Datganiad i'r wasg

“Mae’n ddyletswydd arnom ni i sicrhau nad yw’r cof am yr Holocost yn mynd yn angof”

Stephen Crabb, yn talu teyrnged ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost

Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, wedi talu teyrnged i’r bobl a fu farw yn yr Holocost, ac i’r goroeswyr sy’n gweithio’n ddiflino i rannu eu straeon dewr gyda chenedlaethau’r dyfodol.

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost (27 Ionawr) yn ddigwyddiad cenedlaethol yn benodol i gofio’r bobl a fu farw yn sgil hil-laddiadau ac i anrhydeddu’r rhai hynny sydd wedi goroesi cyfundrefnau casineb ledled y byd. Y thema ar gyfer y cofio yn 2016 yw ‘Paid Sefyll o’r Neilltu’.

Ddoe, llofnododd Stephen Crabb Lyfr Ymrwymiad Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn y Senedd.

Dywedodd:

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn rhoi’r cyfle i ni ddysgu am y digwyddiad erchyll a luniodd ein hanes, yn ogystal â dysgu ohono.

Mae’r neges eleni, ‘Paid Sefyll o’r Neilltu’, yn un y mae’n rhaid i ni i gyd ei chofio a gweithredu arni. Mae’n rhaid i ni herio peryglon gwahaniaethu ac eithafiaeth o bob math a pheidio byth â sefyll o’r neilltu pan fyddwn yn dod ar draws rhagfarn a chasineb.

Er bod miliynau o straeon am golli bywydau a phobl yn dioddef o ganlyniad i hil-laddiad ledled y byd, mae nifer o straeon gwych am aberth a dewrder personol hefyd. Mae’n ddyletswydd arnom ni i wneud yn siŵr nad yw hanesion creulon y digwyddiadau hyn yn mynd yn angof, ac nad yw’r cof am y penodau tywyllaf yn ein hanes yn pylu.

Mae Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn gweithio gydag ysgolion, colegau a chymunedau ledled y DU i addysgu pobl am yr Holocost a’r modd mae’n berthnasol heddiw.

Cyhoeddwyd ar 27 January 2016