Stori newyddion

Sicrhau bod y BBC yn gwasanaethu Cymru’n well

Bydd cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer y BBC, a gyhoeddwyd heddiw, yn helpu i sicrhau bod y darlledwr cyhoeddus yn gwasanaethu cynulleidfaoedd Cymru yn well.

O dan y cynlluniau a gadarnhawyd gan Ysgrifennydd Diwylliant y DU, John Whittingdale, bydd y BBC yn gwneud y canlynol:

  • bydd aelod yn cynrychioli Cymru ar Fwrdd unedol newydd y BBC, sef y corff a fydd yn goruchwylio’r BBC - bydd hyn yn rhoi llais i Gymru a hynny wrth galon prosesau gwneud penderfyniadau’r BBC;
  • rhoi’r pŵer i’r rheoleiddiwr allanol newydd, Ofcom, i graffu ar berfformiad y BBC wrth gyflawni dros Gymru;
  • bydd yn golygu y bydd yn rhaid i’r BBC fodloni mesurau a rhwymedigaethau clir ac adrodd ar y rhain wrth wasanaethu cynulleidfaoedd yng Nghymru;
  • cynnal yr ymrwymiad ar gyfer gwasanaethau darlledu Cymru - mae Llywodraeth y DU yn disgwyl i’r BBC barhau gyda’i bartneriaeth ag S4C i ddarparu gwasanaethau teledu yng Nghymru; a
  • sicrhau bod y BBC yn parhau i greu rhaglenni y tu allan i Lundain, gan gynnwys yng Nghymru, a fydd yn helpu i annog sector cynhyrchu annibynnol iach ledled y DU.

Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru yn cael pwerau ychwanegol i ddal y BBC yn atebol ac fe ymgorfforir hyn mewn cyfraith.

  • Bydd gan Lywodraeth Cymru rôl ffurfiol ac ymgynghorol mewn unrhyw Adolygiad Siartr, gan gynnwys darparu copïau o’r Siartr ddrafft iddynt ei chyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
  • Bydd y BBC yn cyflwyno ei gyfrifon a’i adroddiadau blynyddol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
  • Bydd gofyn i’r BBC gyflwyno adroddiadau i Bwyllgorau Cynulliad Cymru, ac ymddangos ger eu bron, yn yr un ffordd â gyda Senedd y DU.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cynhwysfawr o S4C, a hynny yn 2017. Bydd yn edrych ar ystod o faterion gan gynnwys cylch gwaith, atebolrwydd, llywodraethu, a threfniadau ariannu.

Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant y DU, John Whittingdale AS:

Y BBC yw ein darlledwr cenedlaethol, sy’n gweithredu er mwyn y DU gyfan. Ond mae’n rhaid i’r BBC adlewyrchu cyfansoddiad democrataidd y DU hefyd. Mae’r diwygiadau hyn yn helpu i sicrhau bod y BBC yn creu cynnwys nodedig o’r ansawdd uchaf ar gyfer yr holl gynulleidfaoedd, gan gynnwys y rhai yng Nghymru.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd cynulleidfaoedd sy’n gwylio’r teledu, yn gwrando ar y radio ac yn mynd ar y we yn parhau i fwynhau cynnwys nodedig sydd wedi’i anelu at wylwyr yng Nghymru, a hynny yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r Papur Gwyn yn diogelu dewis ac yn sicrhau bod gan Gymru le blaenllaw ar fwrdd y BBC sy’n rhedeg y gorfforaeth.

Mae’r ffaith fod gwneuthurwyr rhaglenni annibynnol nawr yn gallu cyflwyno ceisiadau i greu rhagor o sioeau ar gyfer y BBC yn hwb rhagorol i Gymru, lle mae rhai o gwmnïau cynhyrchu mwyaf cyffrous ac arloesol y DU yn gwneud rhaglenni rhagorol fel Hinterland yn barod.

Dywedodd Gareth Williams, Prif Swyddog Gweithredol Rondo Media*:

Mae’r deunydd a ddarlledir gan y BBC, sydd wedi’i gynhyrchu’n annibynnol ac yn fewnol, wedi arwain at rai o sioeau mwyaf poblogaidd ac eiconig y DU ers sawl blwyddyn, a daeth hyn i’r amlwg yng ngwobrau teledu Bafta ddydd Sul.

Rydym yn edrych ymlaen at gystadlu’n uniongyrchol ar uchelgeisiau creadigol ac ar delerau masnachol cyfartal â Stiwdios y BBC am gomisiynau yn y dyfodol, er mwyn darparu’r cynnwys gorau posib i gynulleidfaoedd.

Rydym yn gwerthfawrogi ymdrechion parhaus Alun Cairns yn cefnogi’r sector cynhyrchu teledu yng Nghymru a’i ran yn ein galluogi ni i gael y cyfle hwn i dyfu’n barhaus drwy gystadlu am gynyrchiadau a gomisiynir gan y BBC.

Dywedodd Iestyn Garlick, Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, sy’n cynrychioli cwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru:

Mae TAC yn croesawu’r mesurau hynny sy’n rhoi’r cyfle i gynhyrchwyr annibynnol gyflwyno ceisiadau i greu rhagor o raglenni ar gyfer y BBC. Mae gan y sector annibynnol yng Nghymru hanes llwyddiannus, ac rydym yn hyderus y gallwn ennill rhagor o gomisiynau, a galluogi’r BBC i adlewyrchu straeon, safbwyntiau a phobl Cymru yn well i weddill y DU a thu hwnt.

Rydym hefyd yn croesawu’r gofynion i Stiwdios y BBC weithredu’n deg, er mwyn i’n cynhyrchwyr allu cystadlu mewn marchnad deg. Rydym yn falch fod Alun Cairns a Guto Bebb wedi sefyll dros y sector creadigol yng Nghymru ac wedi gweithio gyda’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i lunio’r cynigion hyn. . ### DIWEDD

Mae’r Llywodraeth wedi nodi fframwaith newydd ar gyfer y BBC sy’n gwneud y canlynol:

  • caniatáu iddo ganolbwyntio ar gynnwys nodedig o ansawdd uchel sy’n rhoi gwybodaeth, yn addysgu ac yn diddanu ac yn gwasanaethu pob cynulleidfa;
  • gwella ei annibyniaeth ac yn ei wneud yn fwy effeithiol ac atebol o ran ei drefniadau llywodraethu a rheoleiddio;
  • sicrhau bod cefnogaeth i ddiwydiannau creadigol y DU yn ganolog i weithrediadau’r BBC – ac yn lleihau unrhyw effeithiau negyddol gormodol yn y farchnad cymaint ag y bo modd;
  • gwella effeithlonrwydd a thryloywder y BBC; ac yn
  • cefnogi’r BBC gyda system ariannu fodern, gynaliadwy a thecach.
  • Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cynlluniau ehangach y Llywodraeth ar gyfer y BBC ar gael ar-lein yn www.gov.uk/bbccharterreview *Mae Rondo Media yn gwmni cynhyrchu teledu gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd, Caernarfon a Phorthaethwy, ac mae’n cyflogi 66 aelod o staff llawn amser. Mae’r cwmni’n cynhyrchu cannoedd o oriau o raglenni bob blwyddyn i ddarlledwyr, gan gynnwys S4C, BBC Cymru Wales, Rhwydwaith y BBC a Channel 4. Yn ôl arolwg diweddaraf cylchgrawn y diwydiant teledu, Broadcast, Rondo Media yw’r pumed cwmni cynhyrchu teledu annibynnol mwyaf y tu allan i Lundain.
Cyhoeddwyd ar 12 May 2016