Datganiad i'r wasg

Gadewch inni ganolbwyntio ar gyflenwi, meddai Gweinidog Swyddfa Cymru yn y ddadl ar gyllido yn San Steffan

Bydd yr arian ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn helpu i “gefnogi prosiectau buddsoddi sy’n bwysig i economi Cymru”, meddai Alun Cairns.

Bydd yr arian ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn yr Adolygiad o Wariant yn helpu i “gefnogi prosiectau buddsoddi sy’n bwysig i economi Cymru”, meddai Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns.

Cyfeiriodd Mr Cairns at y cynnydd mewn cyllid cyfalaf - £900 miliwn dros bum mlynedd - wrth i aelodau seneddol drafod effaith yr Adolygiad o Wariant a Datganiad yr Hydref ar Gymru mewn dadl yn Neuadd San Steffan.

Bydd setliad grant bloc Llywodraeth Cymru yn cyrraedd bron i £15 biliwn erbyn 2019-20, yn ôl Gweinidog Swyddfa Cymru, ac fe ychwanegodd hefyd fod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau pwerau benthyca o hyd at £500 miliwn i Lywodraeth Cymru i helpu i gyflenwi ffordd liniaru’r M4.

Dywedodd Mr Cairns wrth yr ASau y byddai Cymru yn derbyn ei chyfran lawn o dan fformiwla Barnett ar gyfer datblygiad rheilffordd HS2. “Hoffwn ddileu unrhyw bryder am symiau canlyniadol Barnett ar gyfer ariannu HS2,” meddai Mr Cairns.

Erbyn hyn, mae’n bryd i ddadleuon ar gyllido “ganolbwyntio ar gyflenwi”, meddai’r Gweinidog.

Cyhoeddwyd ar 15 December 2015