Cyfleoedd di-rif i Gymru o ran cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr
Swyddfa Cymru i gynnal derbyniad i ddathlu llwyddiant Cymru yn y byd chwaraeon

Sport is GREAT
O berfformiadau buddugol athletwyr o Gymru ar hyd a lled y byd, i statws cynyddol Cymru fel lleoliad i gynnal digwyddiadau mawr, bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cynnal derbyniad heddiw (19 Ion) i ddathlu llwyddiant Cymru yn y byd chwaraeon, ar y maes chwarae ac oddi arno.
Bydd athletwyr a chynrychiolwyr o gyrff chwaraeon ac awdurdodau lleol ledled Cymru yn ymuno ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, y Gweinidog Chwaraeon, Tracey Crouch a Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, yn y digwyddiad yn Nhŷ Gwydyr, Llundain.
Bydd y gwesteion yn myfyrio ar lwyddiannau Cymru mewn cystadlaethau dros y 12 mis diwethaf, sydd wedi gweld Caerdydd yn cael cynnal Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn 2017, yn cynnal ail gêm Cyfres y Lludw ac wyth gêm Cwpan Rygbi’r Byd.
Gan fod pawb yn cyfri’r diwrnodau tan Ewro 2016 a Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio, bydd athletwyr Cymru’n edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous o chwaraeon yn 2016.
Bydd Gweinidogion hefyd yn dal ati i weithio gydag UK Sport a Llywodraeth Cymru i ddynodi a sicrhau digwyddiadau chwaraeon o safon fyd-eang. Bydd hyn yn cadarnhau nodweddion arbennig Cymru fel cyrchfan chwaraeon ac yn rhoi hwb cadarnhaol i economi Cymru.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Mae llwyddo yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn rhywbeth y mae ein gwlad yn falch iawn ohono. Rydyn ni i gyd yn cofio llwyddiant anhygoel Cwpan Ryder yng Nghasnewydd yn 2010 a’r ffaith fod wyth gêm Cwpan Rygbi’r Byd wedi’i chynnal yng Nghaerdydd y llynedd. Roedd y ddau ddigwyddiad wedi gadael eu marc ac mae’r wlad gyfan yn falch ohonyn nhw.
Gan fod Cymru’n mwynhau cymaint o lwyddiant yn y byd chwaraeon, dyma’r amser delfrydol i ganfod sut gallwn ni ddenu rhagor o ddigwyddiadau chwaraeon byd-eang yma. Er enghraifft, Gemau’r Gymanwlad.
Dylai’r cyfleoedd i gynnal digwyddiadau o’r fath yng Nghymru fod yn ddiderfyn. Mae modd iddyn nhw ddod â miliynau o bunnau i’n heconomi a chreu miloedd o swyddi, a gallan nhw adael budd a fydd yn para ac ysbrydoli pobl ifanc o bob cwr o Gymru i fwynhau chwaraeon.
Rwy’n gobeithio y bydd un o ddinasoedd Cymru’n gwneud bid i gynnal Gemau’r Gymanwlad yn y dyfodol. Rwy’n benderfynol y byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru i hyrwyddo chwaraeon yng Nghymru a Chymru fel cyrchfan o’r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr.
Dywedodd Tracey Crouch, y Gweinidog Chwaraeon:
Pan ddaw’n fater o gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, mae gan Gymru enw da gyda’i llwyddiannau diweddar yn cynnwys gemau prawf Cyfres y Lludw, Super Cup UEFA a gemau yn ystod Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair a Rygbi’r Undeb.
Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi swyddfa Cymru i gynnig ar gyfer digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru yn y dyfodol, a fydd yn sefydlu’r wlad unwaith eto fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer chwaraeon ac yn llwyfan i ddangos doniau ei hathletwyr ei hun a sêr chwaraeon o bob cwr o’r byd.
Nodiadau i olygyddion
Mae llwyddiannau diweddar sector chwaraeon Cymru’n cynnwys:
- Bydd Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn cael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd (a fydd yn cael ei galw’n Stadiwn Principality o 22 Ionawr 2016) yn 2017.
- Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru’n ennill ei le ym Mhencampwriaethau Ewro 2016
- Cynhaliwyd Gêm Brawf Cyfres y Lludw yn stadiwm SWALEC Caerdydd am y tro cyntaf yn 2015
- Enillodd Tîm Cymru fwy o fedalau nag erioed yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow 2014
- Cynhaliwyd wyth gêm Cwpan Rygbi’r Byd yn Stadiwm y Mileniwm yn 2015