Stori newyddion

Gwaddol Llundain 2012 yn cael ei drafod wrth i Weinidog Swyddfa Cymru ymweld â Phencadlys Chwaraeon Cymru

Heddiw [25 Mawrth], bydd y Farwnes Jenny Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld â Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd i glywed sut mae gwaddol Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yn cael ei ddefnyddio i ysbrydoli cenhedlaeth o sêr newydd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd y Gweinidog yn cyfarfod â Chadeirydd Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister, i glywed sut mae’r corff yn gweithio i gynnal momentwm Gemau Llundain 2012, er mwyn gwneud yn siŵr bod y genhedlaeth nesaf o athletwyr yn parhau i fwynhau chwaraeon.

Gyda llai na 500 o ddiwrnodau i fynd nes bydd Gemau’r Gymanwlad 2014 yn cael eu cynnal yn Glasgow, bydd Ms McAllister hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Gweinidog am baratoadau Tîm Cymru ar gyfer y gystadleuaeth, wrth iddynt geisio rhagori ar y 19 o fedalau a enillodd y tîm yng Ngemau Delhi yn 2010.

Dywedodd y Farwnes Randerson;

“Allech chi ddim peidio â chael eich ysbrydoli gan lwyddiannau ein hathletwyr talentog yn ystod y Gemau y llynedd. Yr her yn awr yw gwneud yn siŵr bod pobl yn parhau i gael eu hysbrydoli, a’n bod yn cynnal y momentwm drwy annog a hybu talentau yn y byd chwaraeon yng Nghymru.

“Mae’r gwaith y mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i hybu cyfranogiad mewn gweithgareddau corfforol a chwaraeon yn hollbwysig. Er bod chwaraeon ac iechyd yn faterion datganoledig yng Nghymru, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i hyrwyddo a chefnogi chwaraeon a gweithgareddau hamdden corfforol oherwydd yr effaith y gallant ei chael, nid yn unig ar y tablau medalau yn y dyfodol, ond ar iechyd, ar ffitrwydd, ar addysg ac ar atal troseddu.”

Dywedodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru:

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r Farwnes Randerson i Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, ac i ddangos y cyfleusterau o’r radd flaenaf, a’r staff sy’n gweithio’n ddiflino y tu ôl i’r llenni i roi’r cyfle gorau posib i athletwyr berfformio a llwyddo ar y llwyfan rhyngwladol.”

“Mae Cymru yn wlad sy’n rhoi pwyslais angerddol ar chwaraeon, ac mae angen i ni’n awr weld y brwdfrydedd hwnnw dros gefnogi ein timau a’n sêr yn y byd chwaraeon yn cael ei adlewyrchu ym mywydau bob dydd pobl Cymru; dyma’r sbardun i bobl godi oddi ar eu heistedd ac i fentro i fyd chwaraeon.”

“Yn ystod y 18 mis nesaf, bydd Gemau’r Gymanwlad 2014 yn Glasgow yn hawlio’r llwyfan, a byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod cenedlaethau iau Cymru yn cael eu hysbrydoli gan lwyddiant Cymru unwaith eto ar y lefel uchaf ym myd chwaraeon.”

Cyhoeddwyd ar 26 March 2013