Datganiad i'r wasg

Rhybudd i fodurwyr am wefannau sy’n codi tâl premiwm am wasanaethau DVLA sydd am ddim ar GOV.UK

Mae DVLA wedi cael ei chysylltu mwy na 1,200 o weithiau ers Ionawr 2020 gan gwsmeriaid sydd wedi talu mwy am wasanaethau na sydd eu hangen arnynt drwy ddefnyddio gwefannau nad ydynt yn gysylltiedig.

Mae DVLA yn annog modurwyr i fod yn ymwybodol o wefannau sy’n codi tâl premiwm am wasanaethau DVLA sydd yn rhatach neu am ddim ar GOV.UK. Mae’r asiantaeth yn atgoffa modurwyr y dylent ddefnyddio GOV.UK bob amser, i sicrhau eu bod nhw’n delio’n uniongyrchol â DVLA ac nad ydynt yn talu mwy na sydd ei angen arnynt.

Daw hyn wrth i ffigurau newydd a rhyddhawyd heddiw ddangos ers Ionawr 2020, bod cwsmeriaid wedi cysylltu â DVLA mwy na 1,200 o weithiau ynglŷn â gwefannau nad yw’n gysylltiedig â DVLA ond sydd yn honni eu bod yn cynnig gwasanaethau sy’n gysylltiedig â DVLA.

Gallai defnyddio unrhyw wefan heblaw GOV.UK olygu y bydd modurwyr yn talu mwy am wasanaethau sydd naill ai yn rhatach neu’n rhad ac am ddim ar GOV.UK, megis newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru neu dystysgrif gofrestru cerbyd V5CW, ac adnewyddu trwydded yrru o 70 oed.

Bydd gwneud cais ar-lein y ffordd gyflymaf, hawsaf ac, yn aml, rataf i ymwneud â DVLA bob amser – a thrwy fynd ar GOV.UK gall modurwyr fod yn siŵr bod eu cais yn ddiogel. Cael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael ar GOV.UK.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

GOV.UK yw’r unig wefan ble y gall cwsmeriaid ddod o hyd i’n gwasanaethau swyddogol, a’r nifer ohonynt am ddim. Efallai y codir premiwm arnoch wrth ddefnyddio gwefannau eraill sy’n cynnig gwasanaethau sydd ddim yn gysylltiedig â DVLA.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio bob amser eich bod yn defnyddio GOV.UK wrth gyrchu ein gwasanaethau ar-lein neu wrth edrych am wybodaeth. Golyga hyn na fyddwch yn talu mwy na sydd ei angen arnoch am wasanaethau sy’n rhatach neu am ddim a gallwch fod yn siŵr eich bod yn delio â ni’n uniongyrchol.

Ychwanegodd Guy Anker, dirprwy olygydd yn MoneySavingExpert.com:

Nid yw’r gwefannau dynwaredol hyn yn anghyfreithlon, ond rydynt yn gwneud eu hunain edrych fel tudalennau gwe dilys, ac yn defnyddio triciau clyfar i ymddangos yn uwch ar chwilotwyr. Maent yn gwneud ichi lenwi ffurflenni, sydd ddim yn gofyn am fwy o waith gennych nac os byddech wedi ei wneud eich hun drwy’r gwefannau swyddogol, ac wedyn rydynt yn codi gormod arnoch am ‘weinyddu’ neu ‘wasanaethau’ – sy’n golygu mewn gwirionedd ei basio i’r corff perthnasol, heb unrhyw waith ychwanegol. Mae’r gwasanaethau hyn fel arfer am ddim neu lawer yn rhatach os ydych yn eu gwneud eich hun, sy’n gallu gadael blas drwg.

Y rhybudd amlwg eich bod chi ar wefan ddynwaredol yw os ydyw’n codi tâl arnoch am rywbeth sydd am ddim fel arfer – megis diweddaru eich llyfr log cerbyd (V5CW) pan rydych wedi newid eich cyfeiriad. Arwydd arall yw’r cyfeiriad gwe, felly os ydych ar wefan y llywodraeth, arolygwch hi’n ofalus i wneud yn siŵr ei bod yn dweud GOV.UK. Mae hefyd yn werth gwybod y pris cywir am wasanaeth y telir amdano – yn y gorffennol rydym wedi sylwi bod cwmnïau’n cynnig ‘gwasanaethau gwirio’ am adnewyddu trwyddedau gyrru sy’n costio £60, mwy na phedair gwaith y £14 mae’n ei chostio i’w wneud drwy GOV.UK.

Nodiadau i olygyddion:

Ers Ionawr 2020 mae DVLA wedi cael ei chysylltu gan aelodau’r cyhoedd 1,210 o weithiau ynghylch gwefannau trydydd parti. Nid yw gwefannau o’r fath yn gysylltiedig â DVLA mewn unrhyw ffordd.

Ceir gwybodaeth ar GOV.UK am yr ystod o wasanaethau DVLA sydd ar gael ar-lein yn www.gov.uk/browse/driving.

Nid yw gwasanaethau ar-lein DVLA wedi cael eu heffeithio gan y pandemig a byddant bob amser y ffordd gyflymaf a symlaf i ddelio â ni.

Rydym yn cyhoeddi cyngor i gwsmeriaid yn rheolaidd ar draws ein sianeli ynglŷn â sut i gadw’n ddiogel ar-lein ac yn atgoffa ein cwsmeriaid yn rheolaidd y dylent ddefnyddio GOV.UK yn unig wrth edrych am wasanaethau neu wybodaeth DVLA.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 30 June 2021