Datganiad i'r wasg

Cyfraddau newydd Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn dod i rym

Bydd 80,000 o weithwyr yng Nghymru yn elwa

Minimum Wage

  • Bydd dros filiwn o bobl sy’n gweithio’n cael codiad cyflog heddiw wrth i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol godi.
  • Bydd prentisiaid yn cael mwy o gynnydd nag erioed
  • Cynnydd o dros £1,000 yng nghyflog blynyddol prentis llawn amser

Bydd cyflogau miloedd o weithwyr yng Nghymru’n cael hwb o heddiw ymlaen wrth i gyfraddau newydd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ddod i rym.

O ddydd Iau 1 Hydref 2015, bydd cyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer prentisiaid yn codi 57 ceiniog i £3.30 a bydd cyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer oedolion yn codi 20 ceiniog o £6.50 i £6.70 yr awr.

Mae prentisiaid yn cael mwy o hwb nag erioed ac mae’n golygu y bydd y rheini sy’n gweithio 40 awr yr wythnos yn derbyn £1,185 yn fwy yn eu cyflogau dros y flwyddyn.

Drwy fabwysiadu cyfradd uwch na’r hyn a argymhellwyd gan y Comisiwn Cyflogau Isel (LPC), bydd prentisiaethau’n cynnig cyflog sy’n debyg i ddewisiadau gwaith eraill.

Y cynnydd o 3% yn y gyfradd i oedolion yw’r cynnydd real mwyaf ers 2006 ac mae’n golygu bod yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn agosach nag erioed at y cyfartaledd cyflog. Mae’r gyfradd newydd yn golygu y bydd cyflogai sy’n gweithio’n llawn amser, am 40 awr, yn gweld y cynnydd ariannol mwyaf yn ei gyflog blynyddol ers 2008.

Yng Nghymru, bydd oddeutu 80,000 o swyddi’n dod o dan y gyfradd newydd i oedolion.

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o 1 Hydref 2015, fel y’u hargymhellwyd gan y Comisiwn Cyflogau Isel (LPC) yw:

  • bydd y gyfradd i oedolion yn cynyddu 20 ceiniog i £6.70 yr awr
  • bydd y gyfradd i bobl ifanc 18 i 20 oed yn cynyddu 17 ceiniog i £5.30 yr awr
  • bydd y gyfradd i bobl ifanc 16 i 17 oed yn cynyddu 8 ceiniog i £3.87 yr awr
  • bydd y gyfradd i brentisiaid yn cynyddu 57 ceiniog i £3.30 yr awr
  • mae’r swm sy’n cael ei osod yn erbyn llety’n cynyddu o £5.08 i £5.35

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd y cynnydd heddiw yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn hwb i gyflogau miloedd o weithwyr ar hyd a lled Cymru. Yn bwysig iawn, mae hyn yn cynnwys prentisiaid, sydd wrth galon ein hymrwymiad i gefnogi economi gryfach.

Mae’r cynnydd hwn, yn ogystal â chyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r cynnydd yn y lwfans personol di-dreth, yn rhannau hanfodol o’n cynllun i symud tuag at gymdeithas â llai o bwysau o ran lles a threthi, ond gyda chyflogau uwch.

Mae’r Llywodraeth hon ar gyfer un genedl wedi ymrwymo i sicrhau bod gwaith yn talu a gwneud yn siŵr bod pobl sy’n gweithio’n galed yn cael y cyflog mae ganddyn nhw hawl i’w gael.

Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol, sy’n dechrau fis Ebrill nesaf ar £7.20 yn cyrraedd dros £9 erbyn 2020.

Cyhoeddwyd ar 1 October 2015