Datganiad i'r wasg

Safle profi COVID lleol newydd wedi agor ym Mangor

Dyma'r safle diweddaraf i'w agor yng Nghymru gan Lywodraeth y DU

Mae cyfleuster profion coronafeirws newydd wedi agor i’r rheini sydd â symptomau drefnu apwyntiadau ym Maes Parcio Lôn Glan Môr (LL57 1AT) ym Mangor. Mae hyn yn rhan o ymgyrch Llywodraeth y DU ar draws y DU i barhau i’w gwneud hi’n haws i gymunedau lleol gael gafael ar brofion coronafeirws. Mae rhaglen brofi’r DU yn cael ei chyflwyno ar sail pedair gwlad, gyda Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad at brofion.

Dim ond ar gyfer y rheini sydd â symptomau’r coronafeirws y mae profion ar y safle hwn ar gael – tymheredd uchel, peswch cyson newydd, neu golli neu newid eich synnwyr o flas neu arogl. Gall unrhyw un sydd ag un neu fwy o’r symptomau hyn gael prawf yn y safle, neu drwy archebu prawf yn nhs.uk/coronavirus neu ffonio 119. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’w gwneud hi’n haws byth i bawb gael prawf a lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i gael canlyniadau profion.

Dechreuodd y profion ar y safle newydd ddydd Sadwrn, 28 Awst, ac mae apwyntiadau ar gael bob dydd.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae agor y ganolfan brofi newydd hon ym Mangor yn helpu pobl leol i gael gafael ar y cyfleusterau hyn heb deithio’n bell. Mae’n hanfodol bod pobl yn cael prawf os oes ganddyn nhw symptomau ac mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i wneud hynny mor hawdd â phosibl.

Mae gan Lywodraeth y DU gyfleusterau profi ledled Cymru, ac mae’r gwaith caled maen nhw’n ei wneud, ynghyd â’r GIG a’u partneriaid, yn chwarae rhan bwysig iawn yn ein brwydr yn erbyn y feirws.

Dydy pandemig Covid-19 ddim wedi dod i ben ac rydyn ni’n gofyn i bawb aros yn ofalus a hunanynysu os bydd Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn gofyn iddyn nhw wneud hynny. Rwy’n annog unrhyw un sy’n byw yn ardal Bangor i ddefnyddio’r cyfleuster newydd hwn a chael prawf os oes ganddyn nhw unrhyw symptomau.

Mae safle newydd Bangor yn rhan o’r rhwydwaith mwyaf o gyfleusterau profi diagnostig sydd wedi’u creu yn hanes Prydain, sydd wedi cael ei ehangu’n aruthrol drwy gyflwyno profion cyflym am ddim, ddwywaith yr wythnos, i bawb yng Nghymru. Mae profion cyflym yn canfod achosion yn gyflym, sy’n golygu y gall achosion positif ynysu ar unwaith.

Cyhoeddwyd ar 3 September 2021