Proses symlach newydd ar gyfer gohirio arwystlon
Byddwn bellach yn derbyn llythyr gohirio ar gyfer unrhyw fath o ohiriad arwystl.

Rydym wedi adolygu a symleiddio ein gweithdrefnau ar gyfer cofrestru gohirio arwystl.
Cyn hyn, roedd y drefn fel a ganlyn:
- roedd yn bosibl gohirio un arwystl syml i un arall trwy lythyr
- roedd rhaid gwneud gohiriad mwy cymhleth, er enghraifft gohiriad wedi’i gyfyngu i werth penodol, trwy weithred
- yn ogystal, roedd gwahanol gofnodion y gofrestr ar gyfer pob math o ohiriad
Gyda’r drefn newydd, byddwn yn derbyn llythyr gohirio ar gyfer unrhyw fath o ohiriad. Rydym wedi newid cofnodion y gofrestr hefyd. Bydd y rhain yn union yr un fath p’un ai yw’r gohiriad yn syml neu’n gymhleth.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 29: cofrestru arwystlon cyfreithiol a gweithredoedd amrywio arwystl sydd wedi’i ddiweddaru.
Mae’r drefn newydd yn berthnasol i bob cais sy’n cael ei brosesu ar neu ar ôl 10 Awst 2015, beth bynnag oedd dyddiad cyflwyno’r cais