Dim cynlluniau i ddatganoli’r polisi ynni
Heddiw [dydd Mawrth 6 Medi] cadarnhaodd y Llywodraeth nad oes ganddi ddim cynlluniau i newid y broses bresennol ar gyfer gwneud penderfyniadau…
Heddiw [dydd Mawrth 6 Medi] cadarnhaodd y Llywodraeth nad oes ganddi ddim cynlluniau i newid y broses bresennol ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch seilwaith ynni mawr yng Nghymru.
Gan siarad yn dilyn dadl yn Neuadd San Steffan ar y polisi ynni yng Nghymru, meddai’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones, “Nid oes dim tystiolaeth anogol i gefnogi newid o’r fath. Mae ar ddatblygwyr prosiectau ynni newydd yng Nghymru angen proses benderfyniadau syml y gellir dibynnu arni.
“Mae’r system bresennol yn rhoi hynny. Mae angen i ni, wrth gwrs, sicrhau bod barn cymunedau lleol yn cael gwrandawiad pan wneir penderfyniadau, yn enwedig ynghylch ffermydd gwynt. Mae’r system bresennol yn gwneud hynny, ac mae cyngor TAN 8 Llywodraeth Cymru yn un o’r ffactorau y rhoddir ystyriaeth iddynt cyn gwneud unrhyw benderfyniad.”
Meddai’r Gweinidog Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd, Charles Hendry: “Mae polisi’r Llywodraeth ar hyn yn gwbl glir: yn amodol ar fod y Bil Lleoliaeth yn cael Cydsyniad Brenhinol, rydym ni’n credu mai’r penderfynwr iawn ar gyfer seilwaith ynni mawr yng Nghymru a Lloegr yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd. Rydym ni’n credu y bydd system gynllunio syml sy’n lleihau’r oedi ac yn rhoi sicrwydd, gan ennyn hyder buddsoddwyr, yn cael ei chyflenwi orau drwy gyfrwng system gynllunio unedig ar gyfer prosiectau ynni mawr yng Nghymru a Lloegr.
“Er fy mod yn croesawu’r ddadl heddiw fel cyfraniad at y drafodaeth ar y mater hwn, rwy’n gobeithio bod safiad y Llywodraeth yn glir ynghylch pam na fydd dim newid yn y broses bresennol.”