Datganiad i'r wasg

Ffigyrau newydd DVLA yn awgrymu bod modurwyr yn colli allan ar filiynau

Mae’n bosibl bod modurwyr Prydeinig wedi colli allan ar arbedion o bron i £5 miliwn y flwyddyn ddiwethaf drwy beidio â mynd ar-lein i wneud cais am neu adnewyddu eu trwydded yrru, yn ôl ffigyrau newydd DVLA a gyhoeddwyd heddiw.

Mobile phone in someone's hand with the Apply for your provisional driving licence online service on the phone screen

Mae ceisiadau ar-lein nawr yn gyfrifol am bron i bob 4 allan o 5 cais am drwydded yrru dros-dro a thua hanner o holl geisiadau i adnewyddu trwyddedau gyrru – cynnydd o tua 10% dros y 3 mlynedd diwethaf. Mae trwydded yrru dros-dro cyntaf yn costio £43 os gwneir cais drwy’r post ond dim ond £34 ar-lein, gyda chostau adnewyddu yn costio £17 drwy’r post a £14 ar-lein. Ond roedd rhai gyrwyr wedi colli allan ar eu harbedion y flwyddyn ddiwethaf gyda mwy na 1.2 miliwn o yrwyr yn postio eu ceisiadau i DVLA.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Pob blwyddyn, mae mwy a mwy o bobl yn dewis defnyddio ein gwasanaethau ar-lein ac mae pob tro yn fwy rhad a chyflym i adnewyddu eich trwydded yrru ar GOV.UK. Hwn yw’r ffordd cyflymaf i’r rhai hynny sydd wedi colli neu gamosod eu trwydded i wneud cais am un newydd.

Nodiadau i’r Golygyddion:

  1. Dylai gyrwyr sy’n gwneud cais ar-lein defnyddio GOV.UK yn unig er mwyn bod yn sicr eu bod yn ymdrin â DVLA yn uniongyrchol ac yn talu’r pris isaf am wasanaethau sy’n cario ffi.

  2. rwy ddefnyddio GOV.UK wrth wneud cais am wasanaethau ar-lein, gall modurwyr hefyd sicrhau eu bod yn osgoi defnyddio gwefannau trydydd parti. Bydd y fath gwefannau yn aml yn codi ffi ychwanegol am wasanaethau sydd am ddim – neu’n costio llawer yn is – ar GOV.UK. Nid yw’r gwefannau hyn yn gysylltiedig â DVLA mewn unrhyw ffordd.

  3. Gall cwsmeriaid gwneud cais am drwydded yrru dros-dro ar-lein gyda DVLA ar GOV.UK

  4. Gall cwsmeriaid cael gwybod mwy ynghylch adnewyddu eu trwydded yrru ac hefyd eu hadnewyddu ar-lein gyda DVLA ar GOV.UK

  5. Os ydynt yn 70 oed neu drosodd, gall cwsmeriaid adnewyddu eu trwydded yrru ar-lein gyda DVLA am ddim ar GOV.UK

  6. Mae’n rhad ac am ddim i adnewyddu trwydded yn 70 oed neu’n hŷn, beth bynnag yw’r llwybr a ddewiswyd.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 27 June 2019