Stori newyddion

Y Gweinidog Adams yn anrhydeddu’r Lluoedd Arfog dewr yn ei ddyletswydd swyddogol gyntaf yng Nghymru.

Yn ei ddyletswydd swyddogol gyntaf fel Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru, bydd Nigel Adams yn nodi dewrder ac ymrwymiad ein milwyr, ddoe a heddiw.

Remembrance

Yn ei ddyletswydd swyddogol gyntaf fel Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru, bydd Nigel Adams yn nodi dewrder ac ymrwymiad ein milwyr, ddoe a heddiw, yn achlysur agor Maes Coffa Cenedlaethol Cymru yng Nghastell Caerdydd heddiw (dydd Mercher 7 Tachwedd).

Gan dalu teyrnged i’r rheini sydd wedi brwydro ac yn parhau i wneud, bydd Mr Adams yn gwneud darlleniad ac yn gosod croes bren gyda’i deyrnged bersonol ei hun arni i’r rheini sydd wedi aberthu eu bywydau.

Dywedodd Nigel Adams, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru:

Eleni, rydyn ni’n dathlu can mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae’n bwysicach nag erioed i ni feddwl am bob un sydd wedi byw, brwydro a marw yn amddiffyn ein rhyddid. Dyna pam fy mod i’n annog pobl o bob cwr o Gymru i ddod ynghyd ar yr adeg bwysig hon o gofio i sicrhau nad yw’r aberth a wnaed gan ein milwyr, a’r aberth maen nhw’n dal i’w wneud, yn mynd yn angof.

Mae’n fraint fawr i mi dalu fy nheyrngedau personol i’r dynion a’r merched dewr hynny sydd wedi tyngu llw i wasanaethu ein gwlad heddiw. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i chi am eich ymrwymiad a’ch dewrder.

Cyhoeddwyd ar 7 November 2018