Datganiad i'r wasg

Cyflog byw cenedlaethol newydd i roi hwb i safonau byw gweithwyr yng Nghymru

Stephen Crabb: "Mae’r llywodraeth Un Genedl hon yn ymrwymedig i wneud i weithio dalu a sicrhau bod pobl sy’n gweithio’n galed yn cael y cyflog y mae ganddynt hawl iddo"

National Living Wage

  • O’r 1 Ebrill ymlaen bydd gweithwyr 25+ oed yn y Deyrnas Unedig sy’n ennill yr isafswm cyflog o £6.70 yr awr yn gweld cynnydd o 50c.
  • Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn cefnogi gweledigaeth y Llywodraeth o gymdeithas sy’n ennill cyflogau uwch, dibynnu llai ar daliadau lles ac yn talu llai o dreth.

Dywedodd fwy na 48 y cant o weithwyr ar draws Cymru y byddant yn teimlo’n fwy cadarnhaol amdanynt eu hunain a’u teuluoedd o ganlyniad i gyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd, a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn ei Gyllideb yn yr haf.

Mae’r canfyddiadau’n rhan o arolwg newydd gan y Llywodraeth sy’n dangos hefyd y bydd 44 y cant o’r ymatebwyr ar draws yr ardal yn teimlo y bydd ganddynt fwy o gymhelliad i weithio o ganlyniad i’w cyflogau uwch.

Bydd dros filiwn o weithwyr 25+ oed yn y DU ar eu hennill yn uniongyrchol o’r cynnydd, sy’n gweld yr isafswm cyflog presennol o £6.70 yr awr yn codi o 50c. Bydd llawer yn gweld cynnydd o £900 y flwyddyn yn eu cyflog. Hwn fydd y cynnydd blynyddol mwyaf i’r isafswm cyflog ar draws holl o wledydd y G7 ers 2009 mewn termau arian parod a thermau real.

Mae canlyniadau’r arolwg yn cyd-ddigwydd â lansio ymgyrch hysbysebu newydd lle mae pobl go iawn yn siarad am yr effaith gadarnhaol a gaiff y Cyflog Byw Cenedlaethol ar eu bywydau.

Mae’r hysbyseb, fydd i’w gweld ar y teledu’r wythnos hon, yn dangos gwahanol weithwyr ar draws y Deyrnas Unedig fydd yn elwa o’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd wrth iddo gynyddu dros y pedair blynedd nesaf.

Meddai’r Canghellor George Osborne:

Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn rhan hanfodol o greu’r gymdeithas sydd ei hangen ar Brydain sef un sy’n ennill mwy, dibynnu llai ar daliadau lles ac yn talu llai o dreth, ac mae’n dda gweld y bydd safonau byw dros filiwn o bobl yn cael hwb pan ddaw i rym ar 1 Ebrill.

Mae Prydain yn haeddu codiad cyflog ac mae’r llywodraeth un genedl hon yn sicrhau y bydd yn cael un, gan helpu mwy o bobl i fwynhau sicrwydd cyflogau uwch er mwyn darparu drostynt eu hunain a’u teuluoedd.

Meddai’r Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid:

Mae’r Llywodraeth yn credu bod Prydain yn haeddu cael codiad cyflog a bydd ein Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn rhoi hwb uniongyrchol i dros filiwn o bobl. Rydym yn creu Prydain fwy cynhyrchiol gan roi sicrwydd o waith sy’n talu’n dda i deuluoedd.

Mae hyn yn gam ymlaen i bobl sy’n gweithio felly mae’n bwysig bod gweithwyr yn gwybod beth yw eu hawliau a bod cyflogwyr yn talu’r £7.20 newydd o’r 1 Ebrill eleni.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

Bydd cyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol ym mis Ebrill yn rhoi hwb i gyflog “clir” miloedd o weithwyr yng Nghymru. Bydd yn golygu y bydd gan fwy o bobl ar draws y wlad fwy o arian yn eu pocedi i’w wario ar y pethau sydd eu hangen ar eu teuluoedd. Mae’r llywodraeth Un Genedl hon yn ymrwymedig i wneud i weithio dalu a sicrhau bod pobl sy’n gweithio’n galed yn cael y cyflog y mae ganddynt hawl iddo.

Mae Abbie Nayar o Landaf yn Ne Cymru, sy’n rheolwr ar glinig hylendid deintyddol, yn ymddangos yn yr hysbyseb teledu. Mae eisoes yn ennill ychydig dros y Cyflog Byw Cenedlaethol.

Croesawodd Abbie y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd.

Rwy’n meddwl ei fod yn ofnadwy o bwysig. Bydd yn helpu. Pethau bach fel cyrraedd cownter y siop heb orfod teimlo’r embaras nad oes gennych ddigon o arian i dalu am eich negesau. A bydd yn helpu economi’r wlad drwy roi mwy o arian i’w wario i bobl; mae angen i ni gael pobl i fynd allan a gwario.

Yn ôl Abbie mae’n bwysig bod pobl yn gwneud yn siŵr y byddant yn cael y Cyflog Byw Cenedlaethol o’r 1 Ebrill ymlaen, os oes ganddynt hawl iddo.

Meddai wedyn:

Dylai pobl yn sicr siarad â’u cyflogwr. Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r arian ar ddiwedd y mis, felly mae’n bwysig bod pobl yn siarad â’u cyflogwr.

Mae mor bwysig i bobl sy’n gweithio mewn busnesau llai oherwydd mae’r warchodaeth gyfreithiol yn gefnogaeth iddynt. Medrant ddweud mai dyma yw eu hawl gyfreithiol.

Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at y cyflog newydd ac yn dweud wrth bobl am ddysgu mwy amdano drwy fynd i’r wefan yma

Bydd yn cefnogi teuluoedd sy’n gweithio’n galed ar draws y wlad. Bydd pobl hefyd ar eu hennill o’r cynnydd yn eu lwfans personol, fel na fydd gweithwyr ar y cyflogau isaf yn talu treth o gwbl, a bydd gofal plant am ddim hefyd yn cynyddu i 30 awr, gan helpu arian y tŷ i fynd yn bellach fyth.

Mae llawer o gwmnïau’r wlad eisoes wedi addo y byddant yn talu’r gyfradd newydd neu gyfradd uwch, gan gynnwys Morrisons, Lidl, National Express ac Ikea.

Mae’r Llywodraeth yn parhau i godi ymwybyddiaeth busnesau i wneud yn siŵr y byddant yn barod i dalu’r cyflog newydd ar 1 Ebrill. Fel rhan o hyn, mae wedi rhoi arweiniad mewn pedwar cam i fusnesau ar y wefan Cyflog Byw, gan ofyn i gwmnïau:

  1. Cadarnhau eu bod yn gwybod pwy sy’n gymwys yn eu cwmni;
  2. Cymryd y camau priodol i newid y gyflogres;
  3. Rhoi gwybod i’w staff am eu cyfradd gyflog newydd, a
  4. Cadarnhau bod eu staff o dan 25 oed yn ennill y gyfradd Isafswm Cyflog gywir o leiaf.

HMRC fydd yn gyfrifol am orfodi’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd, a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, o fis Ebrill 2016 ymlaen, a bydd yn cymryd camau cadarn os nad yw cyflogwr yn talu’r cyflog cywir.

Nodiadau ar gyfer Golygyddion

  1. I weld yr hysbyseb i gyd, cliciwch yma

  2. Cafodd yr arolwg o 1,200 o weithwyr ar draws y Deyrnas Unedig ei gyflawni ar gyfer BIS gan TNS BMRB yn Nhachwedd a Rhagfyr 2015. Mae’r manylion yma

  3. Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn dilyn codiadau diweddar yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i:

  • £6.70: Ar gyfer rhai 21+ oed
  • £5.30: Ar gyfer rhai 18-20 oed
  • £3.87: Ar gyfer rhai o dan 18
  • £3.30: Ar gyfer prentisiaid (mae’r gyfradd hon i’w thalu i bob prentis ym mlwyddyn un y brentisiaeth ac i brentisiaid 16-18 oed mewn unrhyw flwyddyn brentisiaeth).
  1. Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol wedi’u dyfeisio i warchod gweithwyr ar incwm isel ac i roi cymhelliad i bobl weithio drwy sicrhau bod pawb sy’n gweithio’n ennill cyflog mor hael â phosibl.

  2. Ar gyfer eithriadau i’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, cliciwch yma

  3. Mae HMRC wedi gorfodi’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ers 1999 a nhw fydd hefyd yn gyfrifol am orfodi’r Cyflog Byw Cenedlaethol o fis Ebrill 2016 ymlaen. Bydd timau cydymffurfio HMRC:

  • Yn ymchwilio i gwynion gan weithwyr a thrydydd partïon nad yw’r cyflog byw’n cael ei dalu
  • Yn archwilio cofnodion cyflogwyr i gadarnhau eu bod yn cwrdd â’u dyletswydd i dalu’r cyflog byw
  • Yn helpu cyflogwyr i ddeall eu hymrwymiadau o dan y ddeddfwriaeth
  • Yn sicrhau bod gweithwyr yn derbyn ôl-gyflog.

Abbie Nayar

Mae Abbie Nayar, sy’n fam i ddau o blant o Landaf yn Ne Cymru, yn rheolwr ar Glinig Hylendid Deintyddol Lucy Reed. Mae’n rhedeg y dderbynfa ac yn rheoli’r clinig hylendid o ddydd i ddydd. Mae’n glinig newydd felly mae’n gobeithio wrth i bethau brysuro y bydd yn cael mwy o oriau.

O fis Ebrill 2016 ymlaen bydd pobl ar draws y wlad yn cael codiad cyflog o dan Gyflog Byw Cenedlaethol newydd y Llywodraeth, gan roi mwy o arian yn eu pocedi. Mae hyn yn syniad da meddai Abbie.

Mae’n wirioneddol bwysig. Bydd yn helpu. Pethau bach fel cyrraedd cownter y siop heb orfod teimlo’r embaras nad oes gennych ddigon o arian i dalu am eich negesau. A bydd yn helpu economi’r wlad drwy roi mwy o arian i’w wario i bobl; mae angen i bobl fynd allan a gwario mwy.

Yn ôl Abbie mae’n bwysig bod pobl yn gwneud yn siŵr y byddant yn cael y Cyflog Byw Cenedlaethol o’r 1 Ebrill ymlaen, os oes ganddynt hawl iddo.

Meddai wedyn:

Dylai pobl yn sicr siarad â’u cyflogwr. Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r arian ar ddiwedd y mis, felly mae’n bwysig bod pobl yn siarad â’u cyflogwr.

Mae mor bwysig i bobl sy’n gweithio mewn busnesau llai oherwydd mae’r warchodaeth gyfreithiol yn gefnogaeth iddynt. Medrant ddweud mai dyma yw eu hawl gyfreithiol.

Roedd Abbie wedi mwynhau cymryd rhan yn ymgyrch hysbysebu teledu newydd y Llywodraeth a lansiodd ar y teledu’r wythnos hon.

Roedd cymryd rhan yn yr hysbyseb yn hwyl ac yn dipyn o hap-brofiad, wrth i mi gyfarfod â phobl hollol newydd, ac yn hwyl. Roedd yn wych cael gwneud fy ngwallt a fy ngholur, nid rhywbeth y byddwn fel arfer yn ei wneud yn y gwaith!

Lucy Reed – Perchennog busnes bach, Clinig Hylendid Deintyddol Lucy Reed

Mae Lucy Reed eisoes yn talu mwy na’r Cyflog Byw Cenedlaethol o £7.20 yr awr i’w staff. Dim ond yn ddiweddar y cychwynnodd ei busnes Hylendid Deintyddol annibynnol yng Nghaerdydd, a wnaed yn bosibl ond yn dilyn newidiadau’r Llywodraeth i Ddeintyddiaeth. Mae’n meddwl ei bod yn hollbwysig bod staff yn teimlo bod eu cyflogwr yn eu gwerthfawrogi.

Meddai Lucy:

Mae mor bwysig talu cyflog iawn i bobl. Byddwn yn talu mwy i Abbie pe gallwn fforddio gwneud hynny. Busnes newydd sydd ond newydd gychwyn ydyn ni felly wrth i fy elw gynyddu, byddaf gobeithio’n gallu talu mwy iddi. Rwy’n teimlo’n gryf am sicrhau bod pobl yn cael cyflog teg.

Daw’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd i rym ym mis Ebrill eleni ac mae Lucy’n meddwl ei fod yn syniad da.

Meddai Lucy:

Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn beth da oherwydd mae’n gwneud pobl yn hael. Dylen ni fod yn realistig o ran faint y mae’n ei gostio i fyw yn y wlad hon. Mae pobl yn bwysicach nag elw. Os oes gennych weithiwr da maent yn haeddu cyflog da.

Mae Lucy eisiau talu mwy’r awr pe bai’n gallu ac mae’n gobeithio, wrth i’w busnes dyfu, y gall wneud hynny.

Meddai:

Roedden ni eisiau talu’r Cyflog Byw Cenedlaethol, roedd yn flaenoriaeth gen i. Ac mae’n wych bod gennym weithiwr mor ardderchog – mae hi’n haeddu pob ceiniog.

O safbwynt busnes dylai fod gennych gynllun busnes. Ni allwch feio cyflogau am fusnes sy’n methu, os yw’n fusnes da bydd yn para. Mae dweud mai’r Cyflog Byw Cenedlaethol sy’n gyfrifol (am fusnesau’n methu) yn esgus wan.

Mae Lucy hefyd yn meddwl y bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn gwella cynhyrchedd:

Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn helpu cynhyrchedd yn aruthrol; mater o werthfawrogi’r person yw e. Mae pobl yn gweld yn sydyn iawn pa mor broffidiol yw cwmni. Os nad ydych yn talu digon iddynt mae’n creu drwgdeimlad. Bydd talu’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn gymhelliad cryf i bobl weithio’n galetach.

Craig Wiltshire

Ar hyn o bryd mae Craig Wiltshire, sy’n 40 oed o Abertawe, yn ennill £7.50 yr awr fel cynorthwywr i drydanwr gyda chwmni DC Electrical (Swansea) Ltd.

O dan Gyflog Byw Cenedlaethol newydd y Llywodraeth, ni fydd yn gweld cynnydd yn ei gyflog eleni ond bydd yn gweld gwahaniaeth wrth i’w gyflog godi erbyn 2020. Mae o blaid y codiad cyflog, fydd yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.

Rwy’n meddwl ei fod yn syniad gwych. Mae’n tynnu’r baich o gefnogi pobl sy’n gweithio oddi ar y Llywodraeth ac yn ei drosglwyddo i’r cyflogwr drwy wneud iddynt dalu mwy i’w staff. Mae hefyd yn gwneud i’r gweithiwr deimlo bod y cyflogwr yn eu gwerthfawrogi’n well os ydynt yn ennill mwy.

Roedd Craig wedi mwynhau cymryd rhan yn ymgyrch hysbysebu teledu newydd y Llywodraeth a lansiodd ar y teledu’r wythnos hon.

Meddai:

Roedd yn brofiad anhygoel ac yn wych cyfarfod gymaint o bobl oedd yn rhan o’r ymgyrch. Cefais fy synnu o weld faint o waith sy’n mynd i wneud hysbyseb fel hon.

Dylai pobl gadw llygad allan am y pethau sydd angen iddynt ei wybod a siarad â’u cyflogwyr i sicrhau eu bod yn derbyn y gyfradd gywir. Weithiau nid yw cyflogwyr yn ymwybodol o’r newidiadau hyn bob tro felly mae codi ymwybyddiaeth yn helpu.

Cyhoeddwyd ar 22 January 2016