Datganiad i'r wasg

Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth i weithio gyda Swyddfa Cymru i wella darpariaeth iaith Gymraeg ar wefan llywodraeth y DU

David Jones MP: “Mae’r iaith Gymraeg yn chwarae rhan hollbwysig yn hunaniaeth a diwylliant Cymru.”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
"Flag"

Welsh Flag

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi croesawu ymrwymiad gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) i wella profiad siaradwyr Cymraeg wrth ddefnyddio gwefan llywodraeth y DU.

Mae’n dilyn taith o gwmpas GDS gan David Jones AS lle gwelodd sut yr oedd y gwasanaeth yn arwain y broses o weddnewid y llywodraeth yn ddigidol i greu gwasanaethau cyhoeddus modern, effeithiol, digidol-diofyn sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Yr oedd yr ymweliad hefyd yn cynnwys cyflwyniad ar y gwasanaeth Lwfans Gofalwyr a lansiwyd yn ddiweddar sy’n caniatáu i ofalwyr Cymraeg eu hiaith i wneud cais am eu Lwfans Gofalwr yn y Gymraeg ar-lein.

Dywedodd Mr Jones:

Rwy’n falch iawn o fod wedi gweld y gwaith gwych ac arloesol y mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth yn ei wneud wrth ddylunio gwasanaethau ar-lein sy’n galluogi darparu gwasanaeth cyhoeddus gyda’r gorau yn y byd tra’n gwneud arbedion sylweddol i drethdalwyr.

Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau ar-lein o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg ac fel siaradwr Cymraeg fy hun rwy’n llwyr ddeall y rôl bwysig a hanfodol a chwaraeir gan yr iaith yn ein hunaniaeth a’n diwylliant.

Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda GDS i wneud popeth a allwn i gefnogi’r defnydd o’r iaith Gymraeg ar wefan llywodraeth y DU.

Dywedodd Mike Bracken, Cyfarwyddwr Gweithredol GDS:

Adeiladwyd GOV.UK i gwrdd ag anghenion pob defnyddiwr a dyna pam fy mod yn falch ein bod yn cefnogi siaradwyr Cymraeg i gael mynediad at wasanaethau a gwybodaeth y llywodraeth.

Rydym yn cydweithio’n agos â Swyddfa Cymru i sicrhau bod y cynnwys iaith Gymraeg ar GOV.UK yn cael ei angori gan ymchwil defnyddwyr o ansawdd uchel sy’n darparu gwasanaeth symlach, cliriach a chyflymach ar gyfer defnyddwyr.

Darpariaeth yn yr iaith Gymraeg ar hyn o bryd:

  • Gall pob un o gyrff y llywodraeth gyhoeddi fersiynau a’u newyddion, adroddiadau a chyhoeddiadau eraill yn Gymraeg ac yn Saesneg, gyda defnyddwyr yn gallu toglo rhwng y ddau fersiwn ar safle GOV.UK.

  • Mae fersiynau iaith Gymraeg o rai o’r tudalennau mwyaf poblogaidd ar GOV.UK yn ymdrin, er enghraifft â chwilio am waith yn y llywodraeth, cynghorydd budd-daliadau a cheisiadau treth car, i gyd wedi cael eu datblygu.

  • Mae canolfan iaith Gymraeg â dolen at bob gwasanaeth iaith Gymraeg ar safle GOV.UK.

  • Swyddfa Cymru yw’r adran arweiniol ar faterion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg yn Whitehall. Cafodd swyddog o Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ei secondio i Swyddfa Cymru’r llynedd fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i wella darpariaeth yn yr iaith Gymraeg ar draws y llywodraeth.

Gwybodaeth bellach am y GDS:

  • Sefydlwyd y GDS mewn ymateb i adroddiad Martha Lane Fox, ‘Directgov 2010 and beyond: revolution not evolution’, ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod y llywodraeth yn cynnig cynnyrch digidol o safon byd sy’n cwrdd ag anghenion pobl ac yn cynnig gwell gwerth am arian trethdalwyr.

  • Mae cyfnewid gwefannau Directgov a Business Link â GOV.UK yn arbed hyd at £50 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

  • Bydd arbedion posibl o £1.7 miliwn bob blwyddyn drwy wneud holl wasanaethau’r llywodraeth yn ddigidol diofyn ar gyfer y llywodraeth a defnyddwyr.

  • Mae GOV.UK yn derbyn dros 50 miliwn o ymweliadau bob mis (35% ohonynt o ddyfeisiadau tabled a symudol). Ar y cyfan, cafwyd 801 miliwn o ymweliadau ers lansio ym mis Hydref 2012 a 2.3 biliwn wedi edrych ar dudalennau.

Cyhoeddwyd ar 3 July 2014