Rhagor o arian ym mhocedi defnyddwyr Pontydd Hafren yn 2018
Ysgrifennydd Gwladol Cymru'n cyhoeddi y bydd tollau pontydd Hafren yn gostwng o 8 Ionawr ymlaen

Bydd gan yrwyr sy’n defnyddio Pontydd Hafren ragor o arian yn eu pocedi o fis Ionawr y flwyddyn nesaf ymlaen, pan fydd y tollau i bob cerbyd yn cael ei gostwng, fel y cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, heddiw (15 Medi 2017).
Yn dilyn dychwelyd Pontydd Hafren i berchnogaeth gyhoeddus ar 8 Ionawr y flwyddyn nesaf, bydd y gyfradd dollau yn cael ei lleihau i bob gyrrwr yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghyllideb 2015.
Dyma fydd y tro cyntaf i’r tollau leihau ers eu cyflwyno ym 1966. Yn ogystal, ni fydd cynnydd yn y tollau ar 1 Ionawr 2018.
O 8 Ionawr 2018 ymlaen:
- Bydd gyrwyr ceir yn talu £5.60 yn lle £6.70.
- Bydd gyrwyr bysiau bach neu faniau yn talu £11.20, i lawr o £13.40
- Bydd gyrwyr lorïau a bysiau mawr yn talu £16.70 yn lle £20
Daw’r cyhoeddiad yn dynn ar sodlau’r cadarnhad y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dileu’r tollau’n gyfan gwbl ar ddiwedd 2018, gan gryfhau cysylltiadau economaidd a rhagolygon de Cymru a de orllewin Lloegr. Mae’r newyddion yn anfon negeseuon clir bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflawni’r addewid a wnaed gan y Prif Weinidog i bobl Cymru dri mis yn ôl i ddiddymu’r tollau.
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn cyhoeddi’r newyddion i gynulleidfa o gynrychiolwyr busnes yng nghyfarfod Cyngor Rhanbarthol CBI Cymru yng Nghasnewydd, lle bydd hefyd yn amlinellu sut mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd mewn ffordd sy’n gweithio i’r Deyrnas Unedig gyfan.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Am gymaint o flynyddoedd, mae’r tollau ar bontydd Hafren wedi cael eu gweld fel rhwystr economaidd a symbolaidd i ffyniant Cymru yn y dyfodol. Bydd ein penderfyniad i leihau’r tollau - cyn eu diddymu’n gyfan gwbl - yn torri costau i fusnesau, ac i gymudwyr a thwristiaid fel ei gilydd - gan helpu i roi hwb i swyddi a masnach yng Nghymru ac ar draws de orllewin Lloegr.
Mae hyn unwaith eto’n dangos yn amlwg bod Cymru yn agored i fusnes, ac yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer dyfodol Cymru fel rhan o Deyrnas Unedig gref.
Amcangyfrifir y bydd diddymu’r tollau yn rhoi hwb o tua £100 miliwn y flwyddyn* i economi De Cymru, a gallai’r modurwr cyffredin arbed dros £1,400 y flwyddyn**.
Yn ogystal, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi heddiw ei hymateb i’r ymgynghoriad (DOLEN) ar ei chynigion i ostwng tollau Pontydd Hafren, a lansiwyd yn gynharach eleni. O ystyried yr ymatebion a gafwyd, mae’r Llywodraeth yn cadarnhau na fydd yn bwrw ymlaen â haneru’r tollau, ond yn hytrach yn ymrwymo i ddiddymu’r tollau’n llwyr erbyn diwedd 2018.
Nodiadau i Olygyddion
- *Llywodraeth Cymru: Effaith Tollau Pontydd Hafren ar Economi Cymru, 30 Mai 2012
- **Yn seiliedig ar gost tagio misol o £117.92 dros 12 mis
- Ar 13 Ionawr, lansiodd y Llywodraeth ymgynghoriad, yn nodi cyfres o gynigion gyda’r bwriad o gyflawni gwelliannau ar y pontydd. Bu’r ymgynghoriad hwn yn agored am wyth wythnos tan 10 Mawrth.
-
Gellir gweld yr ymateb i’r ymgynghoriad yma – ychwanegu dolen
-
Cafodd Pont Hafren ei hadeiladu ym 1966 a chafodd ail groesfan ei chwblhau 30 mlynedd wedyn.
-
Pan ddaw’r pontydd dan berchnogaeth gyhoeddus, byddant yn cael eu rhedeg gan Highways England. Yn flaenorol roeddent yn cael eu rhedeg gan Severn River Crossing plc.
-
Agorwyd y Bont Hafren gyntaf ym mis Medi 1966, gan ddarparu cysylltiad uniongyrchol o draffordd yr M4 i Gymru, gyda tholl mewn lle i ddefnyddio’r bont er mwyn talu am gost y gwaith adeiladu. Roedd yn gyson weithredu dros ei chapasiti ac ym 1986 dywedodd y Llywodraeth bryd hynny y byddai ail bont yn cael ei hadeiladu.
- Ym 1988 cyhoeddwyd y byddai tendrau’n cael eu gwahodd gan gonsortia preifat er mwyn ariannu, adeiladu a gweithredu’r ail bont a bod yn gyfrifol am weithredu’r bont gyntaf. Ym 1990 dyfarnwyd y consesiwn i Severn River Crossing PLC (“SRC”). Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ebrill 1992 ac agorwyd yr ail bont ym mis Mehefin 1996.