Mae holl wasanaethau ar-lein y DVLA ar gael ar GOV.UK.

  • Dywedodd 92.3% o ymatebwyr arolwg DVLA a gynhaliwyd ym mis Medi 2020 eu bod wedi prynu cerbyd ail-law. Dywedodd 73.8% eu bod wedi prynu’r cerbyd gan werthwr cerbydau. Dywedodd 51.1% eu bod wedi cyfnewid cerbyd am un arall wrth brynu un ail-law. Dywedodd 93.0% fod y gwerthwr cerbydau wedi cwblhau’r gwaith gweinyddol/papur y gwerthiant ar eu cyfer pan brynon nhw’r cerbyd a dywedodd 52.5% y byddent yn fwy tebygol o werthu cerbyd i werthwr cerbydau a gwblhaodd holl waith gweinyddol/papur y gwerthiant ar eu cyfer (dywedodd 18.4% nad oeddent yn gwybod).

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 9 December 2020