Datganiad i'r wasg

Cynllun nodedig Kickstart yn agor ar gyfer ieuenctid yng Nghymru

Bydd y cynllun gwerth £2bn yn creu miloedd o swyddi newydd i bobl ifanc yng Nghymru ac ar draws y DU

  • Bydd y cynllun ‘Kickstart’ newydd gwerth £2 biliwn yn creu miloedd o swyddi newydd i bobl ifanc yng Nghymru ac ar draws y DU
  • Bydd pobl ifanc rhwng 16 a 24 sydd ar Gredyd Cynhwysol yn cael cynnig lleoliadau gwaith am chwe mis
  • Daw’r lansiad wrth i gwmnïau fel Tesco addo cofrestru

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio cynllun newydd arloesol heddiw i helpu pobl ifanc i gael gwaith a sbarduno adfywiad economaidd Prydain.

Gall busnesau erbyn hyn gofrestru i fod yn rhan o’r cynllun ‘Kickstart’ nodedig gwerth £2bn sy’n rhoi cyfle a’r gobaith i bobl ifanc di-waith ar gyfer y dyfodol drwy greu swyddi o ansawdd uchel sy’n cael cymhorthdal gan Lywodraeth y DU ledled y wlad.

O dan y cynllun a gyhoeddwyd gan y Canghellor Rishi Sunak fel rhan o’i Gynllun ar gyfer Swyddi, gall cyflogwyr gynnig lleoliad gwaith am chwe mis i bobl ifanc 16-24 sy’n hawlio Credyd Cynhwysol.

Bydd Llywodraeth y DU yn ariannu pob swydd ‘Kickstart’ yn llawn drwy dalu 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, yr Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn sy’n berthnasol ar gyfer yr oedran am 25 awr yr wythnos.

Gall gyflogwyr ychwanegu at y cyflog hwn tra bydd Llywodraeth y DU hefyd yn talu £1,500 i gyflogwyr i sefydlu cymorth a hyfforddiant i’r bobl sydd ar leoliad ‘Kickstart’ yn ogystal â helpu i dalu am wisgoedd a chostau sefydlu eraill.

Bydd y swyddi’n rhoi cyfle i bobl ifanc – sy’n fwy tebygol o fod ar y cynllun ffyrlo gyda nifer o weithwyr yn gweithio mewn sectorau sydd wedi eu heffeithio’n wael gan y pandemig – i feithrin eu sgiliau yn y gweithle a magu profiad i wella eu cyfle o ddod o hyd i waith hirdymor.

Yn ôl y Canghellor Rishi Sunak:

Nid yw hyn yn ymwneud â rhoi hwb i’r economi yn unig – mae’n gyfle i roi hwb cychwynnol i yrfaoedd miloedd o bobl ifanc y gall gael eu gadael ar ôl fel arall o ganlyniad i’r pandemig.

Bydd y cynllun yn agor y drws i ddyfodol disgleiriach i genhedlaeth newydd ac yn sicrhau y bydd y DU yn adfer yn gryfach fel gwlad.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Rydym wedi cymryd camau cynyddol i sicrhau adferiad economi Cymru yn dilyn y pandemig. Mae dros 500,000 o swyddi yng Nghymru wedi eu diogelu drwy’r Cynllun Cadw Swyddi a’r cynlluniau i’r Hunangyflogedig tra bod dros 40,000 o fusnesau yng Nghymru wedi derbyn mwy na £1.4 biliwn mewn benthyciadau.

Mae diogelu, cefnogi a chreu swyddi wrth galon ein cynllun ar gyfer adferiad. Bydd y cynllun ‘Kickstart’, sydd wedi ei anelu at bobl ifanc, yn gwneud yn siŵr nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl wrth i ni gael economi Cymru i symud eto.

Gall busnesau o bob maint sy’n edrych i greu swyddi o ansawdd i bobl ifanc gyflwyno cais ac nid oes uchafswm ar y nifer y lleoedd y gellir cynnig. Mae cwmnïau a sefydliadau adnabyddus gan gynnwys Tesco ac Ymddiriedolaeth y Tywysog (The Prince’s Trust) eisoes wedi ymrwymo i gynnig swyddi ‘Kickstart’.

Bydd pobl ifanc yn cael eu cyfeirio at rolau newydd drwy eu hyfforddwyr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith a disgwylir i’r swyddi ‘Kickstart’ ddechrau ar ddechrau mis Tachwedd.

Bydd y cynllun a fydd yn cael ei ddarparu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar agor tan fis Rhagfyr 2021, gyda’r opsiwn o’i ymestyn.

Mae’r Canghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn gwahodd pobl ifanc sy’n gobeithio cymryd rhan yn y cynllun i ‘sesiwn mentora sydyn’ gyda Phrif Weithredwyr.

Meddai Thérèse Coffey, Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau

Wrth i ni lansio ein rhaglen ‘Kickstart’ gwerth £2 biliwn gan roi pobl ifanc wrth galon ein hadferiad – rydym yn annog busnesau i gymryd rhan yn y cynllun arloesol yma a manteisio ar y gronfa enfawr sydd ar gael.

Does dim uchafswm ar y nifer o gyfleoedd y byddwn yn eu hagor drwy ‘Kickstart’ a byddwn yn ariannu pob un am chwe mis fel rhan o’m Cynllun ar gyfer Swyddi i greu, cefnogi a diogelu swyddi.

Bydd y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn derbyn hyfforddiant tra byddent yn y gwaith, datblygu sgiliau a mentora wrth i ni eu rhoi ar y blaen wrth ddechrau eu gyrfa ac ar eu ffordd i yrfaoedd llwyddiannus.

I helpu busnesau llai, gofynnir i gyflogwyr sy’n cynnig llai na 30 o leoliadau i gyflwyno cais drwy gyfryngwr megis Awdurdod Lleol neu siambr fasnach a fydd wedi yn cyflwyno cais am 30 neu fwy o leoliadau fel cais cyfunol gan nifer o fusnesau. Bydd hyn yn gwneud y broses yn haws ac yn llai llafurus i gyflwyno cais i’r busnesau llai sydd am gyflogi un neu ddau ar y cynllun ‘Kickstart’ yn unig.

Fel arfer, mae pobl ifanc ymhlith y sawl sy’n cael eu heffeithio waethaf gan argyfyngau ariannol a gall diweithdra gael effaith hirdymor ar eu gwaith yn y dyfodol a’i cyflogau. Gwyddom fod pobl yn gadael addysg i farchnad swyddi eithriadol o anodd, gwyddom hefyd fod pobl ifanc yn fwy tebygol o fod ar y cynllun ffyrlo, felly rydym yn camu mewn i ddarparu mwy o gymorth,

Bydd tua 700,000 o bobl ifanc yn gadael addysg llawn amser ac yn ymuno â’r farchnad swyddi gyda chwarter miliwn yn fwy o bobl dan 25 yn hawlio budd-daliadau diweithdra ers mis Mawrth – gyda diweithdra yn cael effaith hirdymor ar swyddi a chyflogau.

Cyhoeddwyd y cynllun ‘Kickstart’ ym mis Gorffennaf fel rhan o Gynllun ar gyfer Swyddi’r Canghellor oedd yn gosod allan y pecyn cymorth mwyaf ers degawdau ar gyfer diweithdra ymhlith pobl ifanc gan gynnwys treblu’r nifer o hyfforddiant, annog cyflogwyr i gyflogi mwy o brentisiaid gyda thaliad o £2,000 iddynt ar gyfer pob prentis y maent yn cyflogi sydd dan 25 a buddsoddi yn ein Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol er mwyn i bobl gael cyngor pwrpasol ar hyfforddiant a gwaith.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 2 September 2020