Datganiad i'r wasg

Mwy na 150,000 o bobl yn elwa o wasanaethau cyfiawnder ar-lein yn 2018

Bu i fwy na 150,000 o bobl ddefnyddio gwasanaethau cyfiawnder ar-lein yn ystod y 12 mis diwethaf, gan gymryd y cyfanswm i fwy na 300,000 yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Image of hands using a keyboard
  • Gweithredu’r rhaglen ddiwygio sydd ar y gweill i foderneiddio llysoedd a thribiwnlysoedd
  • Cyfraddau bodlonrwydd uchel gan bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau
  • Cynnwys ceisiadau ysgaru, hawliadau am arian a phledion ar-lein

Mae’r cynnydd hwn yn dilyn buddsoddiad o £1bn gan y Llywodraeth i ddod â thechnoleg newydd a ffyrdd modern o weithio i’r system gyfiawnder. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth ar-lein newydd cwbl hygyrch ar gyfer hawlio arian yn y llys sifil sy’n rhoi’r gallu i bobl wneud cais ar-lein – gyda mwy na 39,000 o hawliadau wedi’u gwneud ers ei lansio ym mis Mawrth a chyfraddau bodlonrwydd o 89% - a system newydd ar gyfer gwneud cais am ysgariad ar-lein, sydd wedi lleihau camgymeriadau mewn ffurflenni cais o 40% i lai nag 1%.

Mae adborth gan y cyhoedd yn gadarnhaol gyda 85% o bobl yn dweud eu bod yn hapus gyda’r gwasanaeth ysgariad newydd, 93% yn dweud eu bod hapus gyda’r gwasanaeth profiant a 89% yn dweud eu bod yn hapus gyda’r gwasanaeth hawlio arian yn y llys sifil.

Mae’r amser a gymerir i lenwi cais am ysgariad hefyd wedi gostwng mwy na hanner awr ar gyfartaledd.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder, Lucy Frazer:

Mae’r gwasanaethau ar-lein hyn eisoes yn gwneud gwahaniaeth i bobl sy’n defnyddio’r system gyfiawnder. Wrth inni gyrraedd y garreg filltir hon, mae’n galonogol gweld bod pobl yn dweud bod y gwasanaethau hyn yn gweithio’n dda ac yn fwy addas ar gyfer eu bywydau prysur.

Mae’r gwasanaethau newydd sydd eisoes yn cael eu darparu gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn 2018 yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Ysgaru Ar-lein – mae dros 23,000 o geisiadau wedi’u gwneud ers iddo gael ei lansio ym mis Ebrill 2018
  • Gwasanaeth Ar-lein ar gyfer Hawlio Arian yn y Llys Sifil – mae dros 39,000 o hawliadau am arian wedi’u gwneud ers ei lansio ym mis Mawrth 2018, gyda’r hawliad cyflymaf yn cael ei gyflwyno a’i dalu mewn llai na dwy awr
  • Profiant Ar-lein – mae dros 7,500 o geisiadau wedi’u gwneud ers mis Gorffennaf 2018
  • Cyflwyno eich Apêl Ar-lein – mae 3,300 o apeliadau PIP wedi’u cyflwyno ar-lein ers ei lansio ym mis Gorffennaf 2018
  • Pledio Ar-lein – Mae mwy na 1,400 o bledion wedi’u gwneud ar-lein drwy’r Weithdrefn Un Ynad ar gyfer achosion peidio â thalu am docyn Transport for London ers ei lansio ym mis Ebrill 2018

Yn ogystal, mae dros 81,000 o bledion wedi’u gwneud ar-lein yn ystod 2018 ar gyfer troseddau moduro lefel isel drwy’r gwasanaeth Cofnodi Ple a gyflwynwyd yn 2014.

Nid yw gwasanaethau ar-lein yn disodli ceisiadau ar bapur, ond maent yn darparu llwybr cyflymach a haws i lawer o bobl. Mae’r ddau yn mynd drwy broses ddatblygu pellach a fydd yn golygu ychwanegu swyddogaethau newydd er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch i aelodau’r cyhoedd a gwella effeithlonrwydd y gwasanaethau. Ar hyn o bryd gallwch gofnodi ple yn Gymraeg gan ddefnyddio ein platfform ar-lein. Mae darpariaethau ein Cynllun Iaith Gymraeg hefyd yn ein hymrwymo i ddatblygu’r gwasanaethau eraill a grybwyllir uchod yn Gymraeg, ac mae’r gwaith o wneud hyn eisoes mynd rhagddo. Yn y cyfamser, bydd angen i’r rhai sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg wneud eu ceisiadau ar bapur”.

Mae’r rhaglen Ddiwygio eisoes wedi cyflawni’r canlynol:

  • Cynllun peilot ynghylch gwrandawiadau fideo mewn tribiwnlysoedd treth i brofi’r posibilrwydd o’i gyflwyno ar draws y system llysoedd a thribiwnlysoedd lle y bo’n briodol
  • Gweithredu system genedlaethol newydd yn y llys i gofnodi canlyniadau achosion yn ddigidol ac o’r cychwyn cyntaf
  • Cynllun peilot o system ddigidol newydd sy’n darparu manylion achosion troseddol i’r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, gwasanaeth llysoedd a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol.

Mae’r gwasanaethau ar-lein hyn a gyflwynwyd at ddibenion diwygio llysoedd yn enghraifft o’r ffordd y mae trawsnewid digidol yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i bobl ryngweithio â’r llywodraeth. Bydd tua 100 o wasanaethau ar gael yn ddigidol erbyn 2020.

Dyma un rhan o’r ymgyrch SmarterGov,a lansiwyd i ysgogi arloesedd, arbedion a gwella gwasanaethau cyhoeddus ar draws y llywodraeth a’r sector cyhoeddus ehangach.

Nodyn i olygyddion:

  • Gall pobl bledio yn Gymraeg trwy ddefnyddio’r platfform arlein
  • Mae GLlTEM yn datblygu gwasanaethau Cymraeg arlein ac yn y cyfamser gellir defnyddio ffurflenni i wneud ceisiadau
Cyhoeddwyd ar 4 January 2019