Datganiad i'r wasg

Dadlennu logo Uwchgynhadledd NATO Cymru 2014

David Jones yn bressenol ar achlysur dadlennu logo NATO Cymru ym Mrwsel

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Caernarfon castle

Heddiw dadlennodd William Hague, yr Ysgrifennydd Tramor ac Anders Fogh Rasmussen, Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, y logo ar gyfer Uwchgynhadledd NATO Cymru 2014 ym Mrwsel. Roedd David Jones, Ysgrifennydd Cymru, hefyd yn bresennol yn yr achlysur a oedd yn dilyn derbyniad a gynhaliwyd ddydd Mawrth i arddangos y gorau o gynnyrch Cymru i weinidogion tramor o bob rhan o’r byd.

Yn y lansiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague:

Mae’r DU yn edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu ein partneriaid a’n Cynghreiriaid yn NATO i Uwchgynhadledd NATO Cymru ym mis Medi. Wrth i Weinidogion Tramor NATO gyfarfod heddiw am y tro olaf cyn yr Uwchgynhadledd, pleser o’r mwyaf i’r Ysgrifennydd Cyffredinol, Anders Fogh Rasmussen, a minnau yw dadlennu logo Uwchgynhadledd NATO Cymru 2014. Mae hefyd yn bleser mawr i gael cwmni Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones yma heddiw.

Mae’r logo yn cynnwys Castell Caerdydd, Cwlwm Celtaidd, y ddraig goch sy’n cynrychioli ysbryd anorchfygol bobl Cymru, a phont cludo Casnewydd - eicon o ddinas Gasnewydd.

Pan cynhaliodd y DU yr uwchgynhadledd ddiwethaf ym mis Gorffennaf 1990, roedd o’r Rhyfel Oer yn dod i ben, nid oedd NATO wedi cynnal unrhyw weithrediadau tramor eto. Ers hynny, mae’r byd wedi newid, a NATO yw conglfaen anhepgor ein diogelwch.

Welsh Nato logo

Dywedodd Anders Fogh Rasmussen, Ysgrifennydd Cyffredinol NATO:

Fel William, rwy’n falch iawn o ddadlennu’r logo ar gyfer uwchgynhadledd nesaf NATO yng Nghymru. Mae’n ddelwedd egnïol sy’n cynnwys symbolau grymus o Gymru mewn ffordd gyfoes.

Mae’r cwlwm Celtaidd yn cynrychioli’r pedair elfen hynafol – tân, dŵr, y ddaear a’r awyr. I mi, mae hefyd yn symbol o’r cwlwm annhoradwy sy’n cysylltu Cynghreiriaid NATO â’i gilydd.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’n destun balchder i mi fod yn bresennol yn yr achlysur hwn ym Mrwsel i lansio logo Uwchgynhadledd NATO Cymru. Mae’n arwydd o ymrwymiad y Llywodraeth i Gymru bod y Prif Weinidog wedi dewis dod ag Uwchgynhadledd NATO i Gasnewydd.

Mae’n rhaid i bob un ohonom fanteisio ar y cyfle unwaith mewn oes hwn i osod Cymru ar lwyfan y byd, gan arddangos y gorau sydd ganddi i’w gynnig ac anfon cynrychiolwyr yn ôl adref gyda’r neges gadarn ein bod ‘ar agor i fusnes’. Mae’r logo yn symbol gweladwy o’r neges honno.

Caiff y logo ei ddefnyddio ym mannau cyfarfod yr Uwchgynhadledd ac wrth gyfathrebu â miloedd o gynrychiolwyr ac aelodau o’r cyfryngau a fydd yn mynychu’r Uwchgynhadledd. Mae’n seiliedig ar dreftadaeth amrywiol Cymru ac yn cynnwys rhai o’r delweddau eiconig a gysylltir â’r genedl.

Mae’r llywodraeth hefyd yn gofyn i bobl ledled Cymru rannu eu lluniau o’r hyn sy’n gwneud Cymru mor arbennig iddyn nhw – a bydd detholiad o’r lluniau yn cael ei arddangos o amgylch mannau cyfarfod yr Uwchgynhadledd ym mis Medi. Mae’n bosib y bydd unrhyw luniau o Gymru sy’n cael eu hanfon ar Twitter i’r hashnod #MyWales rhwng nawr a’r Uwchgynhadledd yn cael eu gweld gan y dwsinau o arweinwyr y byd a fydd yn bresennol - gan helpu i wneud yr Uwchgynhadledd yn gyfle i bobl Cymru arddangos y gorau sydd gan y wlad i’w gynnig.

Nodyn i Olygyddion:

Mae logo Uwchgynhadledd NATO Cymru 2014 yn cynnwys y canlynol:

  • Logo NATO
  • Castell fel symbol o hanes cyfoethog Cymru (gyda’i 641 o gestyll, mae mwy o gestyll i’r filltir sgwâr yng Nghymru nac yn unrhyw wlad arall yn y byd)
  • Draig i gynrychioli Ysbryd Cymru – “Y Ddraig Goch Ddyry Gychwyn”.
  • Cwlwm Celtaidd fel symbol o dreftadaeth Cymru - mae’r cwlwm yn cynrychioli pedwar pwynt y cwmpawd a’r bedair elfen, sef Dŵr, Tân, y Ddaear a’r Awyr
  • Pont Gludo Casnewydd i gynrychioli’r ddinas sy’n cynnal yr Uwchgynhadledd – mae’r bont yn un o eiconau nenlinell Casnewydd ac yn un o’r chwech o bontydd cludo sy’n dal yn weithredol yn y byd.

Dilynwch NATO Wales @NATOWales

#NATOSummitUK

#cymruimi

Cyhoeddwyd ar 25 June 2014