Stori newyddion

Gyrwyr sy’n dysgu ar draffyrdd o 4 Mehefin 2018

Gall gyrwyr sy’n dysgu gymryd gwersi gyrru ar draffyrdd gyda hyfforddwr gyrru cymeradwy o 4 Mehefin 2018.

Traffic sign

O ddydd Llun 4 Mehefin 2018, bydd gyrwyr sy’n dysgu yn gallu cymryd gwersi gyrru ar draffyrdd yn Lloegr, yr Alban a Chymru.

Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod mwy o yrwyr yn gwybod sut i ddefnyddio traffyrdd yn ddiogel.

Ar hyn o bryd, dim ond ar ôl i chi basio’ch prawf gyrru y gallwch gael gwersi ar draffyrdd. Mae rhai gyrwyr sydd newydd gymhwyso yn cymryd gwersi trwy’r cynllun Pass Plus gwirfoddol.

Sut y bydd y newid yn gweithio

Bydd angen i yrwyr sy’n dysgu:

  • gael ei hebrwng gan hyfforddwr gyrru cymeradwy
  • gyrru car â rheolyddion deuol

Bydd unrhyw wersi ar draffyrdd yn wirfoddol. Bydd yr hyfforddwr gyrru yn penderfynu pryd y bydd y gyrrwr sy’n dysgu yn ddigon cymwys i’w cael.

Hyd nes y bydd y gyfraith yn newid, mae’n dal yn anghyfreithlon i yrrwr sy’n dysgu gyrru ar draffordd.

Mae’r newid yn berthnasol i yrwyr ceir yn unig. Ni chaniateir beicwyr modur sy’n dysgu ar draffyrdd.

Ni chaniateir i hyfforddwyr gyrru dan hyfforddiant fynd â gyrwyr sy’n dysgu ar y draffordd.

Nid yw gyrru ar y draffordd yn cael ei gyflwyno i’r prawf gyrru fel rhan o’r newid hwn.

Sicrhau bod defnyddwyr y ffordd yn barod ar gyfer y newid

Caiff y newid ei hysbysebu’n dda fel bod:

  • hyfforddwyr gyrru a gyrwyr sy’n dysgu yn gallu paratoi
  • defnyddwyr eraill y ffordd yn gwybod beth i’w ddisgwyl

Bydd Rheolau’r Ffordd Fawr ar draffyrdd yn cael eu diweddaru.

Gyrru ger gyrwyr sy’n dysgu ar y draffordd

Fel gydag unrhyw gerbyd ar y draffordd, cadwch bellter diogel rhyngoch chi a gyrrwr sy’n dysgu o’ch blaen. Cynyddwch y bwlch ar ffyrdd gwlyb neu rewllyd, neu mewn niwl.

Dylech bob amser fod yn amyneddgar gyda gyrwyr sy’n dysgu. Efallai na fyddant mor fedrus ynghylch rhagweld ac ymateb i ddigwyddiadau.

Cerbydau hyfforddwyr gyrru a hyfforddiant

Gall hyfforddwyr gyrru benderfynu a ydynt am ddefnyddio blwch yr ysgol yrru yn ystod gwersi ar draffyrdd, yn seiliedig ar ei chyfarwyddiadau.

Bydd angen i’r car arddangos platiau L/D ar y blaen a’r cefn os bydd y blwch ar y to yn cael ei dynnu i ffwrdd.

Driving school car

Bydd yr hyfforddwr yn penderfynu a fyddant yn cadw blwch to eu hysgol yrru ar y car neu beidio.

Cyfarwyddyd ar gyfer hyfforddwyr gyrru

Mae [deunyddiau dysgu]https://www.safedrivingforlife.info/shop/car) a’r maes llafur ar gyfer dysgu gyrru car yn cael eu diweddaru i gynnwys gwersi ar gyfer y traffyrdd.

Ni fydd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau yn rhoi hyfforddiant ychwanegol i hyfforddwyr gyrru ar ddarparu gwersi ar gyfer y traffyrdd.

Mae National Associations Strategic Partnership (Partneriaeth Strategol Cymdeithasau Cenedlaethol) yr hyfforddwyr gyrru wedi cynhyrchu cyfarwyddyd ynghylch arfer gorau i helpu hyfforddwyr.

Paratoi gyrwyr am oes o yrru’n ddiogel

Mae’r newidiadau’n cael eu gwneud i ganiatáu i yrwyr sy’n dysgu:

  • gael profiad gyrru ehangach cyn cymryd eu prawf gyrru
  • cael hyfforddiant ar sut i ymuno ag a gadael y draffordd, goddiweddyd a defnyddio lonydd yn gywir
  • ymarfer gyrru ar gyflymder uwch
  • deall arwyddion traffig penodol ar draffyrdd
  • deall beth i’w wneud os bydd cerbyd yn torri i lawr ar draffordd
  • gwella eu hyder i yrru ar y draffordd heb oruchwyliaeth ar ôl pasio eu prawf gyrru
Cyhoeddwyd ar 12 August 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 March 2018 + show all updates
  1. Added the date (Monday 4 June 2018) that the law will change, advice about driving near learner drivers on the motorway, and added a Welsh translation of the news story.

  2. First published.