Stori newyddion

Rhagor o wrandawiadau wyneb yn wyneb wrth i lysoedd ailagor ledled Cymru

Mae bwriad i gynyddu gwrandawiadau wyneb yn wyneb yr wythnos hon wrth i dri (3) o lysoedd ac adeiladau tribiwnlys agor yng Nghymru

Courtroom

Courtroom

Mae cyfanswm o 159 o leoliadau Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM wedi aros ar agor drwy gydol y pandemig ac mae 9 ychwanegol, gan gynnwys Llys y Goron Caerdydd wedi ailagor yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae hyn, ynghyd â’r cynnydd sylweddol yn y defnydd o dechnoleg sain a fideo o bell, wedi galluogi’r system gyfiawnder i barhau i weithredu yn ystod yr amgylchiadau eithriadol hyn.

Mae Llys Cyfun Merthyr Tudful, Llys y Goron Casnewydd a Llys Ynadon Llandudno wedi’u hasesu erbyn hyn ac maent yn addas ar gyfer cynnal gwrandawiadau gan gadw pellter cymdeithasol, ynghyd â 13 o lysoedd ledled Lloegr. Mae’r rhain yn cael eu gwasgaru ar draws yr holl awdurdodaethau. Mae pob adeilad wedi’i asesu’n unigol a byddant yn dilyn canllawiau iechyd y cyhoedd er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl ddefnyddwyr yn ddiogel. Mae rhestr lawn ar gael isod.

Dywedodd Robert Buckland, yr Arglwydd Ganghellor:

Trwy gydol pandemig y coronafeirws, mae staff y llysoedd a’r farnwriaeth wedi gweithio’n ddiflino i wneud yn siŵr nad yw’r system gyfiawnder yn stopio gweithredu, ac rydw i’n falch ein bod ni nawr mewn sefyllfa i ailagor mwy o’n hadeiladau.

Mae system gyfiawnder gweithredol yn un o nodweddion democratiaeth iach a bydd y diweddariad heddiw’n rhoi’r hyder i bobl ledled y wlad y gellir parhau i weithredu’r system gyfiawnder mewn ffordd sy’n ddiogel i holl ddefnyddwyr y llysoedd.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Er yr heriau sylweddol rydym yn ei wynebu, mae’n bwysig dal ati i weinyddu cyfiawnder lle bynnag y bo hynny’n bosibl, mewn amgylchedd sy’n diogelu pawb sy’n rhan ohono.

Rydym yn gwneud popeth a allwn i sicrhau y gellir clywed gwrandawiadau ledled Cymru tra’n gweithredu mesurau i ddiogelu pawb sy’n dod i’r llys.

Dywedodd Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Burnett o Maldon:

Mae hyn yn gam cadarnhaol iawn at ailagor pob un o adeiladau ein llysoedd. Mae llawer iawn o waith wedi parhau trwy gydol y cyfyngiadau symud, ac mae llawer ohono wedi’i wneud gan farnwyr o’u cartrefi.

Bydd ailagor holl adeiladau’r llysoedd, gan ddefnyddio adeiladau ychwanegol a pharhau i ddefnyddio technoleg yn greadigol, yn ein galluogi ni i ddychwelyd i’r un lefelau ag oedd cyn y cyfyngiadau symud a thu hwnt, gan helpu i reoli’r llwyth achosion sy’n cynyddu.

Dywedodd Syr Ernest Ryder, Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd:

Mae’r holl Dribiwnlysoedd yn y DU ar agor am fusnes ac rydym wedi gallu darparu gwasanaeth trawiadol yn ystod y Pandemig trwy weithio o bell. Mae ailagor adeiladau tribiwnlysoedd yn cael ei groesawu.

Bydd hyn yn ein galluogi ni i ychwanegu at y gwasanaeth ar gyfer yr achosion hynny sydd ddim yn addas ar gyfer gwrandawiadau o bell, lle mae penderfyniad wyneb yn wyneb gan banel y tribiwnlys yn bwysig.

Byddwn yn parhau i ddatblygu’r dechnoleg sydd wedi’i chyflwyno er mwyn ei defnyddio mewn gwrandawiadau o bell ac yn ein hadeiladau. Byddwn yn defnyddio’r cyfle hwn i gynyddu’r nifer o wrandawiadau panel a fydd yn cael eu cynnal.

Mae ymroddiad pawb yn y system gyfiawnder wedi galluogi pobl ar draws y wlad i barhau i gael mynediad at y cyfiawnder y mae ganddynt yr hawl i’w gael ynghyd â diogelu rhag lledaenu’r firws. Mae miloedd o wrandawiadau llysoedd ar draws pob awdurdodaeth wedi’u cynnal ers i bandemig y Coronafeirws ddechrau.

Ers i’r pandemig ddechrau, mae’r llywodraeth a’r Farnwriaeth wedi cyhoeddi’r canlynol trwy GLlThEM:

Erbyn hyn, mae 184 o lysoedd ac adeiladau tribiwnlys ar agor ar gyfer gwrandawiadau wyneb yn wyneb hanfodol, gan gynrychioli 54% o’r 341 o lysoedd y goron, llysoedd ynadon, llysoedd sirol, llysoedd teulu a thribiwnlysoedd ledled Cymru a Lloegr.

Hefyd mae gwaith wedi dechrau i ganfod lleoliadau addas i gynnal llysoedd sy’n cael eu galw’n ‘Nightingale’. Bydd y rhain yn defnyddio mannau cyhoeddus, fel canolfannau dinesig neu ffug lysoedd barn prifysgolion, er mwyn galluogi i adeiladau llysoedd traddodiadol reoli rhagor o waith gan gadw pellter cymdeithasol - boed hynny drwy gynnal gwrandawiadau llawn neu drwy ganiatáu i ddioddefwyr a thystion fynychu o bell. Mae gweithgor wedi’i sefydlu i ddatblygu’r cynlluniau hyn, sy’n cynnwys swyddogion GLlThEM, y farnwriaeth, cyrff proffesiynol cyfreithiol, cynrychiolwyr grwpiau o ddioddefwyr a defnyddwyr eraill y llysoedd.

Nodiadau i olygyddion

  • Bydd y cyfryngau ac aelodau o’r cyhoedd yn gallu mynychu gwrandawiadau llys yn bersonol os bydd yn ddiogel i wneud hynny yn unol â chanllawiau iechyd y cyhoedd, gan felly sicrhau egwyddor cyfiawnder agored.
  • Mae 109 o lysoedd ac adeiladau tribiwnlysoedd yn dal ar gau i’r cyhoedd ond ar agor i staff Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, y farnwriaeth a phobl o asiantaethau eraill.
  • Gellir dod o hyd i gyngor a chanllawiau manwl ar gyfer holl ddefnyddwyr y llysoedd a thribiwnlysoedd yn ystod y Coronafeirws (COVID-19) yn GOV.UK.

Y safleoedd a fydd yn ailagor yn yr wythnos sy’n dechrau 8 Mehefin yw:

  • Llys y Goron Casnewydd, Cymru.
  • Llys Cyfun Merthyr Tudful, Cymru.
  • Llys Ynadon Llandudno, Cymru.
  • Llys Ynadon Romford, Llundain.
  • Canolfan Sifil a Theuluoedd Barnet, Llundain.
  • Llys Cyfun Derby, Canolbarth Lloegr.
  • Canolfan Sifil Chesterfield (Llys Chesterfield), Canolbarth Lloegr.
  • Llys Sirol ac Ynadon Mansfield, Canolbarth Lloegr.
  • Llys Cyfun Bolton – Llys y Goron yn unig, Gogledd-orllewin Lloegr.
  • Llys Sirol Southend, De-ddwyrain Lloegr.
  • Llysoedd Barn Horsham, De-ddwyrain Lloegr.
  • Llys Cyfun Canterbury, De-ddwyrain Lloegr.
  • Llys y Goron Aylesbury, De-ddwyrain Lloegr.
  • Llys Ynadon Portsmouth, De-orllewin Lloegr.
  • Llysoedd Barn Salisbury, De-orllewin Lloegr.
  • Llys Ynadon Swindon, De-orllewin Lloegr.

Rhestr tracio llysoedd a thribiwnlysoedd yn ystod pandemig y Coronafeirws. Ar y dudalen hon mae rhestr o’r llysoedd sydd ar agor, y rhai sydd â staff, neu’r rhai sydd wedi’u cau dros dro yn ystod pandemig y coronafeirws ac mae’n cael ei diweddaru’n rheolaidd.

Cyhoeddwyd ar 11 June 2020