Dathliadau Casnewydd: bandiau, byrgyrs ac awyrennau'n hefan heibio i gofio am frwydr Prydain
Mae rhagor o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’r teulu wedi’u hychwanegu at ddathliadau’r ddinas groeso, ar thema NATO, y dydd Sadwrn hwn.
Newport Riverfront
Bydd y digwyddiadau, a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Chyngor Dinas Casnewydd, yn dechrau gyda band y Marchoglu Cartref yn chwarae cerddoriaeth o amgylch canol y ddinas o 10:30am ymlaen. Caiff y trigolion gyfle i flasu bwyd a diod o 28 gwlad y Gynghrair mewn gŵyl a gynhelir ar hyd glannau afon Wysg ger Theatr Glan yr Afon a The Wave.
Bydd byrgyrs cig ceirw Llychlyn ar gael, wafflau o Wlad Belg, smörgåsbord o Ddenmarc, paella o Sbaen a llawer iawn mwy. Ar stondin Prydain cews flasu caws Cymreig o Geredigion ynghyd â gwirod sy’n cael ei fragu’n lleol.
Bydd pedwar o fandiau lleol yn diddanu’r dorf, a gall plant fwynhau cael peintio’u hwynebau, rhoi cynnig ar waliau dringo yn ogystal ag ar her cwrs rhwystrau gwynt y fyddin gydol y dydd.
Bydd milwyr o bob rhan o’r fyddin, gan gynnwys Brigâd 160 (Cymru), wrth law i ddangos offer a cherbydau milwrol. Bydd cogyddion y fyddin hefyd yno i baratoi’r prydau y maent yn eu gweini i’r milwyr ar y rheng flaen. Caiff y trigolion gyfle i flasu’r rhain.
Bydd Awyrennau’n Hedfan Heibio dros y ddinas i gofio Brwydr Prydain i gloi dathliadau’r dydd am 19:30.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:
Mae llai na thair wythnos i fynd bellach nes daw Casnewydd dan y chwyddwydr rhyngwladol wrth iddi gynnal Uwchgynhadledd NATO. Mae Dathliadau’r Ddinas Groeso yn cael eu cynnal yng Nghasnewydd y dydd Sadwrn hwn i nodi’r Uwchgynhadledd hanesyddol hon ac i arddangos ein dinas groeso falch.
Bydd yr ŵyl yn rhoi cyfle i bobl flasu bwyd y gwledydd fydd yn mynychu’r Uwchgynhadledd a cheir dewis gwych o weithgareddau ar gyfer pobl o bob oedran. Rwyf wir yn edrych ymlaen i fod yn bresennol a byddwn yn annog pobl i ddod draw am ddiwrnod llawn hwyl fydd yn rhagflaenu Uwchgynhadledd NATO”.
Meddai’r Cynghorydd Ray Truman, dirprwy arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:
Mae’r amserlen ddigwyddiadau hon a drefnwyd gan Lywodraeth y DU yn addo bod yn gyfuniad cyffrous o arddangosfeydd ac adloniant i’r teulu i gyd”.
Uchafbwyntiau digwyddiadau Glan yr Afon:
10:30 Band y Marchlu Cartref yn gorymdeithio ac yn chwarae cerddoriaeth yng nghanol y ddinas
11:00 Seremoni Agoriadol gyda Band y Marchlu Cartref
11:30-16:30 Gŵyl Fwyd
Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd yn erbyn Burton Albion (Rodney Parade)
14:30 Band y Marchlu Cartref yn chwarae
14:50 Y Red Devils yn plymio o’r awyr i’r cae ac yn cyflwyno pêl y gêm i’r dyfarnwr
15:45 Band y Marchlu Cartref yn chwarae
Bydd amserlen gyflawn ar gyfer dathliadau dydd Sadwrn yn cael ei chyhoeddi ar www.newport.gov.uk
Cynhelir Uwchgynhadledd NATO 2014 yn y Celtic Manor ar 4-5 Medi.