Stori newyddion

Michael Gove a Alun Cairns yn dathlu’r gorau o Gymru yn y Sioe Frenhinol

Ymunodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Michael Gove, ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd heddiw, gan brofi’r gorau o ran bwyd, ffermio a bywyd gwledig Cymru.

Farm

Credit: Defra

Cyfarfu’r ddau ag Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths AC, yn ogystal â chynrychiolwyr o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a NFU Cymru, i drafod polisïau ffermio yn y dyfodol ar ôl i ni adael yr UE.

Yn gynharach y mis hwn, croesawodd yr Ysgrifennydd Gwladol gynigion Llywodraeth Cymru i ddisodli Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE (CAP) a manteisio i’r eithaf ar y rhyddid newydd a ddaw yn sgil Brexit.

Pwysleisiodd hefyd yr angen i Defra a Llywodraeth Cymru gydweithio’n agos i leihau’r biwrocratiaeth sy’n wynebu ffermydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gan roi sylw i rai o’r pwyntiau a godwyd mewn ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus Defra.

Yn ddiweddarach yn y prynhawn, ymwelodd â’r Neuadd Fwyd – a noddwyd gan Food is GREAT - sy’n dathlu cynnyrch lleol gwych gan gynnwys:

  • Caws Eryri - Sefydlwyd Snowdonia Cheese Company yn 2001 ac mae wedi creu amrywiaeth foethus o gawsiau o ardaloedd o amgylch llynnoedd a mynyddoedd Gogledd Cymru
  • Halen Môn - y halen môr gorau o’r dyfroedd glân sy’n amgylchynu Ynys Môn, a gynhyrchir gan gwmni bwyd Halen Môn a’i ddefnyddio yn rhai o fwytai gorau’r byd
  • Hufen Iâ Fferm Lochmeyler - fferm laeth deuluol sy’n creu hufen iâ o’i 350 o wartheg maes, gyda blasau sy’n cynnwys mwyar duon, sinsir a charamel hallt Sir Benfro
  • Blodyn Aur - dyma olew had rêp Cymreig sy’n cael ei dyfu a’i wasgu ar fferm ger pentref Llanfihangel Glyn Myfyr
  • Apple County Cider - seidr gwobredig o berllannau ar fryniau Sir Fynwy

Dywedodd Michael Gove, Ysgrifennydd yr Amgylchedd:

Mae’n bleser bod yma yn yr ardal brydferth hon o Gymru ar gyfer un o ddigwyddiadau amaethyddol mwyaf a gorau’r flwyddyn.

Wrth i ni adael yr UE, mae gennym gyfle unwaith mewn bywyd i drawsnewid ein polisïau bwyd, ffermio ac amgylcheddol. Rydym yn disgwyl gweld mwy o bwerau nag erioed o’r blaen yn cael eu rhoi i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn parhau i weithio’n agos i ddarparu Brexit fydd o fudd i ffermwyr a defnyddwyr Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Rwyf wrth fy modd yn croesawu Ysgrifennydd yr Amgylchedd i’r Sioe Frenhinol unwaith eto. Mae’n arddangosfa wych o ansawdd ein da byw a’n cynnyrch fferm, bwyd a diod, a gwelir hynny’n amlwg yn y cannoedd o filoedd o ymwelwyr sy’n heidio i Lanelwedd bob blwyddyn i brofi’r digwyddiad gwych hwn.

O fuddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd mewn band eang cyflym iawn i gefnogi arloesed yn y sector amaeth-dechnoleg drwy ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern, rydym yn cyflawni’r mesurau sydd eu hangen i gefnogi’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Wrth i ni symud tuag at gamau terfynol y trafodaethau i adael yr UE, rydym yn dwysáu ein proses ymgysylltu i sicrhau bod lleisiau’r sector yn cael eu clywed.

Cyhoeddwyd ar 24 July 2018