Skip to main content
Stori newyddion

Contractau newydd i wella gwasanaethau iaith ar draws llysoedd a thribiwnlysoedd

Daw contractau gwasanaethau iaith newydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder i rym heddiw (dydd Llun, 5 Hydref 2026), gan helpu i ddarparu gwasanaethau mwy cyson, dibynadwy a hygyrch ar draws Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF).

Mae’r contractau yn cynnwys cyfieithu ar y pryd, Iaith Arwyddion Prydain (BSL), cyfathrebu gweledol a chyffyrddadwy, a sicrwydd ansawdd annibynnol.  

Dyfarnodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y contractau yn dilyn proses gaffael gadarn.  Bydd y cyflenwr presennol, thebigword yn parhau i ddarparu gwasanaethau iaith lafar i ddechrau, tra bod Translate UK yn dod yn ail gyflenwr iaith lafar ychwanegol newydd. Bydd Clarion UK yn parhau i ddarparu gwasanaethau cyfathrebu gweladwy a chyffyrddadwy, a bydd The Language Shop yn parhau i ddarparu sicrwydd ansawdd annibynnol.  

Mae’r contractau newydd yn cyflwyno nifer o welliannau a ddyluniwyd i wneud y gwasanaeth yn fwy gwydn a lleihau’r angen am archebion oddi ar gontract.  

Gwelliannau ar gyfer cyfieithwyr ar y pryd 

Mae’r contractau newydd yn cyflwyno proses gynefino gadarnach, gan gynnwys cynllun cynefino gorfodol i’r system gyfiawnder, i helpu cyfieithwyr ar y pryd ddeall gweithdrefnau’r llys, disgwyliadau proffesiynol ac anghenion defnyddwyr llysoedd a thribiwnlysoedd. Bydd cyfieithwyr ar y pryd hefyd yn gallu optio allan o rai mathau o achosion ble bo’n briodol, gan gydnabod y galw am weithio gyda deunydd sensitif neu sy’n peri gofid.

Bydd The Language Shop yn darparu trosolwg annibynnol ac asesiadau ansawdd seiliedig ar risg, gan helpu i nodi a datrys materion yn gynt.  

Beth mae hyn yn ei olygu i ddefnyddwyr llysoedd a thribiwnlysoedd  

I bobl sy’n defnyddio gwasanaethau GLlTEF, y prif fantais yw mynediad teg ac effeithiol at gyfiawnder. P’un a yw rhywun angen cyfieithu ar y pryd, BSL neu gyfathrebu gweledol neu gyffyrddadwy, dylent allu deall achosion a chael eu deall.  Mae’r contractau newydd wedi eu dylunio i wneud y gefnogaeth honno yn fwy cyson ar draws pob awdurdodaeth.   

Bydd gwelliannau i gyfieithu ar y pryd wyneb yn wyneb, drwy fideo a chyfathrebu gweledol a chyffyrddadwy arall yn parhau i gefnogi dealltwriaeth effeithiol rhwng defnyddwyr, y farnwriaeth, gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith a staff GLlTEF, gan helpu pobl i gymryd rhan yn llawn yn eu hachos.

Roedd cyfieithwyr ar y pryd, gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith a chydweithwyr sy’n defnyddio gwasanaethau iaith wedi darparu adborth oedd yn llywio’r trefniadau newydd. Drwy gyfuno’r cipolwg hwnnw gyda safonau cliriach a sicrwydd annibynnol, bydd GLlTEF mewn lle gwell i ddarparu gwasanaeth sy’n ymateb i ddefnyddwyr ac yn cefnogi gwrandawiadau i gael eu cynnal fel y trefnwyd.  

Mae rhagor o wybodaeth ar dudalen gwasanaethau iaith GLlTEF.