Datganiad i'r wasg

Gadewch i ni wneud 2016 yn flwyddyn lwyddiannus ar gyfer allforio o Gymru

Stephen Crabb a’r Arglwydd Maude yn gosod her allforio i fusnesau Cymru

Dylai busnesau yng Nghymru ddangos i’r byd pa mor arloesol a rhagorol ydyn nhw drwy wneud 2016 yn flwyddyn ar gyfer allforio. Dyma fydd y Llywodraeth yn ei ddweud heddiw.

Bydd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru a’r Arglwydd Maude, y Gweinidog Masnach a Buddsoddi yn gosod her i fusnesau ac i Lywodraeth Cymru fel rhan o daith deuddydd o amgylch Cymru.

Mae’r ddau Weinidog yn ymweld ag allforwyr llwyddiannus o Gymru heddiw, gan gynnwys Airbus, Magellan Aerospace a’r cwmni gwasanaethau ariannol DTCC, sydd wedi bod yn ehangu ei weithlu yn sgil gwerthiant cryf.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Cymru’n gartref i gwmnïau arloesol ac o’r radd flaenaf, sydd wedi cael llwyddiant mawr wrth allforio, ond fe allwn ni, ac fe ddylem ni wneud mwy. Rwyf am ddangos ein gwlad i’r byd. Mae’r Arglwydd Maude a minnau yma i ddangos sut gall Llywodraeth y DU helpu.

Gyda’n gilydd, rydyn ni am gael 100,000 o gwmnïau newydd o bob cwr o’r DU yn allforio erbyn 2020 - ac rwyf am weld Cymru’n chwarae ei rhan wrth gyflawni’r nod hwn.

Y llynedd, mentrodd 4,000 o gwmnïau o Gymru allforio am y tro cyntaf, ac eleni, rydyn ni wedi cyrraedd 3,000 yn barod. Rwy’n annog y cwmnïau hynny sy’n ystyried allforio i fynd ar wefan Exporting is GREAT neu ddod i sioe deithiol gyntaf Exporting is GREAT yng Nghymru, sy’n dechrau’r mis nesaf.

Dywedodd yr Arglwydd Maude:

Mae wedi bod yn galonogol gweld faint o frwdfrydedd sydd yma yng Nghymru dros allforio, a chlywed am y llwyddiant sy’n bosib pan fydd cwmnïau’n dechrau ehangu i wledydd tramor. Gan fod gwerth allforion bron yn £3 biliwn y flwyddyn yng Nghymru yn unig, mae’n amlwg fod yna alw am gynnyrch a gwasanaethau o’r DU. Rwy’n benderfynol y bydd UKTI yn dal ati i ddarparu cymorth er mwyn i hyn barhau, gan ddod â thwf a swyddi newydd i sectorau ar hyd a lled y wlad.

Bydd yr Arglwydd Maude yn cwrdd ag Edwina Hart, Gweinidog Masnach a Buddsoddi Llywodraeth Cymru ddydd Gwener, yn safle cwmni cyflenwadau meddygol Conva Tec, ac yn ymweld â ffatri peiriannau Toyota yng Nglannau Dyfrdwy.

Mae Toyota yn un o nifer o gwmnïau rhyngwladol sydd wedi buddsoddi yng Nghymru. Y llynedd, crëwyd dros 5,000 o swyddi newydd yng Nghymru yn sgil buddsoddiad uniongyrchol o dramor, gyda Masnach a Buddsoddi’r DU (UKTI) yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau prosiectau.

O ran allforio, mae UKTI a Llywodraeth Cymru wedi cefnogi tua 3,000 o gwmnïau yng Nghymru yn barod yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Gwerth blynyddol allforion Cymru yw tua £2.9 biliwn ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’w gwneud hi’n haws i fusnesau allforio.

Y mis nesaf, bydd Exporting is GREAT yn mynd ar daith o amgylch Cymru, gyda’i Hwb Allforio - lle symudol, hyblyg lle gall busnesau ofyn am gyngor gan gwmnïau sydd eisoes wedi gwerthu i wledydd tramor, yn ogystal ag UKTI. Ym mis Mehefin, gwahoddir busnesau Cymru i ddod i ŵyl fusnes fwyaf y byd, yr Ŵyl Fusnes Ryngwladol, a gynhelir yn Lerpwl dros dair wythnos, lle gallant drefnu cyfarfodydd ymlaen llaw gyda phartneriaid busnes posib.

Nodiadau i olygyddion

  • Bydd sioe deithiol Exporting is GREAT yn dod i Gymru rhwng 15 a 26 Chwefror 2016. Gall busnesau gofrestru ar gyfer cyfleoedd byw i allforio a llwytho canllawiau i lawr ar gyfer dechrau allforio yn www.exportingisgreat.gov.uk
  • Cynhelir yr Ŵyl Fusnes Ryngwladol, gŵyl fusnes fwyaf y byd, yn Lerpwl rhwng 13 Mehefin a 1 Gorffennaf. Bydd amrywiaeth o gyfleoedd ar gael yno, o weithdai a seminarau, i gyfarfodydd gyda darpar brynwyr o dramor. Mae busnesau Cymru yn y sectorau creadigol, gweithgynhyrchu, ynni a’r amgylchedd yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer y digwyddiad
Cyhoeddwyd ar 14 January 2016