Datganiad i'r wasg

Adeiladu cerbydau archwilio uwch-dechnoleg newydd y Fyddin ym Merthyr Tudful

Bydd Kevin Foster AS yn ymweld â Merthyr Tudful i ddathlu cyfraniad Amddiffyn y DU at ffyniant Cymru.

A family of four AJAX vehicles.

Bydd Kevin Foster AS, sef Gweinidog Cymru yn Llywodraeth y DU, yn ymweld â Merthyr Tudful heddiw, dydd Mercher 28 Awst 2019, i ddathlu cyfraniad Amddiffyn y DU at ffyniant Cymru.

Mae dros 700 o weithwyr yng nghyfleusterau General Dynamics UK ym Merthyr Tudful yn gosod, yn integreiddio ac yn profi AJAX, Cerbyd Ymladd Arfog cwbl ddigidol cyntaf y DU.

Bydd y cerbydau 589 AJAX yn gweithio fel cerbydau archwilio gan fwyaf a hynny yng nghalon Byddin Prydain. Bydd y chwe math gwahanol o gerbyd yn disodli fflyd CVR(T) Byddin Prydain, sydd wedi bod ar waith ers 1972, a bydd y cerbydau cyntaf yn cael eu danfon eleni ac yn parhau tan 2024.

Bydd AJAX yn darparu diogelwch o’r radd flaenaf a bydd y cerbydau yn goroesi, yn ddibynadwy ac yn hawdd eu symud ac yn cynnig cyfoeth o systemau archwilio uwch-dechnoleg.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn Ben Wallace AS:

Bydd AJAX yn rhoi mwy o hyblygrwydd, a mwy o allu i symud, ennill brwydrau a mantais i Fyddin Prydain. Bydd ei systemau archwilio uwch yn caniatáu i filwyr Prydain weld pethau’n gyntaf, pwyso a mesur eu dewisiadau a chymryd camau pendant cyn eu gelynion.

Dywedodd Kevin Foster AS, Gweinidog Cymru yn Llywodraeth y DU:

Roedd Amddiffyn y DU wedi gwario £960m gyda diwydiant Cymru y llynedd gan gefnogi tua 6,300 o swyddi yn y sector preifat. Mae’r buddsoddiad hwn mewn busnesau fel General Dynamics yn golygu mai Cymru ydy un o’r llefydd mwyaf cystadleuol yn y byd i fod yn arloesol, adeiladu busnesau a sicrhau diogelwch.

Mae cyfleuster General Dynamics UK ym Merthyr Tudful yn gosod, yn integreiddio ac yn profi’r cerbydau AJAX ar y safle, gyda’r holl dasgau peirianneg yn cael eu gwneud yn ei Ganolfan Cerbydau Brwydro Arfog yn Oakdale. Mewn ail safle yn Oakdale mae’r cwmni hefyd yn darparu ac yn cefnogi System Gyfathrebu Dactegol Bowman ar gyfer Byddin Prydain, gan gyflogi 490 o bobl eraill.

Mae’r gwerth £4.5bn o gontractau sydd wedi cael eu rhoi i General Dynamics Land Systems ar gyfer arddangos, gweithgynhyrchu a chynnal AJAX mewn gwasanaeth yn cefnogi 4,100 o swyddi yn y DU ar draws mwy na 230 o fusnesau yn y DU, ac mae 22 ohonynt yng Nghymru, gan gynnwys Kent Periscopes yn Llanelwy.

Ar hyn o bryd mae gan General Dynamics UK 70 o raddedigion a phrentisiaid yn ei weithlu, gyda rhagor yn ymuno ym mis Medi. Ar ben hynny, mae’r cwmni’n ymwneud llawer ag ysgolion cynradd ac uwchradd, gan hybu diddordeb mewn gyrfaoedd STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).

Mae General Dynamics wedi bod yn y DU ers 57 o flynyddoedd ac mae’n cyflogi dros 1,500 o bobl cymwysedig iawn ar draws nifer o leoliadau, gan gynnwys Oakdale, Merthyr Tudful, Royal Leamington Spa a Hastings.
Mae’r cwmni hefyd wedi llwyddo i ddarparu’r fflyd Mastiff ar sail Cougar, Ridgback a Wolfhound a’r cerbydau Foxhound ar gyfer Byddin Prydain, yn ogystal â chyfoeth o systemau afioneg ar gyfer awyrennau a hofrenyddion, gan gynnwys yr Eurofighter Typhoon.

Cyhoeddwyd ar 28 August 2019