Datganiad i'r wasg

Cyflwyno Band Eang Cyflym Iawn i fwy o bobl ac yn gyflymach, diolch i hwb gwerth miliynau o bunnoedd

Cymru yn elwa o £12 miliwn ychwanegol i ariannu’r gwaith o gyflwyno Band Eang Cyflym Iawn

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Superfast Broadband

Heddiw cyhoeddodd Maria Miller, yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, y bydd £12 miliwn ychwanegol gan y Llywodraeth ar gyfer band eang cyflym iawn yn helpu i gychwyn busnesau a chreu swyddi mewn rhai o’r ardaloedd gwledig anoddaf eu cyrraedd yng Nghymru.

Mae’r prosiect i gyflwyno band eang cyflym iawn ar draws y wlad yn rhan allweddol o gynllun economaidd hirdymor y Llywodraeth i sicrhau dyfodol Prydain drwy ddarparu gwell mynediad i fand eang cyflym iawn. Drwy neilltuo cyllid, mae’r Llywodraeth wedi mynd ati i sicrhau bod cynifer â phosibl o deuluoedd a busnesau yn elwa o hyn.

Erbyn hyn, mae dros 100,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn gallu manteisio ar gyflymderau cyflym iawn yn sgil prosiect Llywodraeth y DU i gyflwyno band eang cyflym iawn.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi buddsoddi £57 miliwn yn y prosiect Cyflymu Cymru, a ddylai ddarparu band eang cyflym iawn i 96% o gartrefi a busnesau yng Nghymru erbyn gwanwyn 2016.

Bydd prosiectau lleol yng Nghymru nawr yn cael £12 miliwn o gyllid ychwanegol, ac mae’r lleoliadau anoddaf eu cyrraedd ymhlith y rheini a fydd yn elwa fwyaf.

Bydd y rhaglen band eang gwledig bresennol yn cynhyrchu £20 am bob £1 a fydd yn cael ei buddsoddi, sy’n rhoi gwerth gwych am arian. Yn ogystal â gwella cynhyrchiant cwmnïau band eang, bydd band eang cyflymach hefyd yn creu 56,000 o swyddi ychwanegol yn y DU erbyn 2024. Hefyd, disgwylir y bydd y gwaith presennol o gyflwyno band eang cyflymach yn rhoi hwb o £1.5 biliwn i economïau lleol, wrth i oddeutu 35,000 o flynyddoedd gwaith gael eu creu neu eu diogelu yn ystod y cyfnod hyd at 2016. Erbyn 2024, bydd buddsoddiadau presennol y Llywodraeth mewn band eang cyflymach yn rhoi hwb o £275 miliwn i economïau gwledig bob mis, neu oddeutu £9 miliwn bob diwrnod.

Mae dros 10,000 o gartrefi a busnesau ledled y DU yn cael mynediad i fand eang cyflymach bob wythnos, a disgwylir i’r ffigur hwn gyrraedd 40,000 yr wythnos erbyn yr haf. Mae nifer o resymau cadarn, yn ymwneud ag effeithlonrwydd a thwf economaidd, pam y dylai awdurdodau lleol gyfrannu at y gost o gyflwyno band eang cyflym iawn, a bydd yr arian ychwanegol yn cael ei ddyfarnu ar sail arian cyfatebol.

Mae band eang cyflym iawn yn galluogi teuluoedd i ddefnyddio mwy nag un ddyfais ar yr un pryd. Felly wrth i’r rhieni ffrydio ffilm neu eu hoff raglen deledu, mae’r plant yn gallu llwytho lluniau a fideos i fyny i safleoedd cyfryngau cymdeithasol a llwytho cân ddiweddaraf eu hoff artist i lawr ar yr un pryd. Bydd busnesau hefyd yn elwa’n aruthrol o’r prosiect hwn, a fydd yn hwyluso fideogynadleddau, yn rhoi hwb i bŵer prosesu ac yn cynyddu cynhyrchiant.

Dywedodd Maria Miller, yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant:

Bydd pawb yng Nghymru yn elwa o Fand Eang Cyflym Iawn – p’un a oes angen hynny arnyn nhw ar gyfer gwaith, i wneud gwaith cartref neu i lwytho ffilmiau neu gerddoriaeth i lawr. Mae miloedd o gartrefi a busnesau yn gallu manteisio ar fand eang cyflym iawn erbyn hyn, ac mae’n helpu pobl gyda’u tasgau bob dydd. Rydym am wneud yn siŵr bod Prydain yn un o’r gwledydd gorau yn y byd o ran band eang, a bydd yr arian ychwanegol rydym yn ei fuddsoddi yn helpu i sicrhau nad yw cymunedau yn y DU yn cael eu gadael ar ôl yn ddigidol.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae cyhoeddiad heddiw yn arwydd pendant o ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r prosiect Band Eang Cyflym Iawn ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig drwyddi draw. Mae’r Ysgrifennydd dros Ddiwylliant a minnau wedi bod yn cynnal trafodaethau rheolaidd ar y mater hwn, ac rwy’n falch y bydd Cymru yn cael £12 miliwn ychwanegol. Mae dros 100,000 o safleoedd yng Nghymru eisoes wedi elwa o’r prosiect band eang cyflym iawn diolch i’r £57 miliwn mae Llywodraeth y DU eisoes wedi’i fuddsoddi, ac rwy’n hynod falch y bydd y nifer hwnnw’n cynyddu’n sylweddol yn sgil y buddsoddiad pellach hwn.

Dywedodd Stephen Crabb, y Gweinidog yn Swyddfa Cymru sydd â chyfrifoldeb portffolio dros fand eang:

Mae’r prosiect Band Eang Cyflym Iawn yn enghraifft berffaith o sut gellir cyfuno buddsoddiad gan Lywodraeth y DU â ffynonellau cyllid eraill i ddarparu ar gyfer pobl Cymru. Drwy gael mynediad i fand eang cyflym iawn, gall busnesau ehangu, datblygu marchnadoedd newydd a chreu’r swyddi sydd eu hangen arnom. O’n hardaloedd gwledig i’n dinasoedd, mae’r Llywodraeth hon yn sicrhau y bydd gan bobl Cymru rwydwaith band eang sy’n addas i’r oes ddigidol.

Mae nifer o resymau cadarn, yn ymwneud ag effeithlonrwydd a thwf economaidd, pam y dylai awdurdodau lleol gyfrannu at y gost o gyflwyno band eang cyflym iawn, a bydd y £12 miliwn ychwanegol yn cael ei ddyfarnu ar sail arian cyfatebol. Bydd y rhaglen band eang gwledig bresennol yn cynhyrchu £20 am bob £1 a fydd yn cael ei buddsoddi, sy’n rhoi gwerth gwych am arian.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi ymrwymo £10 miliwn yn ddiweddar i edrych ar ffyrdd o gyrraedd yr ardaloedd hynny sy’n rhan o’r “5 y cant olaf”. Dyma rai o’r technolegau posibl y byddai modd eu treialu o dan y gronfa hon:

  • Defnyddio signal symudol 4G i ddarparu band eang cyflym iawn ‘di-wifr sefydlog’.
  • Defnyddio cysylltiad ffibr yn syth i safleoedd.
  • Symud ffibr o gabinetau band eang i bwynt dosbarthu ymhellach i lawr y rhwydwaith, gan gyflymu’r cyflymderau drwy leihau’r ddibyniaeth ar gopr.
  • Technoleg lloeren.

Bydd y gronfa’n agor ar 17 Mawrth 2014, ac rydym yn gofyn i awdurdodau lleol gefnogi’r prosiectau peilot hyn.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae hyn ynghyd â’r arian a ddyrannwyd i Gymru yn flaenorol o dan y rhaglen Band Eang Gwledig gan Broadband Delivery UK yn arwain at fuddsoddiad o £69.04 miliwn.

  2. Rhaglen fuddsoddi gan y Llywodraeth mewn seilwaith band eang a chyfathrebu ledled y DU yw Superfast Britain. Mae’n cael ei chynnal gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac mae’r buddsoddiad hwn yn helpu busnesau i ehangu, mae’n creu swyddi a bydd yn gwneud Prydain yn fwy cystadleuol yn y ras fyd-eang. Mae tair elfen i’r portffolio:

  • £790 miliwn i ymestyn band eang cyflym iawn i 95% o’r DU erbyn 2017
  • £150 miliwn i ddarparu band eang cyflym i fusnesau mewn 22 dinas
  • £150 miliwn i wella ansawdd a derbyniad gwasanaethau rhwydwaith data sylfaenol a ffonau symudol

Mae Superfast Britain, a weinyddir ar ran y Llywodraeth gan Broadband Delivery UK (BDUK), yn gweddnewid Prydain drwy hybu twf, galluogi pobl i ennill sgiliau a dysgu, a gwella ansawdd bywyd.

Cyhoeddwyd ar 25 February 2014