Datganiad i'r wasg

Hwb mawr i deledu Cymraeg wrth i’r Llywodraeth ymrwymo i fuddsoddiad ychwanegol yn S4C

£10 miliwn o fenthyciad adleoli gan Llywodraeth y DU

Secretary of State Karen Bradley

Mae disgwyl i’r darlledwr Cymraeg S4C elwa ar hwb ariannol o fwy na deg miliwn o bunnoedd, gan helpu i sicrhau ei ddyfodol, yn ôl cyhoeddiad gan y Llywodraeth heddiw.

  • £10 miliwn o fenthyciad adleoli gan y Llywodraeth ar gyfer unig ddarlledwr Cymraeg penodol y byd
  • 800 o swyddi i’w creu, £11 miliwn o hwb i’r economi leol, a threfniant cydleoli newydd gyda BBC Caerdydd
  • Bydd cyllid o £350,000 gan y Llywodraeth yn galluogi’r darlledwr i uwchraddio ei offer

Mae’r Llywodraeth wedi cymeradwyo benthyciad o £10 miliwn ar gyfer adleoli pencadlys y sianel i Gaerfyrddin, a fydd yn creu dros 800 o swyddi yn yr ardal leol. Bydd yr arian hwn hefyd yn golygu y gellir rhannu cyfleusterau technegol gyda’r BBC yng Nghaerdydd, gan leihau costau cyffredinol y S4C a chynyddu ei chronfa greadigol o ddoniau. Ac mewn asesiad economaidd annibynnol gan Brifysgol Cymru, datgelwyd y bydd y symudiad hefyd yn darparu hwb o tua £11 miliwn i’r economi leol yng Nghaerfyrddin.

Bydd S4C, y bedwaredd sianel deledu hynaf yn y Deyrnas Unedig, hefyd yn cael £350,000 o gyllid gan y Llywodraeth, gan alluogi’r darlledwr i uwchraddio ei offer technegol a TG yn sylweddol. Bydd hyn yn sicrhau bod y sianel yn gyfredol, y bydd yn parhau i gyrraedd cynulleidfaoedd byd-eang ac y bydd yn parhau i fod yn berthnasol mewn marchnad ddarlledu fwyfwy cystadleuol.

Dywedodd Karen Bradley, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon:

Rydym yn gwneud Prydain yn wlad sy’n gweithio i bawb, ac rydym yn ymroddedig i sicrhau dyfodol darlledu Cymraeg. Mae gan S4C hanes balch o arddangos rhai o’r doniau gorau ym Mhrydain a darparu ar gyfer cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith o amgylch y byd.

Mae gan S4C hanes darlledu cyfoethog, ar ôl sicrhau enw da am gomisiynu rhaglenni animeiddio, rhaglenni dogfen a dramâu o safon fyd-eang - fel Y Gwyll a Fferm Ffactor.

Bydd yr arian hwn nid yn unig yn sicrhau bod S4C yn parhau i ffynnu, ond hefyd bod gan y sianel y modd i gystadlu’n fyd-eang.

Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C:

Mae S4C yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau dyfodol S4C a’r pecyn o fesurau a gyhoeddwyd heddiw, gan gynnwys arian ar fenthyg i S4C.

Bydd y benthyciad o £10 miliwn, a fydd yn cael ei ad-dalu gan S4C i DCMS dros gyfnod, yn cael ei ddefnyddio gan S4C ar gyfer dau bwrpas penodol: cyfrannu tuag at gostau offer technegol sy’n gysylltiedig â symudiad arfaethedig S4C at rannu gwasanaethau darlledu gyda BBC Cymru yn eu pencadlys newydd yng Nghaerdydd yn 2019, a hefyd i ddarparu cyfleuster pontio i alluogi talu rhent ymlaen llaw S4C i Brifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant ar gyfer y brydles yn yr Egin yn 2018 nes bydd pencadlys presennol S4C yn Llanisien yn cael ei werthu.

Cyfrannodd S4C £114 miliwn at economi Cymru yn 2015/16 ac yn ddiweddar adroddodd y sianel bod ei ffigurau gwylio cyfredol wedi cyrraedd y lefelau uchaf mewn naw mlynedd, gan ddenu 629,000 o wylwyr yr wythnos ar gyfartaledd.

Mae’r Llywodraeth am i’r llwyddiant hwn barhau, ac fel rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i gadw a rhoi llwyfan byd-eang i deledu Cymraeg, yn ogystal â sicrhau cynaliadwyedd S4C, bydd yn lansio adolygiad annibynnol o’r sianel yn fuan. Bydd yr adolygiad yn edrych ar gylch gwaith, llywodraethu a chyllid S4C fel y gall y darlledwr barhau i fodloni anghenion cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith yn y dyfodol a buddsoddi mewn rhaglenni o ansawdd uchel. Bydd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol drwy gydol y broses adolygu.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r buddsoddiad hwn yn rhoi S4C ar sylfaen gadarn ar gyfer y blynyddoedd i ddod, gan warantu y gall gwylwyr teledu barhau i fwynhau amrywiaeth o raglenni teledu Cymraeg o ansawdd uchel. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwbl ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg, ac mae buddsoddiad heddiw yn brawf cadarn o hynny.

Mae manteision deilliedig aruthrol i Sir Gaerfyrddin gyda channoedd o swyddi’n cael eu creu’n lleol a miliynau’n mynd i economi’r rhanbarth. Edrychaf ymlaen at weld S4C yn ymgartrefu yn y stiwdios newydd o’r radd flaenaf, gan ddifyrru, herio a hysbysu gwylwyr fel rhan o’n sgwrs genedlaethol.

Nodiadau i Olygyddion

  • Bydd y Llywodraeth yn darparu £350,000 yn rhagor o gyllid cyfalaf i S4C ar gyfer 2017/18. Bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu ganol y flwyddyn a bydd y Llywodraeth yn ystyried a oes angen rhagor o arian yn sgil y cynnydd / canlyniad adolygiad S4C.
  • Mae’r Llywodraeth hefyd yn buddsoddi yn nyfodol tymor hir S4C gyda benthyciad £10 miliwn fel bod modd adleoli pencadlys S4C i Gaerfyrddin a chydleoli cyfleusterau stiwdio gyda’r BBC yng Nghaerdydd.
  • Daw’r rhan fwyaf o gyllid S4C o ffi’r drwydded deledu (£74.5 miliwn y flwyddyn).
  • Mae’r Llywodraeth wedi sicrhau tua £80 miliwn o gyllid y flwyddyn ar gyfer S4C tan ddiwedd y cyfnod adolygu gwariant presennol, wedi ei ddarparu drwy gyfuniad o ffi’r drwydded a chyllid grant-mewn-cymorth.
  • Dan y cynlluniau a gadarnhawyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’r BBC hefyd yn cynnal ei ymrwymiad i ddarparu 10 awr yr wythnos o raglenni Cymraeg i S4C ac adeiladu ar y bartneriaeth gref sy’n bodoli rhwng y ddau ddarlledwr ar hyn o bryd, sy’n ategu darparu gwasanaethau teledu Cymraeg sy’n diwallu anghenion a disgwyliadau gwylwyr.
Cyhoeddwyd ar 20 March 2017