Datganiad i'r wasg

Bydd peidio cyhoeddi gwrthddalen y drwydded yrru cerdyn llun yn arbed miliynau i’r trethdalwr pob blwyddyn

O heddiw (8 Mehefin 2015) ymlaen, mae gwrthddalen bapur y drwydded yrru cerdyn llun yn cael ei gyfnewid gyda gwasanaeth ar-lein.

Bydd hyn yn arbed miliynau o bunnoedd i fodurwyr ac yn newid sut maent yn rhannu eu gwybodaeth gyda chyflogwyr neu gwmnïau llogi ceir.

Y llynedd roedd yn rhaid i’r DVLA ddarparu copïau newydd o tua 445,000 o gwrthddalennau wedi i yrwyr eu colli, gan godi £20 yr un atynt i dalu’r gost.

Meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth yr Arglwydd Ahmad o Wimbledon:

Bydd cyfnewid y gwrthddalen gyda gwasanaeth ar-lein yn arbed arian i fodurwyr ac yn lleihau biwrocratiaeth ddiangen.

Bydd hefyd yn fanteisiol i gyflogwyr a chwmnïau llogi cerbydau. Roedd dibynnu ar y gwrthddalen yn golygu dibynnu ar ddarn o bapur a allai fod wedi dyddio. Nawr, pan fydd y gyrrwr yn dewis ei rannu, bydd y sefydliadu hynny yn gallu gweld gwybodaeth hollol gywir yn syth o gofnodion y DVLA. Bydd hyn yn lleihau eu risg ac yn gwella diogelwch ar y ffyrdd.

Mae’r gwrthddalen bapur yn cynnwys gwybodaeth ar bwyntiau cosb y gyrrwr ynghyd â manylion pa gerbydau y gall yrru. Mae gyrwyr dal angen cadw eu trwydded yrru, p’un a yw’n drwydded cerdyn llun plastig neu’n drwydded bapur draddodiadol a gyhoeddwyd cyn 31 Mawrth 2000.

Wrth esbonio’r system newydd, dywedodd Oliver Morley, Prif Weithredwr y DVLA:

Mae’n hawdd iawn gweld a rhannu eich cofnod gyrru. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘gweld trwydded yrru’. Gallwch weld eich gwybodaeth yn electronig a chreu cod gwirio y gallwch ei rannu gyda phobl sydd angen gweld eich manylion (fel cyflogwr neu gwmni llogi ceir). Os ydych chi eisiau, gallwch hefyd lawrlwytho ac argraffu crynodeb.

Ceir rhagor o wybodaeth ar yr holl newidiadau ar GOV.UK – chwiliwch am ‘no more counterpart’.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae dros 46.4 miliwn o ddeiliaid trwyddedau ym Mhrydain Fawr.
  2. Mae gan 37.7 miliwn o ddeiliaid trwyddedau drwydded yrru cerdyn llun.
  3. Mae gan 8.7 miliwn o ddeiliaid trwyddedau drwydded bapur draddodiadol a gyhoeddwyd cyn 31 Mawrth 2000 – mae’r trwyddedau hyn yn dal yn ddilys.
  4. Gall gyrwyr weld gwybodaeth eu trwydded yrru ar-lein a chreu cod gwirio i rannu manylion gyda thrydydd partïon ar www.gov.uk/gweld-neu-rannu-eich-gwybodaeth-trwydded-yrru.
  5. Gall trydydd partïon ddefnyddio’r cod gwirio ar www.gov.uk/gwirio-gwybodaeth-trwydded-yrru-rhywun.
  6. Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i drwyddedau gyrru Prydain Fawr yn unig. Mae trwyddedau gyrru yn fater sydd wedi ei ddatganoli yng Ngogledd Iwerddon.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 8 June 2015