Datganiad i'r wasg

Nifer y bobl sy’n hawlio lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru’n gostwng am yr 22ain mis yn olynol

Stephen Crabb: “Mae’r darlun cyffredinol o gyflogaeth yn un cadarnhaol, ond yn amlwg, mae mwy o waith i’w wneud o hyd”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Gwelwyd gostyngiad o 1,300 yn nifer y bobl sy’n hawlio lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru ym mis Rhagfyr – gostyngiad am yr 22ain mis yn olynol – yn ôl ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos cynnydd o 4,000 mewn cyflogaeth dros y tri mis rhwng mis Medi a mis Tachwedd – ond cafwyd cynnydd o 9,000 mewn diweithdra yn ystod yr un cyfnod.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwelwyd gostyngiad o 16,100 yn y nifer sy’n hawlio lwfans Ceisio Gwaith - ac roedd 5,900 yn llai o hawlwyr ifanc. Mae nifer yr hawlwyr hirdymor wedi gostwng o 5,200 hefyd.

Er 2010, mae 30,000 yn fwy o bobl mewn gwaith, ac economi Cymru sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae 24,000 yn llai o bobl yn hawlio lwfans Ceisio Gwaith hefyd.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i ddatblygu Prydain â chyflogaeth lawn – rydyn ni’n annog mentergarwch ac yn cefnogi busnesau bach.

Mae’r darlun cyffredinol yn un cadarnhaol – mae’r cynnydd mewn cyflogaeth a’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n hawlio lwfans ceisio gwaith yn newyddion da, ond mae’r ffigurau diweithdra’n dangos bod gennyn ni fwy o waith i’w wneud.

Dim ond drwy gadw at ein cynllun economaidd hirdymor y gallwn ni barhau i gryfhau economi Cymru a rhoi sicrwydd swydd dda, cyflog rheolaidd a gwell dyfodol i fwy o bobl sy’n gweithio’n galed yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 21 January 2015