Datganiad i'r wasg

Swyddi a thwf economaidd ar frig agenda Stephen Crabb

Stephen Crabb: “Rhaid i ni fwrw ymlaen i ddatblygu economi Cymru a helpu busnesau i greu swyddi.”

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yng Nghaerdydd heddiw (14 Mai) a swyddi a thwf economaidd sydd ar frig ei agenda.

Bydd yn cwrdd â Phrif Weinidog Cymru i drafod bwrw ymlaen â Chytundeb Dydd Gŵyl Dewi. Mae’r cytundeb hanesyddol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, yn cynnwys ymrwymiad i gyllid teg, rhagor o bwerau i Gynulliad Cymru a model cadw pwerau o ran datganoli.

Bydd Stephen Crabb yn defnyddio’r cyfarfod i sefydlu sut y gall ef a Phrif Weinidog Cymru gydweithio i ddenu rhagor o fuddsoddiad i Gymru a chefnogi busnesau i greu rhagor o swyddi.

Yn ddiweddarach yn ystod y dydd, bydd Mr Crabb yn cwrdd â Chyfarwyddwr a Chadeirydd CBI Cymru. Bydd Mr Crabb yn cyflwyno ei weledigaeth ar gyfer sicrhau bod yr adferiad economaidd yn cyrraedd pob rhan o Gymru, a bydd yn gwrando ar beth sydd ei angen ar fusnesau gan Lywodraeth y DU. Byddant yn trafod cyfleoedd i fusnesau Cymru a bydd Mr Crabb yn sicrhau’r CBI y bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddileu rhwystrau sy’n atal twf.

Dywedodd Stephen Crabb:

Rwy’n mynd yn syth yn ôl i weithio i wneud yn siŵr bod yr adferiad yn dal ati i ledaenu i bob rhan o Gymru.

Mae’r cyfarfod heddiw yn gyfle perffaith i Brif Weinidog Cymru a minnau roi’r etholiad y tu cefn i ni, torchi ein llewys a bwrw ymlaen â’r gwaith.

Datblygu’r economi, creu swyddi, gwobrwyo dyheadau a helpu pwy bynnag sydd angen help – dyna yw fy ngweledigaeth. Byddaf yn defnyddio cyfarfodydd heddiw i helpu i wireddu hynny.

Cyhoeddwyd ar 14 May 2015