Datganiad i'r wasg

Data Pris a Dalwyd Mai 2016

Mae Data Pris a Dalwyd y Gofrestrfa Tir yn olrhain gwerthiannau tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru.

Mae Data Pris a Dalwyd y mis hwn yn cynnwys manylion dros 75,900 o werthiannau tir ac eiddo preswyl a masnachol yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i’w cofrestru ym mis Mai 2016.

O’r 75,937 o werthiannau a gyflwynwyd i’w cofrestru:

  • roedd bron 54,000 ohonynt yn rhydd-ddaliol
  • roedd tua 9,000 ohonynt yn adeiladau newydd
  • cafwyd ychydig dros 20,600 o werthiannau ym mis Mai 2016
  • cafwyd 296 o werthiannau preswyl ym mis Mai 2016 yng Nghymru a Lloegr am £1 filiwn ac uwch
  • cafwyd 182 o werthiannau preswyl ym mis Mai 2016 yn Llundain am £1 filiwn ac uwch

Nifer y gwerthiannau a gyflwynwyd i’w cofrestru yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mai 2016
Tŷ sengl 16,382
Tŷ pâr 18,405
Tŷ teras 21,755
Fflat/fflat deulawr 17,873
Arall 1,522
Cyfanswm 75,937

Y gwerthiant preswyl drutaf ym mis Mai 2016 oedd fflat yn Ninas Westminster am £5.5 miliwn. Y gwerthiant preswyl rhataf ym mis Mai 2016 oedd tŷ teras yn Hartlepool, Swydd Durham am £11,400.

Roedd y gwerthiant masnachol drutaf ym mis Mai 2016 ym mwrdeistref Southwark, Llundain am £48.2 miliwn. Roedd y gwerthiant masnachol rhataf ym mis Mai 2016 yn Tunbridge Wells, Caint am £3,000.

Mynediad i’r set lawn o ddata.

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Pris a Dalwyd am 11 y bore ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir set ddata mis Mehefin ar ddydd Iau 28 Gorffennaf 2016.
  2. Data Pris a Dalwyd yw’r data prisiau eiddo ar gyfer yr holl werthiannau tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i’w cofrestru yn ystod y mis hwnnw, yn amodol ar eithriadau.
  3. Mae’r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    * y cyfeiriad llawn * y pris a dalwyd * dyddiad y trosglwyddiad * y math o eiddo * ai adeilad newydd yw’r eiddo ai peidio * ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r eiddo
  4. Gellir llwytho Data Pris a Dalwyd i lawr ar ffurf txt, csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y Drwydded Gyffredinol Agored.
  5. Mae Data Pris a Dalwyd yn cynnwys Data Pris a Dalwyd Safonol (DPDS) ar gyfer gwerthiannau eiddo preswyl unigol am bris llawn y farchnad a Data Pris a Dalwyd Ychwanegol (DPDY) ar gyfer trafodion a eithriwyd cyn hynny o’r DPDS megis:
    * trosglwyddiadau i unigolyn nad yw’n unigolyn preifat, er enghraifft cwmni, corff corfforaethol neu fusnes * trosglwyddiadau o dan bŵer gwerthu (adfeddiannau) * trafodion prynu i osod (lle y gellir eu hadnabod gan forgais)
    Bydd y wybodaeth sydd ar gael ar gyfer pob eiddo yn nodi a yw’n DPDY neu’n DPDS a statws y cofnod – ychwanegiad/newid/dilead (A/C/D).
  6. Mae’r lluniwr adroddiad Data Pris a Dalwyd yn cynnig modd i ddefnyddwyr lunio adroddiadau pwrpasol gan ddefnyddio’r data http://landregistry.data.gov.uk/app/ppd. Gall adroddiadau gael eu seilio ar leoliad, math o ystad, pris a dalwyd neu fath o eiddo dros gyfnod penodol o amser.
  7. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio er 1990.
  8. Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion dros 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
  9. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y Gofrestrfa Tir.
  10. Dilynwch ni ar:
    * Twitter @LandRegGov, Twitter @CofrestrfaTir * ein blog * LinkedIn * Facebook

Cysylltu

Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus

Marion Shelley
Head Office
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
Ebost
marion.shelley@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 0067543
Symudol 07790 690297

Cyhoeddwyd ar 28 June 2016